ELLIS, THOMAS (1711/12 - 1792), clerigwr

Enw: Thomas Ellis
Dyddiad geni: 1711/12
Dyddiad marw: 1792
Rhiant: Edward Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Ngallt-melyd, Sir y Fflint, yn fab i Edward Ellis. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 5 Chwefror 1727-8, yn 16 oed; graddiodd yn 1731, ac yn B.D. yn 1741 (Foster, Alumni Oxonienses), bu'n gymrawd o'r coleg 1731-61 (Hardy, Jesus College), ac ymhellach ymlaen efe oedd y cymrawd hynaf. Yn 1737 cafodd gan ei goleg guradiaeth (neu ' lectureship') Caergybi. Yno bu'n weinidog hynod weithgar, llym a Phiwritanaidd braidd; cefnogai ysgolion Griffith Jones yn selog, a gwelir llawer llythyr ganddo yn y Welch Piety, gan gynnwys condemniad pendant o lyfr John Evans, Eglwys Cymyn; gellid meddwl ei fod yn fath o arolygydd ar ysgolion cylchynnol Môn, ac yr oedd yn un o'r hanner dwsin o glerigwyr yng Nghymru a benodwyd gan Griffith Jones i dderbyn cyfraniadau at y mudiad. Ymboenai'n fawr i ddileu'r cyswllt, ym marn y wlad, rhwng yr ysgolion a Methodistiaeth, neu hyd yn oed Ymneilltuaeth (gweler 'John Wesley in North Wales ,' Bathafarn, ii, 50-1). Yn 1746 (? ail argraffiad yn 1747; gweler Morris Letters, i, 120, a mannau eraill), cyhoeddodd Byr Grynhoad o'r Grefydd Cristionogol, yn erbyn sism; a phan oedd John Wesley yng Nghaergybi ym Mawrth 1748 (Wesley's Journal, 26-7 Mawrth), mynnodd Ellis ganddo sgrifennu rhywbeth i gynghori'r Methodistiaid i beidio â chefnu ar yr Eglwys - eisteddodd Wesley i lawr (yn ei eiriau ef ei hunan) ar unwaith, a sgrifennu A Word to a Methodist; troswyd hwnnw yn Gymraeg gan Ellis, a'i argraffu yn Nulyn, 1748, dan y teitl Gair i'r Methodist. Yr oedd Ellis hefyd yn un o hyrwyddwyr argraffiad y S.P.C.K. yn 1746 o'r Beibl Cymraeg, a thybir mai efe a anogodd roi'r gwaith o'i ddwyn drwy'r wasg i Richard Morris. Yr oedd yn wir yn gyfaill mawr i'r Morysiaid (yn fwyaf arbennig i'w gymydog William Morris), ac y mae ugeiniau o gyfeiriadau ato yn eu llythyrau. Ar gynnig William Morris, etholwyd ef yn aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion; cymerai ddiddordeb mawr yn llenyddiaeth Cymru, a bu'n garedig iawn wrth Oronwy Owen. Yng Ngorffennaf 1759 rhoddwyd iddo fywoliaeth orau Coleg Iesu, sef Nutfield yn Surrey. Bellach, gallai fforddio ymado â'i gymrodoriaeth golegol (nid oedd ei gyflog yng Nghaergybi ond £50), a phriodi (1762); cafodd ddau o blant. Bu farw yn Nutfield, 23 Chwefror 1792, yn 80 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.