JONES, WILLIAM (1675?-1749), mathemategwr

Enw: William Jones
Dyddiad geni: 1675?
Dyddiad marw: 1749
Priod: Mary Jones (née Nix)
Plentyn: William Jones
Rhiant: Elizabeth George (née Rowland)
Rhiant: John George
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1674 neu 1675 yn y Merddyn, Llanfihangel Tre'r Beirdd (y tyddyn nesaf at y Fferem, lle y ganwyd y Morysiaid, yr un flwyddyn â Morris ap Rhisiart Morris. Symudodd ei rieni i'r Tyddyn Bach, Llanbabo, a phan fu farw ei dad aeth ei fam i fyw i'r Clymwr yn yr un plwyf - am hynny y cyfeiria'r Morysiaid ato fel ' Pabo.' Enw ei dad oedd John George; ei fam oedd Elizabeth Rowland o deulu Bodwigan, Llanddeusant (J. E. Griffith, Pedigrees, 3), ac yr oedd ei mam hi'n aelod o deulu Tregaian, ac felly, yn ôl Lewis Morris (Add. M.L., 190), yn perthyn i dad ac i fam y Morysiaid. Yn ôl cofiannydd ei fab, yn 1680 y ganwyd William Jones, ond y mae ' 1675 ' y D.N.B. yn haws ei gredu. Aeth i ysgol yn Llanfechell, a gwnaeth gymaint sôn amdano'i hun fel rhifyddwr nes i'w feistr tir (yr arglwydd Bulkeley) ei anfon i Lundain; bu'n gyfrifydd i fasnachwr yno, ond cafodd swydd fel athro mathemateg ar long ryfel, ac ennill sylw'r llyngesydd Anson. Wedyn bu'n athro mewn teuluoedd pendefigaidd; daeth dau o'i ddisgyblion, Thomas Parker (iarll Macclesfield) a Philip Yorke (iarll Hardwicke) yn gangellorion y deyrnas. Cymerodd Macclesfield ef drachefn yn athro i'w fab, a chastell y teulu, Shirburn yn sir Rhydychen, fu ei gartref am flynyddoedd meithion. Collodd arian pan dorrodd ei fanc, ond trwy ei gyfeillgarwch â'r mawrion' cafodd amryw segurswyddi. Bu'n briod ddwywaith. Priododd (1) â gweddw'r marsiandïwr a'i cyflogodd ar ôl iddo fynd i Lundain. Gall hyn egluro sut y cafodd yr arian a gollodd yn nes ymlaen; a (2) â Mary Nix ar 17 Ebrill 1731 pan oedd ef yn 56 a hithau yn 25, a chafodd ddau fab a merch. Bu farw yn Llundain 1 Gorffennaf 1749, ac fe'i claddwyd yn Eglwys St. Paul, Covent Garden ar 7 Gorffennaf 1749.

Gadawodd ei ôl ar fathemateg mewn amryw o ffyrdd. Yn ei lyfr Synopsis Palmarorium Matheseos a gyhoeddwyd yn 1706, defnyddiwyd, am y tro cyntaf erioed, y symbol π ar gyfer y gymhareb cylchedd/diamedr cylch. Ef, yn ei argraffiadau o weithiau Newton, a ddefnyddiodd y dot fel arwydd differu yn y calcwlws. Hefyd yn un o'i bapurau yn Nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol ffurfiodd reol adlog a bu amryw o fathemategwyr cyfoes yn gofyn ei farn am eu gwaith. Yr oedd yn gyfaill i Halley ac i Newton; golygodd rai o weithiau Newton; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1712, a bu'n is-lywydd y gymdeithas.

Y mae cyffyrddiadau William Jones â llenyddiaeth Cymru 'n ddamweiniol ond yn ddiddorol. Nid ymddengys fod neb o'r Morysiaid ond Richard yn ei adnabod yn bersonol, serch bod gennym lythyr gan Lewis yn 1749 (uchod) ato. Ond yn 1747, yr oedd Richard wrthi (Morris Letters, i, 129) yn ceisio cael gan William Jones gael ethol Lewis Morris yn F.R.S., megis yr oedd eisoes wedi llwyddo i gael Moses Williams i mewn. Pan gyhoeddwyd argraffiad Richard Morris o'r Beibl Cymraeg, 1746, yr oedd ynddo ddau fap, ' rhodd William Jones … i'r Cymry. ' Pan fu farw Moses Williams (1742), gwerthwyd ei lyfrau a'i lawysgrifau Cymraeg, gan ei weddw, i'w gyfaill William Jones, a bu Richard Morris yn rhestru'r llawysgrifau.

Yn ei ewyllys, gadawodd ei lyfrgell o ryw 15,000 o weithiau, a dros 50,000 o dudalennau mewn llawysgrif, gan gynnwys cannoedd o dudalennau yn sôn am y rhai yr oedd yn eu hadnabod, ac amryw o lawysgrifau Newton, i'r 3ydd Iarll Macclesfield, ac ni châi Richard Morris mwyach olwg arnynt. Edrydd Angharad Llwyd iddi hithau gynnig eu rhestru, ond cael ei gwrthod ar y tir ' nad oeddynt yn werth y drafferth.' Bu'r iarll yn sôn am eu rhoi yn yr Amgueddfa Brydeinig, ond ni wnaethpwyd hynny. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dal yng nghartref yr Iarll, castell Shirburn. Ond yn 1899 prynwyd nifer gan Syr John Williams, rhestrwyd hwy gan Gwenogvryn Evans, ac y maent bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Y mae plentyn ieuengaf William Jones

Syr WILLIAM JONES (1746 - 1794), ieithegwr ac awdurdod ar ieithoedd a chyfreithiau'r India

yn fydenwog. Yn hyn o beth, rhaid ymfodloni ar gyfeirio at ei gofiant (Memoirs of Sir William Jones, gan yr arglwydd Teignmouth, 1804), a'r ysgrif lawn yn D.N.B. Fe'i ganwyd 28 Medi 1746; priododd Anna Maria Shipley, chwaer i'r deon W. D. Shipley; bu farw 27 Ebrill 1794 yn Calcutta. Cwbl Seisnig oedd ei fagwraeth, ac er ei fod yn medru darllen rhyw gymaint o Gymraeg, ni siaradai mohoni ac nid astudiodd lawer arni - cyflwynwyd ef yn ffraeth i frenin Ffrainc gan lysgennad Prydain ym Mharis fel ' gwr a fedr bob iaith ond ei iaith ei hunan.' Y mae ei enw ar restr y Cymmrodorion yn 1778; ac y mae llythyr gan Richard Morris (ieu.) o'r India yn 1785 (Add. M.L., 781) a ddengys ei fod ef a Richard Morris ifanc yn trafod cyhoeddi Celtic Remains Lewis Morris; ond dyfynna Angharad Llwyd lythyr ganddo at Richard Morris yn 1790 yn tystio, ' er ei fod ef, fel Cymmrodor, yn wresog ei ddiddordeb yn hynafiaethau a llenyddiaeth Cymru, eto nad oedd ganddo funud o amser i'w sbario atynt '.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.