Ganed yn 1544, ond nid oes sicrwydd pendant ymha le, o bosibl yn y Gydros, plwyf Llanfor, Meirionnydd. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol ramadeg esgobaeth Llanelwy. Yn 1565 aeth yn efrydydd i Goleg S. Ioan, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 23 Mawrth 1567 yn eglwys Conington, sir Gaint. Graddiodd yn B.A. yn 1568 ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Ely yn yr un flwyddyn. Graddiodd yn M.A. yn 1571. Urddwyd ef yn offeiriad Ffestiniog a Maentwrog yn 1572, ond ni bu yno yn byw y tro hwn. Ar 13 Mawrth 1576 sefydlwyd ef yn rheithor Llwydlo, Sir Amwythig. Ar 6 Tachwedd 1576 gwnaed ef yn archddiacon Meirionnydd, ac o hyn ymlaen hyd ei farw bu'n trigo yn y Tyddyn Du, Maentwrog. Ar 16 Ebrill 1580 rhoddwyd iddo fywoliaeth ychwanegol Llanenddwyn, tuag wyth milltir o Faentwrog i gyfeiriad Abermaw. Y ffaith yma, mae'n debyg, a barodd gychwyn y traddodiad anghywir mai yn y Gerddi Bluog, ger Harlech, yr oedd ei gartref. Gwnaed ef yn un o ganoniaid Llanelwy, 8 Hydref 1602.
Ychydig o ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ceir ei hanes yn ymryson gerbron Llys y Seren. Bu'n cynorthwyo'r esgob William Morgan gyda'r gwaith o gyfieithu'r Beibl. Anghywir yw'r traddodiad iddo ef gyfieithu'r salmau; yr hyn a wnaeth, yn ôl pob tebyg, oedd helpu drwy fwrw golwg dros waith yr esgob Morgan. Yn 1621, cyhoeddodd ei Salmau Cân; printiwyd hwy yn Llundain a chyhoeddwyd hwy gyda'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Nid ef oedd y cyntaf ychwaith i gyfansoddi 'salmau cân.' Yr oedd Sternhold a Hopkins wedi gwneud yr un gwaith yn Lloegr, ac eraill yng Nghymru. Ond llwyddodd ef i gyfieithu'r salmau ar fesur mwy canadwy na'r gweddill, ac yn ei lyfr cynhwysodd hefyd rai tonau: 'y llyfr Cymraeg cyntaf a cherddoriaeth ynddo.' Cyhoeddwyd hwy'n amal iawn wedyn. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth, a hefyd rai darnau yn y mesur rhydd. Bu'n ymryson gyda rhai o'r beirdd cyfoes; yr ymryson fwyaf adnabyddus yw honno gyda William Cynwal. Mewn gwirionedd, dadl yw'r ymryson rhwng cynrychiolydd diwylliant y prifysgolion Seisnig (sef Prys) a chynrychiolydd yr hen ddysg farddol Gymreig (Cynwal). Ni fyn Cynwal fod Prys yn fardd o gwbl. Ceir gan Edmwnd Prys hefyd rai cywyddau ar destunau crefyddol. Dichon mai propaganda yw'r rhain dros y grefydd Brotestannaidd newydd. Ond yn y cywyddau sy'n cynnwys ei sylwadaeth ar fywyd y gwelir ei farddoniaeth orau, yn arbennig ei gywydd ' yn erbyn anllywodraeth y cedyrn.' Nid bardd rhamant mo Prys … ond ni ellir gwrthod iddo'r teitl o fardd myfyrdod, ac y mae myfyrdod, “reflection,” doethineb, yn rhan o faes yr awen o'r cychwyn.' Bu farw yn 1623.
Priododd Edmwnd Prys ddwywaith: (1) Elin, merch John ap Lewis, Pengwern, Ffestiniog, a (2) Gwen, merch Morgan ap Lewis, Pengwern, cyfnither i'r wraig gyntaf - y ddwy yn disgyn o Dafydd ab Ieuan ab Einion, cwnstabl castell Harlech, ac felly o hil Osbwrn Wyddel. O'r briodas gyntaf cafwyd JOHN PRYS, ROBERT PRYS (a briododd Elizabeth ferch Robert ab Edward, Maesyneuadd), a JANE PRYS. O'r ail wraig cafwyd FFOULK PRYS (isod), MORGAN PRYS (isod), ac EDMUND PRYS (isod).
Arferid credu i Edmwnd Prys yr archddiacon fyw yn Gerddi Bluog, gerllaw Llanbedr, Meirionnydd, yn hytrach nag yn Tyddyn Du, sydd yn ymyl Gellilydan; bellach, fodd bynnag, gellir profi mai Morgan Prys, mab Edmwnd Prys o'i ail wraig, a aeth i fyw i Gerddi Bluog, sef wedi iddo briodi Elizabeth, ferch Robert ab Edward Humphrey, Llanfair. Camgymerodd J. E. Griffith ac ysgrifenwyr eraill wrth ddywedyd mai Margaret (Williams) oedd aeres Gerddi Bluog ac mai hyhi oedd gwraig Morgan Prys; y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol ddwy ddogfen (yng nghasgliad Gerddi Bluog a Crafnant; gweler Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, i, 39-40), wedi eu dyddio 20 Awst 1602, ynglyn â phriodas Morgan Prys ac Elizabeth. Y mae dogfennau eraill yn yr un casgliad yn profi i Morgan Prys gael ei ddilyn gan ROBERT, hwnnw gan MORGAN, Morgan gan ROBERT, a Robert gan MORGAN. Priododd y Morgan olaf hwn, yn 1710, Katherine, merch Jane Wynne, Moelyglo, gerllaw Harlech, a chael merch, JANE, a briododd â Griffith Williams, Islaw'rffordd, Llanddwywe, yn 1732.
Mab hynaf Edmwnd Prys o'r ail briodas oedd Ffoulk (Ffowc) Prys (bu farw 11 Ionawr 1624/5), bardd. Nid offeiriad mohono, ac felly nid efo mo'r Ffoulk Price, B.A., a gafodd fywoliaeth Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 21 Gorffennaf 1670. Fel ei dad, yn y Tyddyn Du yr oedd yn byw, ac fel Ffowc Prys Tyddyn Du y cyfeiria Gruffydd Phylip ato yn ei farwnad iddo. Canodd yntau farwnad i Syr John Wynn, Gwydir, a chywydd ymryson â Richard Phylip. Ceir ei waith barddonol yn Peniarth MS 119 a Peniarth MS 144 , a NLW MS 263B , NLW MS 719B , NLW MS 1578B , NLW MS 2288B , NLW MS 2691D , NLW MS 2692B , NLW MS 6499B , NLW MS 11087B , etc. Ar 8 Mai 1632, sef tuag wyth mlynedd wedi iddo farw - a sylwer iddo farw yn bur fuan ar ôl ei dad - bu ymchwiliad swyddogol ('Inquisitio post mortem') ynglyn â'i diroedd; ar hyn gweler erthygl A. O. Evans yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1922-3, lle y dangosir fod ei diroedd yn cynnwys lleoedd y mae rhai o chwareli llechi Ffestiniog arnynt yn awr - gwyddys i rai o'r tiroedd hyn ddyfod i feddiant teulu Tanybwlch - Evans, Griffith ac Oakeley, Tanybwlch, Maentwrog - o bosibl trwy briodas ei ferch hynaf, a'i aeres, sef Lowry, a Robert Evans, Tanybwlch. Erbyn 1632 hefyd yr oedd ei weddw, Elizabeth (merch Peter Meyrick, Ucheldre, Gwyddelwern), wedi priodi Griffith Lloyd.
Cafodd Edmund Price fywoliaeth Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 5 Chwefror 1637, a'i symud ym Mehefin 1639 i fywoliaeth Llanfechell, sir Fôn (erbyn hynny fe'i ceir yng nghofnodion esgobaeth Bangor fel 'Edmund Price M.A.'); y mae'n debyg iddo farw yn 1643 gan i Robert Lloyd ei ddilyn yn Llanfechell yn haf y flwyddyn honno. Efallai mai ef oedd yr Edmund a rydd J. E. Griffith ymysg meibion yr archddiacon o'r ail wraig; os felly, efe, y mae'n debyg, yw'r Edmund Price, 'of Wales,' y dywed Venn (Alumni Cantabrigienses) iddo ymaelodi ym Mhrifysgol Caergrawnt o Goleg Queens' yn nhymor y Grawys, 1615/6, graddio 1618/9 (M.A., 1622).
Am yr EDMUND PRICE a ddaeth yn ficer Clynnog ym mis Mai 1692 ac a fu farw (yn ôl J. E. Griffith) ym mis Chwefror 1718 (1719?), dywed Foster (Index Ecclesiasticus) mai mab ydoedd i Edw. Price, Llanbedr, Merioneth, iddo ymaelodi (fel 'pauper') ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688. O bosibl mai yr un oedd yr Edw. Price, enw ei dad yn ôl Foster, ag Edward Prys, mab Morgan Prys, Gerddi Bluog, sef yr Edward Prys a briododd Lowry Poole, Cae Nest, Llanbedr.
Ni ellir bod yn sicr am y FOULK (FOULCE ?) PRICE, B.A., a gafodd fywoliaeth Llanllyfni, Sir Gaernarfon, 21 Gorffennaf 1670; efallai ei fod yn fab i'r Edmund Price (uchod) a gawsai yr un fywoliaeth yn 1637. Gall, serch hynny, ei fod yn perthyn i'r un teulu â'r FULKE PRICE a fu farw 1632. Addysgwyd hwnnw yng Ngholeg Ioan, Caergrawnt (B.A. 1596-7, M.A. 1600, B.D. 1607, D.D. 1616). Bu'n rheithor Cerrig-drudion, 1597-1614, prebendari yn Llanelwy, 1599-1632, rheithor Whittington, Sir Amwythig, 1605-8; ficer Gresford, 1609-13; rheithor Llaninio, 1613-32; rheithor Cwm, Sir y Fflint, 1616-24; a rheithor Llanfechain, Sir Drefaldwyn, 1617-32. Canwyd marwnad i'r Price hwn gan Siôn Cain yn 1633 - gweler y copi (yn llawysgrifen y bardd ei hunan) sydd yn Peniarth MS 116 . Rhydd Siôn Cain enwau chwech o blant Dr. Price (o'i ddwy wraig), ac na cheir mo'r enw Ffoulk yn eu plith gall fod Fulke Price, Llanllyfni, yn wyr iddo; efallai, serch hynny, y byddid ar dir diogelach drwy ei gyfrif yn fab yr Edmund Price y rhoddwyd yr un fywoliaeth iddo yn 1637.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.