Ganwyd yng Nghorffwysfa, Bethel, Sir Gaernarfon, 14 Chwefror 1881, mab John a Jane Elisabeth Griffith. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Bethel ac ysgol sir Caernarfon, lle'r oedd yn un o'r to cyntaf o ddisgyblion pan agorwyd yr ysgol yn 1894. Yn 1899 derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn llenyddiaeth Saesneg. Yn 1904 penodwyd ef yn athro yn ysgol ramadeg Beaumaris, ac yn 1906 yn ddarlithydd yn yr adran Gelteg o dan yr Athro Thomas Powel yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Treuliodd y blynyddoedd 1915-18 yn swyddog yn y llynges, a phan ryddhawyd ef, penodwyd ef yn Athro i ddilyn Powel, gan iddo ef ymddeol yn 1918. Parhaodd yn y swydd nes iddo yntau ymddeol yn 1946. Safodd fel ymgeisydd am sedd Prifysgol Cymru yn y Senedd dan nawdd y Rhyddfrydwyr yn 1943 yn erbyn Saunders Lewis , ymgeisydd Plaid Genedlaethol Cymru (fel y gelwid hi y pryd hwnnw) er ei fod ef ei hun yn aelod amlwg o'r blaid honno, ac etholwyd ef. Etholwyd ef eilwaith yn 1945, a pharhaodd yn aelod nes diddymu seddau'r prifysgolion yn 1950.
Prif faes Gruffydd fel ysgolhaig oedd Pedair Cainc y Mabinogi. Mor gynnar ag 1914 cyhoeddodd erthygl sylweddol yn Nhrafodion y Cymmrodorion o dan y teitl ' The Mabinogion '. Yna yn 1928 daeth ei brif gyfraniad, sef Math vab Mathonwy, ymdriniaeth â'r bedwaredd gainc, ac wedi egwyl go hir, Rhiannon yn 1953, trafodaeth ar y gainc gyntaf a'r drydedd. Yr amcan oedd dadansoddi'r chwedlau, a dangos pa elfennau cyntefig sydd ynddynt a sut yr asiwyd hwy ynghyd i wneud un cyfanwaith.
Agwedd arall ar ei ysgolheictod oedd ei lyfrau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg. Y cyntaf oedd Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (1922), sef, er gwaetha'r teitl, trafodaeth ar farddoniaeth gaeth y cyfnod yn unig. Yr ail oedd Llenyddiaeth Cymru, rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (1926). Er addo 'cyfres o gyfrolau ar Lenyddiaeth Cymru', ni chaed ond y ddwy hyn, ond buont yn dra defnyddiol mewn ysgol a choleg. Rhan o'r un diddordeb oedd golygu adargr. (1929) o Perl mewn adfyd Huw Lewys (1595), a'r llyfryn dwyieithog ar Ddafydd ap Gwilym (1935). Cymwynas arall Gruffydd mewn perthynas ag astudio llenyddiaeth Gymraeg oedd paratoi detholiadau o gerddi. Y cyntaf oedd Cywyddau Goronwy Owen (1907). Casgliad oedd Y Flodeugerdd newydd (1909), o gywyddau beirdd yr uchelwyr - llyfr i'w ddefnyddio mewn dosbarth yn hytrach na gwaith ysgolheigaidd fanwl. Yna caed Blodeuglwm o englynion [1920], gyda rhagymadrodd yn egluro damcaniaeth John Rhys mai o'r cwpled elegeiog Lladin y tarddodd yr englyn unodl union (yn groes i farn J. Morris-Jones yn Cerdd Dafod). Yn 1931 ymddangosodd Y Flodeugerdd Gymraeg, sef detholiad o gerddi rhydd o'r cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a'r 20fed ganrif. Y mae'r rhagymadrodd yn ddiddorol am ei fod yn egluro cryn lawer ar syniad y golygydd am hanfod barddoniaeth. Cyhoeddwyd dwy ddarlith ganddo ar ffurf pamffledi - Ceiriog (1939) ac Islwyn (1942).
Yr oedd Gruffydd y bardd yn fwy adnabyddus i'w gydwladwyr na Gruffydd yr ysgolhaig. Cynigiodd am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902 ar y testun ' Trystan ac Esyllt ', pan enillodd Silyn Roberts. Ond ef a enillodd yn Llundain yn 1909 ar ' Yr Arglwydd Rhys '. Cyhoeddodd gerddi serch yn y cylchgrawn Cymru yn 1900 pan oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, ac yn yr un flwyddyn cyhoeddodd ef a Silyn Roberts gasgliad o'u cerddi dan y teitl Telynegion. Ymddangosodd Caneuon a cherddi, sef casgliad o'i gerddi ef ei hun, yn 1906. Ni chaed dim wedyn hyd 1923, pan gyhoeddwyd Ynys yr hud a chaneuon eraill, ac y mae yn y gyfrol honno gerddi a luniwyd rhwng 1900 ac 1922. Yn 1932 cyhoeddwyd Caniadau gan Wasg Gregynog, detholiad o'r cerddi yr oedd yr awdur yn barod i'w harddel. Y mae barddoniaeth Gruffydd yn amrywio'n rhyfedd o ran arddull a safon. Siwgwraidd ac ansoddeiriog yw'r cerddi cynnar, ac ynddynt aml adlais (a rhai cyfieithiadau) o delynegion Heine ac o farddoniaeth ramantaidd Saesneg dechrau'r ganrif o'r blaen. Ac eto fe geir ymysg hyn i gyd rai cerddi syml iawn eu mynegiant fel ' Cerdd yr hen chwarelwr '. Ceir hefyd rai darnau o feirniadaeth gymdeithasol ystrydebol ac arwynebol fel ' Y Pharisead ' a ' Sionyn '. Yn ddiweddarach caed agwedd fwy goddefgar ac arddull fwy uniongyrchol, fel yn ' Gwladys Rhys ' a ' Thomas Morgan yr Ironmonger '. Ond yr hyn sy'n rhyfedd yw fod y bardd wedi cynnwys rhai o gerddi'r hiraeth melys a cherddi'r ymosod sur yn ei bigion terfynol yng nghyfrol Gwasg Gregynog yn 1932. Y mae ei gerddi gorau yn gyfraniad gwerthfawr i farddoniaeth Gymraeg, ac y mae'r gerdd hir ' Ynys yr hud ' yn un o gerddi rhagoraf adfywiad yr 20fed ganrif.
Y mae camp arbennig ar ryddiaith Gruffydd. Nid oes yn ei arddull ddim o'r gorymdrech na'r ffug hynafiaeth a welir yng ngwaith rhai o lenorion y deffroad yn hanner cyntaf y ganrif, ond er hynny y mae'n ysgrifennu gyda graen bwriadus. Ei waith rhagoraf yw Hen atgofion. Cyhoeddwyd y rhain i gychwyn yn Y Llenor rhwng 1930 ac 1935, ac yn llyfr yn 1936. Ymddangosodd pedair pennod ychwanegol yn Y Llenor rhwng 1936 ac 1941, a dyna'r cwbl, yn anffodus. Ceir yn yr atgofion ddrych o bersonoliaeth yr awdur ei hun, o'r fro lle magwyd ef, ac o genedl y Cymry mewn cyfnod pwysig yn ei hanes, a'r cyfan wedi ei draethu â llawer o hiwmor a chraffter treiddgar. Yn ei Cofiant i O.M. Edwards (1937) cafodd Gruffydd berson a chefndir a chyfnod yr oedd yn eu llwyr adnabod, ac y mae llawer o'r un nodweddion ar y gwaith hwn ag sydd ar Hen atgofion.
Yn 1922 cychwynnwyd Y Llenor fel cylchgrawn chwarterol, a Gruffydd yn olygydd, a'i enw ef yn unig a welir yn y swydd hyd 1945, a T.J. Morgan yn gydolygydd o 1946 hyd y diwedd yn 1951. Bu'r Llenor yn gyfrwng i gyhoeddi gweithiau'r prif feirdd a llenorion mewn cyfnod coeth a thoreithiog yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Cyfrannodd y golygydd ei hun gryn lawer iddo, erthyglau o feirniadaeth lenyddol a rhai traethiadau dychanus ar agweddau ar fywyd y genedl. Yn 1926 dechreuodd ei ' Nodiadau'r Golygydd ', a chafodd gyfle i draethu ei farn ar bynciau o bob math yr oedd ef yn teimlo'n gryf arnynt, ac i gyfiawnhau ei ddisgrifiad ohono'i hun fel 'prif gythraul y cyhoedd yng Nghymru '. Ymysg y pynciau a drafodid yr oedd pob agwedd ar safle'r iaith, crefydd, Seisnigrwydd rhai dosbarthiadau yn y gymdeithas Gymreig, gwendidau darlledu, llygredd yn y bywyd cyhoeddus, llosgi'r ysgol fomio, addysg ar bob lefel, ac yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol Dro ar ôl tro bu'r golygydd yn cwyno bod pwyllgorau lleol yr Eisteddfod yn bwnglera, fod gwŷr di-Gymraeg a dihaeddiant yn cael eu hanrhydeddu a bod gormod o ddefnyddio'r iaith Saesneg ar y llwyfan. Pan ddechreuwyd diwygio'r Eisteddfod yn 1935 drwy lunio cyfansoddiad newydd a dwyn y Llys a'r Cyngor i fod, yr oedd Gruffydd yn un o'r cynrychiolwyr a fu'n gwneud y gwaith, ac o hynny ymlaen bu iddo gyswllt agos â'r Eisteddfod, nid yn unig fel beirniad (ar y bryddest y rhan amlaf) ond hefyd fel aelod o'r Cyngor ac fel llywydd y Llys o 1945 hyd ei farw.
Ysgrifennodd Gruffydd dair drama - Beddau'r proffwydi, a berfformiwyd gyntaf gan aelodau o goleg Caerdydd yn 1913, Dyrchafiad arall i Gymro (1914), a Dros y dŵr (1928). Cyhoeddwyd ei gyfieithiad o Antigone Sophocles yn 1950. Gwelir ei lyfryddiaeth gyflawn yn Jnl. W.B.S., 8, 208-219; 9, 53-4.
Dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Rennes (1946) a Phrifysgol Cymru (1947), a derbyniodd fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1946). Bu'n fawr ei ddylanwad mewn amryw gylchoedd yng Nghymru hyd ddiwedd ei oes, er bod ei syniadau yn fynych iawn yn destun dadl ac anghytundeb. Un rheswm am hynny oedd ei ddull difloesgni o ddweud ei feddwl, a rheswm arall oedd annibyniaeth y meddwl hwnnw, ac yn wir ei anghysondeb rai gweithiau. Ond yr oedd yn rhyfeddol o gyson yn ei wrthwynebiad i anghyfiawnder neu anonestrwydd, a hynny oedd un rheswm am barch dwfn ei gyfeillion, a phawb a'i hadnabu, tuag ato.
Yn 1909 priododd Gwenda, merch John Evans, gweinidog Aber-carn. Ymwahanasant rai blynyddoedd cyn diwedd eu hoes. Bu iddynt un mab. Bu Gruffydd farw 29 Medi 1954.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.