WYNN, NANNEY, VAUGHAN (TEULU), Maesyneuadd, Llandecwyn, Meirionnydd.

Yr oedd y teulu hwn, fel teuluoedd eraill yng ngorllewin Meirionnydd, yn olrhain yr ach hyd at Osbwrn Wyddel, trwy Dafydd ab Ieuan ab Einion, cwnstabl castell Harlech a'i wraig Margaret (Puleston). Mab i Dafydd ab Ieuan a Margaret oedd THOMAS a briododd, â Gwerfyl, ferch Howel ap Rhys, Bron-y-foel gweler teulu Ellis, Bron-y-foel ac Ystumllyn, ac a ddaeth yn dad DAFYDD, gwraig yr hyn oedd Lowry, ferch Maurice Gethin, Voelas, sir Ddinbych. Aer Dafydd a Lowry oedd HUMPHREY AP DAFYDD (yma gellir nodi bod Humphrey ap Dafydd yn ewythr i Humphrey Davies, ficer Darowain). Priododd Humphrey ap Dafydd ag Annes, ferch Eliza Morris (Ellis ap Maurice), Clenennau, Sir Gaernarfon - a'i aer oedd yr EDWARD AB HUMPHREY a fu farw yn 1620 ac y canwyd cywyddau marwnad iddo gan John Phylip, Richard Phylip , a Gruffydd Phylip tri o ' Phylipiaid Ardudwy'; ceir 'cywydd moliant' hefyd i 'Mastr Edward Humffre' gan Gruffydd Phylip. Trwy ei wraig gyntaf (o dair) yr oedd Edward ab Humphrey yn dad ROBERT AB EDWARD AB HUMPHERY, ei aer. Priododd hwnnw ag Elliw, ferch ac aeres Ifan ap Rhys Hendre'r Mur, Maentwrog, a gadael dwy ferch - (1) Elizabeth, a ddaeth yn wraig Robert, un o feibion yr archddiacon Prys, a (2) MARGARET, aeres Maesyneuadd, a briododd â Griffith Lloyd, Rhiwgoch, Trawsfynydd; hwynthwy oedd rhieni JANE LLOYD aeres Maesyneuadd.

Trwy briodas Jane Lloyd â MORRIS WYNN AP WILLIAM WYNN, Glyn Cywarch, y daeth y cyfenw Wynn i'w arfer yn nhylwyth Maesyneuadd - a hynny am rai ar cenedlaethau ar ôl hyn. Dewiswyd Morris Wynn yn siryf Meirionnydd yn 1670 - fe'i gelwir yn ' Morris Wynn, Moelyglo,' tŷ heb fod ymhell o Maesyneuadd a Glyn (Cywarch); ail fab ei dad ydoedd. Bu farw ddydd gŵyl Bartholomew, 1673, a chanwyd cywyddau marwnad ar yr achlysur gan Phylip John Phylip (gweler yr erthygl ar ' Phylipiaid Ardudwy ').

Aer Jane Lloyd (Maesyneuadd) a Morris Wynn (Moelyglo) oedd ROBERT WYNN (bu farw 1691), siryf Meirionnydd yn 1679. Ei wraig ef oedd Jane Evans, Tanybwlch - gweler teuluoedd Evans, Griffith, ac Oakeley, Tanybwlch, Maentwrog - a'r aer oedd WILLIAM WYNN (bu farw 1720?), siryf Meirionnydd yn 1714. Bu ef yn briod ddwywaith - (1) â Margaret, ferch Ellis Brynkir, a chael ei aer, ROBERT WYNN, siryf Meirionnydd yn 1734, ohoni; yma noder mai merch o'r briodas hon, sef Lowry, oedd gwraig gyntaf Ellis Wynne awdur Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, a (2) Margaret, ferch a chydaeres Roger Lloyd, Rhagad, gerllaw Corwen - yr ail Fargaret oedd mam William Wynn, rheithor Llangynhafal, sir Ddinbych, a bardd.

Yr oedd i ROBERT WYNN frawd o'r enw Ellis Wynn, a ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) ar 9 Mawrth 1714/5 ac a fu'n byw yn Congleton, sir Gaerlleon, a chwaer, Jane, a briododd â William Wynn, mab Ellis Wynne, awdur y Gweledigaetheu.

Aer Robert Wynn oedd WILLIAM WYNN (bu farw 4 Ebrill 1795), a siryf Meirionnydd yn 1758. Mabwysiadodd ef y cyfenw NANNEY - Lowry Nanney, ferch John Nanney, a Jane Hughes, aeres Maes y Pandy, Talyllyn, Meirionnydd, oedd ei fam. Gwraig William Wynn - William Nanney bellach - oedd Elizabeth, ferch John Williams, Tŷ Fry, Pentraeth, sir Fôn; priodwyd hwy 7 Mai 1759 yn Llanbeblig ac ymhlith eu plant yr oedd Robert Wynne (bu farw 1803), John Nanney, clerigwr (bu farw 1838), Syr William Wynn, swyddog yn y fyddin, a LOWRY NANNEY (bu farw 1803). Gŵr Lowry Nanney oedd Thomas Vaughan, Burlton Hall, Sir Amwythig, a'u hiliogaeth hwy a ddilynodd (maes o law) theulu'r Wynniaid a'r Nanneiaid - sef wedi i JOHN NANNEY, Maes y Pandy a Maes y Neuadd, mab John Nanney (y clerigwr) a'i ail wraig, Anne Fleming, farw yn 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.