Ei dad oedd Ieuan ab Einion o Gryniarth a'r Hendwr, yn yn Edeirnion, Meironnydd, o hil Llywelyn ap Cynwrig o Gors y Gedol; ei fam, Angharad, yn ferch ac etifeddes Dafydd ap Giwn Llwyd o'r Hendwr. Ei wraig oedd Marged, merch John Puleston o Emral, Sir y Fflint. Fel llawer Cymro ieuanc arall yn y cyfnod milwriodd gyda byddinoedd Lloegr yn Ffrainc yn ystod rhan olaf Rhyfel y Can Mlynedd - yn Rouen, yn ôl Dafydd Nanmor; sut bynnag, y mae gennym dystiolaeth Guto'r Glyn iddo filwrio ar y Cyfandir. Pan fachludodd awdurdod y Saeson yn Normandi yn 1450, dychwelodd adre, efallai gyda Mathew Goch a'i filwyr. Ymddengys ei enw yn 'Record of Inquisitions' Meirionnydd yn 1453, lle y dywedir i rywun ysbeilio rhai o'i wartheg yn agos i Ffestiniog. Pan gychwynnodd Rhyfel y Rhosynnau yn 1455, dywedir i'r frenhines Marged ei awdurdodi i amddiffyn Harlech. Wedi brwydr Northampton (Gorffennaf 1460) cafodd Marged loches yn Harlech, ac y mae'n bosibl mai dyna'r achlysur y cafodd Dafydd yr awdurdod hwnnw ganddi. O hynny allan bu'r castell yn noddfa i wŷr enwog plaid y frenhines, a hefyd yn ddolen rhyngddi a'i chanlynwyr. Dro ar ôl tro galwyd arno i draddodi Harlech i blaid Efrog, ond ni wnaed unrhyw ymdrech i'w orfodi. Eithr pan laniodd Siaspar Tudur a'i fyddin yn y Bermo (Mehefin 1468) anfonodd Edward IV William (arglwydd) Herbert â byddin gref i ddarostwng Harlech. O'r diwedd (1 Awst 1468) ymostyngodd Dafydd. Cymerwyd 50 o garcharorion, Elwick a Troublok, dau o arweinwyr amlycaf plaid y frenhines yn eu plith; rhoddwyd hwy i farwolaeth yn Nhŵr Llundain. Ymddengys i Ddafydd gael pardwn (1 Rhagfyr 1468). Cafodd Herbert ei wneud yn iarll Penfro am ei fuddugoliaeth. Ni wyddys ddyddiad marwolaeth Ddafydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.