o deulu yn nhrefdaeog Bodellog ger Caernarfon. Cyfenwid ei hendaid yn ' William Bodellog,' a'i daid yn ' William ap William '; cafodd hwnnw (o'i wraig Margaret Bennett) dri mab, Ieuan, Rhys, a Lewis. Priododd Lewis ag Agnes ferch William Foxwist o'r Prysgol, o deulu o fan foneddigion, a ganed iddynt bedwar mab - Hugh, Griffith, Richard, a John. Cafodd Hugh Lewis ddigon o addysg i'w alluogi i ymaelodi yng Ngholeg All Souls, Rhydychen, ar 10 Awst 1582; rhoddir ei oedran ar y pryd yn 20; graddiodd o Hart Hall yn Ionawr 1586/7. Ymddengys i'w gariad at lenyddiaeth Cymru ddwysáu yn Rhydychen; magodd wybodaeth dda o gerdd dafod ac ystyrid ef yn gryn brydydd. Ni wyddys fawr o'i helynt am rai blynyddoedd, ond yn y blynyddoedd hynny bu wrthi'n cyfieithu traethawd gan Otto Werdmüller o Zürich a oedd wedi ei drosi yn Saesneg (1550) gan Miles Coverdale dan y teitl, A Spyrytuall and moost Precious Pearle teaching all Men to Loue and Imbrace ye Crosse. Teitl trosiad Hugh Lewis oedd Perl mewn Adfyd; fe'i cyhoeddwyd yn 1595, ac fe'i hadargraffwyd yn 1929 gan Brifysgol Cymru dan olygyddiaeth W. J. Gruffydd. Cynhyrfwyd Hugh Lewis i gyfieithu'r llyfr gan awydd i ddyrchafu moesau ei gyd- Gymry ac i gefnogi ymarfer â darllen Cymraeg. Yn 1598, codwyd ef yn rheithor Llanddeiniolen; ddeng mlynedd wedyn, penodwyd ef yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor; ac yn 1623 daeth yn olynydd i Edmund Prys yn rheithoraeth Ffestiniog a Maentwrog. Yn 1612, yr oedd wedi codi plasty ar lecyn ei hen gartref ym Modellog, ac yno y bu fyw weddill ei oes. Bu farw rywbryd cyn 6 Tachwedd 1634 - ar y dydd hwnnw y sefydlwyd canghellor ym Mangor yn ei le. Enw ei wraig oedd Ellen vch Rhytherch, a chawsant ddau fab, Morgan ap Hugh Lewis a William ap Hugh Lewis, Bu Ellen farw yn Ebrill 1634; yn Llanwnda y claddwyd hi a'i phriod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.