MORRIS, RICHARD (1703 - 1779), sylfaenydd Cymdeithas y Cymmrodorion

Enw: Richard Morris
Dyddiad geni: 1703
Dyddiad marw: 1779
Priod: Mary Morris (née Major)
Priod: Elizabeth Morris
Plentyn: Angharad Morris
Plentyn: Margaret Morris
Plentyn: Marian Morris
Plentyn: Richard Morris
Rhiant: Margaret Morris (née Owen)
Rhiant: Morris Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sylfaenydd Cymdeithas y Cymmrodorion
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ail fab Morris ap Rhisiart Morris (Morris Prichard) a brawd i Lewis, William, a John Morris. Ganwyd 2 Chwefror 1702/3 yn y Fferem, Llanfihangel Tre'r Beirdd. Bu'n gweithio gyda'i dad, ac y mae gennym restr yn ei law ef ei hunan o gelfi pren a wnaethpwyd ganddo yn y gweithdy yn 15 oed. Yn ôl papurau y diweddar Iolo A. Williams fe aeth Richard i Lundain 1 Awst 1722 a'i frawd Lewis ar y 7 Mai 1723. Yr oedd wedi troi at glercio a chadw llyfrau cownt cyn iddo fynd i Lundain - ni welodd Fôn wedyn, ac unwaith yn unig y gwelodd Gymru, sef yn 1766 pan ymwelodd â gweddw ei frawd Lewis ym Mhenbryn. Prin a damweiniol yw ein gwybodaeth o fanylion ei yrfa yn Llundain, oblegid cyfran fechan iawn o lythyrau'r Morysiaid sydd yn llaw Richard, ac i'r ychydig flynyddoedd rhwng 1759 a 1763 y perthyn y rhan fwyaf o'r rheini. Ond y mae'n eglur mai fel clerc a chyfrifydd yr enillai ei damaid yn ei flynyddoedd cyntaf yno. Sonia yn 1728 am obaith am 'le gwerth £100 y flwyddyn'; yn yr un flwyddyn dewiswyd ef yn un o stiwardiaid cinio Gwyl Ddewi Cymdeithas yr Hen Frutaniaid at y flwyddyn nesaf; priododd yn 1729, ac yn 1730 bu ei frawd William yn ymweld ag ef ac yn cyfranogi o'r cinio Gwyl Ddewi - rhwng popeth, gellir meddwl bod Richard yn dyfod yn ei flaen yn bur dda. Ond wedyn, daeth adfyd arno. Aeth yn feichiau dros ryw wr a 'dorrodd,' a bu raid iddo fwrw 12 mis yng ngharchar y 'King's Bench' yn 1734-5. Cwyna mor ddi-help fu ei frodyr iddo - ar wahân i John, a oedd gydag ef yn Llundain yn 1735, ill dau 'bron â newynu.' Sgrifenna at ei rieni yn Chwefror 1739 yn gwynfannus, gan sôn am 'bedair blynedd galed iawn' yr oedd newydd fynd drwyddynt; ond yr oedd pethau'n dechrau goleuo - Meyrick o Fodorgan wedi rhoi benthyg ychydig iddo, ac addo gwneud rhywbeth drosto; yn wir, yr oedd ganddo addewid o dri mis o waith fel clerc ynglyn â'r Senedd; gwyddom (Llawysgrif R.M. o Gerddi, cxx) ei fod hefyd yn gweithredu fel cyfieithydd yn y llysoedd barn. Yn 1742, cafodd Thomas Ellis o Gaergybi gan esgob Bangor roi gwaith iddo ynglyn ag argraffu pamffledau Cymraeg; ac yn 1744 dewiswyd ef i arolygu argraffiad y S.P.C.K. - yn 1746 a 1752 y daeth dau 'argraffiad Richard Morris' allan, ac ystyrir hwy hyd heddiw'n waith da. Bu hefyd, trwy ddylanwad Meyrick eto, yn gwastatáu cyfrifon stad yr arglwydd Londonderry (i bob golwg, rhwng 1742 a 1747); ac wrth edrych yn ôl yn ei hen ddyddiau (1770), y mae'n enwi rhes o fawrion y bu'n gwneud yr unrhyw wasanaeth iddynt. Ond yn 1747 (gellir yma eto ddyfalu mai dylanwad Bodorgan ar Thomas Corbett - gweler yr ysgrif ar Lewis Morris - a fu ar waith) penodwyd ef yn glerc yn swyddfa'r llynges ('y Nafi Offis'); erbyn 1757 yr oedd yn brif glerc ('Chief Clerk for Foreign Accounts to the Comptroller of the Navy'), â chyflog o £100, ac yn 'yswain' (er difyrrwch mawr i'w frawd William); bu yn y swydd honno weddill ei oes, ond daliodd at 'my private agency … out of office hours.'

Yr oedd y diwydrwydd hwn (a nodweddai ei frodyr hefyd) yn ddiamau'n gynhenid yn Richard Morris - fe ddywed rywdro nad oedd ganddo amser hyd yn oed i gymryd pryd o fwyd. Ond yr oedd hefyd yn orfodaeth arno, yn herwydd ei anallu i edrych yn llygad y geiniog. Yn gwbl groes i'w frawd Lewis, yr oedd yn hael ac anhunangar a rhadlon i ormodedd. Yr oedd anffawd 1734 yn gwbl nodweddiadol; a chwyna Lewis yn chwyrn fod holl Gymry Llundain yn byw ar gefn Richard, a'i fod yn esgeuluso ei wraig a'i blant i helpu eraill. Yr oedd yn gwbl ddibris o'i gysur ac o gysur ei deulu. Y mae'n anodd (yn amhosibl yn wir) olrhain ei symudiadau mynych o lety i lety; cysgai (meddai Lewis) mewn hofl a alwai'n 'swyddfa,' a'i wraig a'i blant 'mewn llofft' mewn ty arall. Cwyna Lewis hefyd yn erwin ar ddrwg-effeithiau cyfeddach y Cymmrodorion, ac oriau afresymol eu cyfarfodydd, ar iechyd Richard. Ym mis Awst 1757 plannodd Lewis ei droed i lawr a mynnu gan Richard gymryd ty iawn yn Stepney; ond erbyn 1763 yr oedd wedi mynnu symud oddi yno i dy o fewn 'terfynau' Twr Llundain, i fod yn agos at ei swyddfa; ac yno y bu farw.

Cymhellion dyngarol a chymdeithasgar yn bennaf a'i harweiniodd i sefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion, fis Medi 1751 - yn enwedig sêl dros ysgol Gymreig Cymdeithas yr Hen Frutaniaid, a oedd ar y pryd braidd yn y merddwr, ac a fu'n agos iawn at ei galon bob amser. Ond yr oedd hefyd mewn llawn gydymdeimlad â bwriadau mwy uchelgeisiol ei frawd Lewis, a'i ddiddordebau llenyddol yn unrhyw, serch na honnai ysgolheictod Lewis. Ac yntau'n fachgen, yr oedd wedi gwneuthur casgliad o brydyddiaeth ('rydd,' gan mwyaf) - cyhoeddwyd hwn dan y teitl Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, gan T. H. Parry-Williams yn 1931, ac y mae yn y gyfrol honno hefyd ddarnau o waith Richard ei hunan yn ei gyfnod bore yn Llundain. Yr oedd hefyd wedi bod wrthi'n rhestru'r llawysgrifau Cymraeg a brynodd y mathemategwr William Jones gan weddw Moses Williams; heb sôn am ei waith gofalus gyda Beibl a Llyfr Gweddi'r S.P.C.K. (yn ddiweddarach, yn 1770, cyhoeddodd argraffiad plyg mawr, darluniedig, o'r Llyfr Gweddi). Felly naturiol oedd iddo gefnogi cynlluniau Lewis i wneud math o 'academi' o'r Cymmrodorion ac i gyhoeddi barddoniaeth Gymraeg dan ei nawdd hi. Ysywaeth, nid oedd fawr neb o'r gymdeithas (hyd nes daeth 'Owain Myfyr' yn ysgrifennydd cynorthwyol iddi bron yn niwedd oes Richard Morris) yn barod i gydweithio yn y modd hwn, a chywir ddigon yw'r dywediad mai 'Richard Morris oedd y Cymmrodorion' yn hynny o beth. Ac yr oedd yntau'n ddyn llawer rhy brysur, yn enwedig wedi i ryfel 1756-63 dorri. Ond cywirodd destun Diddanwch teuluaidd 1763, a darllenodd broflenni'r brydyddiaeth Gymraeg sydd yn Specimens of Antient Welsh Poetry, 1764, 'Ieuan Fardd' (Evan Evans). Casglodd nifer mawr o lawysgrifau, a phan fu farw Lewis Morris, brysiodd i lawr i Benbryn i gydio yn llawysgrifau hwnnw, yn nannedd ei nith Ellen - y mae gennym le mawr i ddiolch iddo am eu hachub rhag mynd ar chwâl. Llywyddai'r Cymmrodorion (bu'n llywydd hyd ei farw) fel unben; gallai golli ei dymer a dweud pethau hallt, ond bu'n faddeugar i Oronwy Owen, yn amyneddgar y tu hwnt gyda 'Ieuan Fardd,' ac yn garedig wrth lenorion eraill.

Bu'n briod bedair gwaith, ond ni wyddom hyd yn oed enwau'r ddwy wraig gyntaf. Bu'r gyntaf oll, a briododd yn 1729, farw tua 1740; o'u plant (ni wyddom pa gynifer), sonnir yn y llythyrau am un ferch, Marian, a briododd yn anffodus ac a gilia o'r golwg yn 1763, ond yr oedd hi eto'n fyw pan wnaeth ei thad ei ewyllys. Ailbriododd Richard yn 1741; bu'r ail wraig farw yn 1750; yr oedd o'r briodas hon amryw blant, a fu farw'n gynnar (cyn y briodas nesaf). Erbyn 1754 yr oedd Richard yn briod am y trydydd tro; enw'r wraig oedd Elizabeth, merch o Gaerwrangon, a'r tro hwn y mae ei ddau frawd yn uchel eu clodydd. Ganed 10 o blant o'r briodas hon, meddai ewyllys Richard; enwir saith ohonynt yn y llythyrau, a bu tri ohonynt fyw ar ôl eu mam (a fu farw yn Hydref 1772), sef dwy ferch, Angharad a Margaret (sonnir llawer amdanynt yn y llythyrau, ond ni wyddys ddim o'u hanes wedi marw eu tad), a RICHARD MORRIS, a aned 31 Ionawr 1762. Anfonwyd ef at ei fodryb ym Mhenbryn i ddysgu Cymraeg, a magodd gryn ddiddordeb yn hoff bynciau ei dad a'i ewythr Lewis; daeth yn aelod o'r Cymmrodorion ac o'r Gwyneddigion (am ryw reswm, nid ymunodd ei dad erioed â honno, er mai ei ffefryn 'Owain Myfyr' a'i cychwynnodd), a bwriadai gyhoeddi Celtic Remains ei ewythr, ond ni ddaeth dim o'r bwriad hwnnw, oblegid aeth Richard i'r India'n fasnachwr, ac yn 1790 y clywir ddiwethaf amdano; yr oedd wedi mynd â rhai o lyfrau ei dad i'r India gydag ef, ond yn ôl ewyllys ei dad fe'i hanfonodd i'r ysgol Gymraeg yn Llundain yn 1785.

Rhywbryd cyn 7 Tachwedd 1773 (pan wnaeth ei ewyllys) yr oedd Richard Morris wedi priodi drachefn, â gweddw o'r enw Mary Major, o Stepney. Y mae peth awgrym nad oedd yn dda ei fyd; dymunai yn 1772-3 encilio i Gymru, ond ni allai fforddio ymddeol; a sonia Thomas Pennant am faddau i'w weddw £63 a oedd i ddyfod iddo drwy law Richard Morris ar gyfrif y British Zoology, am iddi gael ei gadael ' in narrow circumstances.' Yr oedd hefyd yn fregus ei iechyd, a chafodd ganiatâd parod yn 1776 i fyw mewn ystafell yn yr ysgol Gymraeg am ddeufis neu ragor 'for the benefit of the air.' Ond 'yn y Twr y bu farw fis Rhagfyr 1779, a chladdwyd gyda'r drydedd wraig a'u plant, yn S. George-in-the-East. Profwyd yr ewyllys ar ddydd Calan 1780. Gadawodd y cwbl o'i lyfrau a'i lawysgrifau Cymraeg i'r ysgol Gymraeg yn Gray's Inn Road, 'gan obeithio y chwanegir atynt lawysgrifau fy nghyfaill parchus a gwlatgar Syr Watkin Williams Wynn a boneddigion eraill a gâr yr hen iaith Gymraeg' - breuddwydiai Richard Morris felly am lyfrgell genedlaethol i Gymru. Yn yr ysgol y bu'r llawysgrifau (a gynhwysai hefyd lawysgrifau Lewis Morris) hyd 1844, pan drosglwyddwyd hwy'n ddoeth iawn i'r Amgueddfa Brydeinig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.