MORRIS, MORRIS ap RHISIART, neu MORRIS PRICHARD (1674 - 1763),

Enw: Morris ap Rhisiart Morris
Dyddiad geni: 1674
Dyddiad marw: 1763
Priod: Margaret Morris (née Owen)
Plentyn: Ellen Davies (née Morris)
Plentyn: William Morris
Plentyn: Richard Morris
Plentyn: John Morris
Plentyn: Lewis Morris
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Hugh Owen

tad Lewis, Richard, William, a John Morris (gweler yr ysgrifau arnynt), a gŵr Margaret Owen (1671 - 1752) o Fodafon-y-glyn yn Llanfihangel-tre'r-beirdd; fe'i ganwyd ef yn y Tyddyn Melus yn yr un plwyf, a phriododd ym mis Mehefin 1699. Wedi geni ei fab hynaf (1701), aeth i fyw i'r Fferem, ond symudodd yn 1707 i Bentrerianell, gan ddal ymlaen gyda'i waith fel cylchwr, ac amaethu. Pan fu farw ei wraig, aeth ei ŵyres Margaret Owen (merch ei ferch Elin) a'i gŵr yno i fyw gydag ef. Ymadawodd â Phentrerianell yn 1761, a mynd i fyw mewn llety yn Llannerch-y-medd, lle y bu farw 25 Tachwedd 1763. Cyfranogai yn niddordebau llenyddol a hynafiaethol ei feibion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.