OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd

Enw: Goronwy Owen
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1769
Priod: Joan Owen (née Simmonds)
Priod: Owen (née Clayton)
Priod: Elin Owen (née Hughes)
Rhiant: Siân Parri
Rhiant: Owen Gronw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd ar Galan Ionawr 1723 mewn bwthyn ar y Rhosfawr ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn sir Fôn. Yr oedd ei daid, Goronwy Owen yr eurych, a'i dad, Owen Gronw, yn rhigymwyr ac achyddion, a'i fam, Siân Parri, yn Gymraes ddiwylliedig. Pan oedd yn 10 oed aeth i ysgol a gynhelid yn Llanallgo; yn 1734 neu 1735 i ysgol rad ym Mhwllheli, ac oddi yno yn 1741 i Ysgol y Friars, Bangor. Tan y prifathro Edward Bennet, a'i gynorthwywr Humphrey Jones, tyfodd yn ysgolhaig clasurol. Ar 20 Medi 1741 apeliodd at Owen Meyrick Bodorgan, un o ymddiriedolwyr 'Elusen Lewis,' am ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ac ar 3 Mehefin 1742 derbyniwyd ef yno fel 'servitor,' a chael ymaelodi fel aelod o'r brifysgol ar yr un dyddiad. Arhosodd ei enw ar y llyfrau (gyda bylchau) tan fis Mawrth 1748, ond ni thrigiannodd yno, ar wahân i ychydig ddyddiau yn ystod pythefnos cyntaf Mehefin 1744. Rhwng 1742 a 1744 bu'n 'usher' yn ysgol rad Pwllheli, a rhwng 25 Ionawr 1744-5 a 25 Tachwedd 1745 bu'n byw yn Ninbych, ac yn 'usher' yn yr ysgol yno. Daeth, yn ôl pob tebyg, i gysylltiad â beirdd gwlad y cylchoedd hyn. Yn Ionawr neu Chwefror 1746 urddwyd ef yn ddiacon, a chafodd guradiaeth Llanfair Mathafarn Eithaf, a chyfle i gymdeithasu â beirdd a hynafiaethwyr sir Fôn. Gorfu iddo adael a bu'n gurad yng Nghroesoswallt ac yn athro ysgol am dair blynedd; yno y priododd Elin, merch Owen a Margaret Hughes, masnachwyr pwysig. Yna symudodd yn gurad i Uppington, Sir Amwythig, ac athro ysgol Donnington. Yn Donnington y lluniodd rai o'i gywyddau pwysicaf, gan gynnwys 'Cywydd Dydd y Farn.' Drwy help William Morris aeth yn gurad i Walton, pentref yn ymyl Lerpwl, a dechreuodd ar ei waith yn Ebrill 1753, a châi £13 am fod yn athro ysgol. Bu'n hapus yn Walton, ond yn weddol ddiffrwyth fel bardd. Ym mis Medi 1755 gadawodd Walton a throi i Lundain, gan feddwl y byddai'r Cymmrodorion yn ei gyflogi fel ysgrifennydd a chyfieithydd a thalu iddo 'am offeiriadu yn Gymraeg' mewn 'rhyw eglwys neu Gappel unwaith bob Sul.' Bu'r Cymmrodorion yn garedig iddo er na chafodd yr hyn a ddisgwyliai, a chafodd guradiaeth Northolt, pentref ym Middlesex, ac yma y cyfansoddodd gywyddau, a'r gorau ohonynt, sef 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch o Fôn, yr hwn a roddasai glod i Oronwy.' Cafodd ei ficer yn Northolt, y Dr. Samuel Nicholls, gyda chydsyniad esgob Llundain, iddo swydd ysgolfeistr ysgol ramadeg yng Ngholeg William and Mary, Williamsburg, yn Virginia, a chychwynnodd ar ei waith tua 9 Ebrill 1758, ac yr oedd hefyd, yn ôl pob tebyg, yn 'Professor of Humanity' (h.y. Lladin) yn yr un coleg. Cyn diwedd yr haf cyntaf priododd â Mrs. Clayton, chwaer llywydd y coleg, ond bu hi farw o fewn blwyddyn. Ymddiswyddodd o'r coleg, a chynnig am fywoliaeth S. Andrews, Brunswick County, Virginia, ar 25 Awst 1760, a'i chael ymhen blwyddyn, ac yno y bu tan ddiwedd ei oes. Yn 1761 prynodd blanhigfa i dyfu cotwm a thybaco, ac yn 1763 priododd â Joan Simmonds, ei drydedd wraig. Bu farw ddechrau mis Gorffennaf 1769, a chladdwyd ef yn ei blanhigfa. Rhestrwyd pedwar o bobl gaethiwedig fel rhan o’i ystad.

Ceir copïau o gywyddau a llythyrau gan Goronwy Owen mewn llawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r Llyfrgell Genedlaethol; dywedir fod llawysgrif o'i waith yn aros yn sir Fôn. Ymddangosodd tair cerdd o'i waith yn Dewisol Ganiadau yr Oes Hon, 1759; ceir bron y cwbl o'i gerddi yn Diddanwch teuluaidd , 1763; y mae pump na cheir yn Diddanwch Teuluaidd yn Corph y Gainc, 1810; ychwanegwyd y pump at y caneuon eraill yn ail argraffiad Diddanwch Teuluaidd, 1817. Cyhoeddodd John Jones, Llanrwst, argraffiad o weithiau Goronwy Owen yn 1860, sef Gronoviana ; y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, argraffiad yn 1876, ac Isaac Foulkes, Holl Waith Barddonol Goronwy Owen yn 1878. Ymhlith yr argraffiadau diweddaraf o weithiau Goronwy Owen ceir 'Cyfres y Fil,' 1902; Cywyddau Goronwy Owen, W. J. Gruffydd, 1907; Y Farn Fawr … a Dinistr Jerusalem; Clasuron Llenyddiaeth Cymru; 'Cyfres yr Ysgol Haf Gymreig,' 1907. Ymddangosodd 'Marwnad Lewis Morris' yn Almanac Gwilym Howel, 1770, a llythyrau Goronwy Owen yng Ngreal Llundain, y Cambrian Register, y Cambro-Briton, Y Gwyliedydd, ac y mae erthyglau ar Oronwy Owen yn y gwahanol gylchgronau.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.