Erthygl a archifwyd

PULESTON, (TEULU), Emral, Plas-ym-Mers, Hafod-y-wern, Llwynycnotiau, Caernarfon, etc.

(1) O drefgordd neu faenol Pilston neu Puleston ger Newport yn Sir Amwythig y cafodd y Pulestoniaid eu henw; yno y trigent yn ystod teyrnasiad Harri III, a pharhaent i ddal tiroedd yno hyd 1433 o leiaf. Credir mai Syr ROGER DE PULESTON (bu farw 1294) oedd y cyntaf i ymsefydlu yn Emral ym Maelor Saesneg; disgrifir ef fel ' de Embers-hall ' ym 1283, a chyfeirir at ' foresta domini Rogeri de Pyvylston ' mewn gweithred o'r flwyddyn ddilynol ynglyn ag arwerthiant tiroedd yn Gwillington (Archæologia Cambrensis, 1888, 32, 293). Ar 20 Mawrth 1293/4 penodwyd ef gan Edward I yn siryf cyntaf Môn (Cal. Welsh Rolls, 283), ac yn rhinwedd ei swydd ef oedd yn gyfrifol am gasglu'r dreth ar eiddo symudol y Cymry a esgorodd ar wrthryfel Madog ap Llywelyn yn Hydref 1294. Pan oedd yr helynt yn ei anterth cymerwyd Puleston gan wyr Môn a'i grogi ganddynt yn ystod ymosodiad disymwth ar fwrdeistref Caernarfon. Fe ddichon mai i'r un teulu y perthynai Richard de Puleston, siryf sir Gaernarfon 1284-95 (penodwyd ef yr un diwrnod â Syr Roger), er nad oes dim yn yr achau i ddweud pwy yn union ydoedd. Yr oedd ROBERT PULESTON, mab Richard Puleston, Emral (yn fyw 1382/3 - B.M. Harley MS. 1971) yn dyst ym mhrawf enwog Scrope-Grosvenor yn 1386, ef ac Owain Glyn Dwr; priododd Robert Lowri, chwaer Owain. Forffedwyd stadau Robert yn siroedd Caer, Amwythig a'r Fflint am iddo fod â rhan yng ngwrthryfel Glyn Dwr (Cal. Pat. Rolls, Henry IV, 1399-1401, 370), eithr fe'u hadferwyd yn ddiweddarach. Un o bleidwyr pybyr achos Lancaster ydoedd ROGER PULESTON (bu farw 1479 yn ôl Peniarth MS 287 , (165)), wyr Robert a mab JOHN PULESTON (priododd Angharad, merch Griffith Hanmer ac wyres Tudur ap Goronwy o Fôn; profwyd ei ewyllys 17 Ebrill 1444): yn ystod ymgyrch 1460-1 daliai gastell Dinbych yn rhinwedd ei swydd o ddirprwy gwnstabl i'w gâr, Jasper, iarll Penfro.

Dan y Tuduriaid bu i bedwar aelod o'r teulu ran amlwg yn ngweinyddiaeth Sir y Fflint. Yr oedd Syr ROGER PULESTON (bu farw 18 Ionawr 1544/5 yn ôl NLW MS 1504E ). a fu'n ymladd yn Ffrainc yn 1513 (gweler Cal. L. & P. Henry VIII, i, 2, 1097), yn siryf 1540-1; ac yn yr un modd ei wyr, ROGER PULESTON (bu farw 14 Elisabeth I) a'i fab a'i wyr yntau, y ddau o'r un enw. Roger, y cyntaf yn 1567-8, yr ail yn 1573-4 a'r trydydd yn 1597-8. Ymaelododd y ROGER PULESTON olaf a enwyd (1566 - 1618) yng ngholeg Brasenose, Rhydychen yn 1582 pan oedd yn 16 oed (Foster, Alumni, 1219), ac aeth i Ysbyty'r Inner Temple yn 1585 (Students admitted to the Inner Temple, 1547-1660, 113); bu'n aelod seneddol dros sir y Fflint, 1588-9 a 1604-11 a thros sir Ddinbych, Chwefror-Ebrill 1593. Bu iddo ran amlwg yn yr ymrafael dros etholiad 1588 yn sir Ddinbych - un o'r rhai mwyaf helbulus yn hanes y sir honno - pan enillodd John Edwards yr ieuengaf o'r Waun (gweler Edwards neu Edwardes, Y Waun, Sir Benfro a Kensington) y sedd oddi ar William Almer (gweler Almer neu Almor, Pant Iocyn), Pant Iocyn. Haerodd Almer iddo dderbyn cam ar law'r siryf, Owen Brereton, ac mewn achos a ddug gerbron Llys y Seren cyhuddodd Brereton ac amryw o bleidwyr Edwards, gan gynnwys Roger Puleston, o gam-ymddwyn yn yr etholiad. Priododd Puleston Susannah, merch Syr George Bromley, prif ustus Caer; urddwyd ef yn farchog 28 Awst 1617 a bu farw 17 Rhagfyr 1618. Aer Syr Roger oedd ei frawd, George Puleston, ac ar ei farw ef yn ddi-blant yn 1634 etifeddwyd stad Emral gan ei nai, John Puleston (c. 1583 - 1659; mab y Parch. Richard Puleston, Worthy Abbotts, swydd Hants (Reg. of Admissions to the Middle Temple, i, 86)), ustus Cwrt y Pledion Cyffredin, y rhoddir sylw iddo ar wahan. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Roger, a Roger yn ei dro gan ei aer yntau, Syr ROGER PULESTON (1663 - 1697) a fu'n aelod seneddol dros sir y Fflint 1689-90 a thros fwrdeisdref y Fflint 1695-7, ac felly adfer cyswllt seneddol y teulu a dorrwyd yn 1611.

Daeth llinach wrywaidd teulu Emral i ben yn 1732 pan fu farw THOMAS PULESTON, a adawodd y stad trwy ei ewyllys i JOHN PULESTON, Pickhill, disgynnydd o un o feibion y Roger Puleston a oesai adeg Harri VI. Ni bu aer i fab John, ac ar ei farw ef daeth Emral i feddiant gwr ei ferch, Richard Parry Price, Bryn-y-pys, a gymerodd yr enw Puleston ac a wnaed yn farwnig yn 1813. Syr THEOPHILUS PULESTON, a fu farw'n ddi-blant yn 1890, oedd y barwnig olaf o'r teulu. Diddorol, efallai, yw nodi i ran ('The Emral Hall') o hen blasdy Emral, pan ddymchwelodd ef yn 1936, gael ei ail-godi ym Mhorth Meirion, Meirionnydd.

(2) Cyn canol y 15fed ganrif yr oedd cangen o'r teulu wedi ymsefydlu ym Mers ger Wrecsam, ac erbyn diwedd y ganrif daethai Hafod-y-wern yn yr un ardal i feddiant y Pulestoniaid trwy briodas JOHN PULESTON, Plas-ym-Mers, wyr y Robert a Lowri a enwyd eisoes, ag Alswn, merch ac aeres Hywel ab Ieuan ap Gruffudd o Hafod-y-wern. Ymladdodd JOHN PULESTON (' HEN ') o Hafod-y-wern, mab hynaf y John Puleston hwn, ym mrwydr Bosworth, ac am ei wasanaeth ar yr achlysur hwnnw rhoes Harri VII flwydd-dâl iddo am ei oes o ugain morc allan o ddegymau arglwyddiaeth Dinbych (6th Report Royal Commission on Historical MSS, 421), a'i benodi, hefyd, yn 'gentleman usher' ystafell y brenin. Yn 1502 gwnaed ef yn ddirprwy i brif stiward arglwyddiaeth Bromfield a Iâl (ibid.); saith mlynedd yn ddiweddarach, yn 1509, penodwyd ef gan Harri VIII yn rhysyfwr tref Rhuthun ac arglwyddiaeth Dyffryn Clwyd (Cal. L. & P. Henry VIII, i, 1, 67), ac, yn 1519, arglwyddiaeth Dinbych (ibid., iii, 1, 146). Fel ei gâr, Syr Roger Puleston, gwasanaethodd yn yr ymgyrch yn Ffrainc yn 1513, a chydag ef ei ddau fab - y ddau o'r un enw, John - y naill o'i briodas gyntaf a'r llall o'r ail. Bu JOHN PULESTON, Hafod-y-wern (' John Puleston, Tir Môn ', fel y'i disgrifir weithiau - yr oedd ganddo beth tiroedd ym Môn), mab John Puleston ('Hen') o'i ail wraig, Alice, merch Hugh Lewis, Presaddfed, yn siryf sir Ddinbych 1543-4. Yn ystod blynyddoedd olaf Elisabeth I gwysiwyd dau o'r Pulestoniaid hyn fel reciwsantiaid gerbron Sesiwn Fawr sir Ddinbych, sef EDWARD PULESTON, Hafod-y-wern yn 1585, 1588 a 1592 ac Anne, gwraig JOHN PULESTON, Bers, yn 1587. Frances, merch PHILIP PULESTON (bu farw 1776) oedd yr olaf o deulu Hafod-y-wern; priododd hi Bryan Cooke o Owston, swydd Efrog, yn 1786 (gweler Davies-Cooke, Gwysaney).

(3) Is-gangen o Bulestoniaid Hafod-y-wern oedd honno a ffynnai yng Nghaernarfon am ran o'r 16eg ganrif ac a sylfaenwyd gan fab John Puleston ('Hen') o'i briodas gyntaf (ag Elin, merch Robert Whitney), sef Syr JOHN PULESTON (bu farw 1551) a fu'n siryf Sir Gaernarfon 1543-4, aelod seneddol tros Gaernarfon 1541-4 a sir Gaernarfon 1545-7 a 1547-51, siambrlen Gwynedd 1547 a chwnstabl castell Caernarfon 1523-51. Priododd (1) Gaynor, merch Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, Glynllifon, a (2) Sioned, merch Meredydd ab Ieuan ap Robert o Gesail Gyfarch a Gwydir. O HUGH PULESTON, ei fab o'r ail wraig, a briododd Margaret, merch ac aeres Hugh Lloyd o Lwynycnotiau ger Wrecsam, y disgynnodd Pulestoniaid y lle hwnnw. Ceir tystiolaeth fod y Parch. EDWARD PULESTON (bu farw 1621/2), yn gyfaill mynwesol i'r capten John Salusbury o'r Rug (gweler Salusbury, Salesbury, Y Rug a Bachymbyd), un o'r prif gynllwynwyr yng ngwrthryfel Iarll Essex yn 1601; efô oedd ail fab Hugh Puleston, daeth yn rheithor Burton Latimer, swydd Northants, yn 1592, ac etifeddodd Lwynycnotiau ar farw ei frawd hyn yn ddi-blant. Gwasanaethodd RICHARD PULESTON, drachefn, brawd iau Edward, dan y capten Salusbury yn Iwerddon. Ar farw JOHN PULESTON, wyr Edward, yn ddi-blant ym mis Mawrth 1677/8, daeth Llwynycnotiau i feddiant brawd ei wraig, Simon Thelwall o Blas-y-ward (gweler Thelwall, Plas-y-ward) trwy gytundeb cyfreithiol a wnaed yn 1672.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd Frig y dudalen

PULESTON (TEULU), Emral, Plas-ym Mers, Hafod-y-wern, Caernarfon, etc.

Disgynnai'r Pulestoniaid o Syr ROGER DE PULESTON, brodor o drefgordd Puleston neu Pilston ger Newport yn Sir Amwythig, a gafodd dir gan Edward I yn Emral ym Maelor Saesneg, ac a ymsefydlodd yno cyn 1283. Yr oedd yn siryf Môn, 1284-94, ac yn brif swyddog cyllid dros Wynedd. Yn rhinwedd ei swydd, ef oedd yn gyfrifol am gasglu'r dreth ar eiddo symudol ('moveables') y Cymry, a esgorodd ar wrthryfel Madog. Yn 1294, yn ystod yr helynt, cymerwyd Puleston gan y gwrthryfelwyr a'i grogi ar gapan ei dŷ ei hun yng Nghaernarfon. Yr oedd ei fab, RICHARD DE PULESTON, yn siryf Sir Gaernarfon yn 1286. Ymbriododd ROBERT PULESTON, drachefn, gorŵyr y Richard hwn, â Lowri, chwaer Owain Glyn Dŵr, a chymerodd ran yn y gwrthryfel.

Pennaeth y teulu yn ystod rhan olaf y 16eg ganrif ydoedd ROGER PULESTON; ymaelododd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, yn 1582 pan yn 16 oed; ac yn 1585 aeth i'r Inner Temple i astudio'r gyfraith. Bu'n aelod seneddol dros sir Fflint, 1588-9 a 1604-11, a thros sir Ddinbych, Chwefror-Ebrill 1593. Bu iddo ran yn yr helynt yn ystod ac wedi etholiad 1588 yn sir Ddinbych, pan enillodd ei fab-yng-nghyfraith, John Edwards yr ieuengaf o'r Waun, y sedd oddi ar William Almer, Pant Iocyn. Haerai Almer iddo dderbyn cam ar law'r siryf Owen Brereton, ac mewn achos a ddug gerbron Llys y Star Chamber, cyhuddai Brereton ac amryw o bleidwyr Edwards, gan gynnwys Roger Puleston, o gam-ymddwyn yn yr etholiad. Priododd Puleston Jane, merch ac aeres William Hanmer o Hanmer; urddwyd ef yn farchog 28 Awst 1617, a bu farw 17 Rhagfyr 1618.

Un arall o Bulestoniaid Emral a fu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir y Fflint ydoedd Syr ROGER PULESTON (1663 - 1697), aelod seneddol dros y sir, 1689-90, a thros fwrdeisdref y Fflint 1695-7. O'r un cyff, drachefn, oedd y JOHN PULESTON (bu farw 1659) a benodwyd gan y Senedd yn farnwr yn llys y Common Pleas yn 1649; i'w feibion ef y bu Philip Henry yn hyfforddwr am dymor.

Yn ystod hanner cyntaf y 15fed ganrif sefydlwyd cangen o'r teulu yn y Bers ger Wrecsam, a chyn diwedd y ganrif honno daethai Hafod-y-wern yn yr un ardal i feddiant y Pulestoniaid trwy briodas JOHN PULESTON, Plas-ym-Mers, ŵyr y Robert a Lowri uchod, ag Alswn, merch ac aeres Hywel ap Ieuan ap Gruffydd o Hafod-y-wern. Rhestrir dau o'r Pulestoniaid hyn fel gwrthodwyr Catholig ('recusants') yng nghofnodion y Sesiwn Fawr a chyfnod Elisabeth, sef EDWARD PULESTON o Hafod-y-wern, yn 1585 a 1588, ac ANNE, gwraig John Puleston o Blas-ym-Mers, yn 1587. FRANCES, merch Philip Puleston (bu farw 1776), oedd yr olaf o deulu Hafod-y-wern; priododd hi Bryan Cooke o Owston, swydd Efrog, yn 1786 (gweler Davies-Cooke, Gwysaney).

Is-gangen o Bulestoniaid Hafod-y-wern oedd honno a ffynnai yng Nghaernarfon am ran o'r 16eg ganrif, ac a sylfaenwyd gan fab hynaf John Puleston ('Hen'), Syr JOHN PULESTON (bu farw 1551), a oedd yn siryf sir Ddinbych, 1543, a Sir Gaernarfon, 1544; aelod seneddol tros Gaernarfon, 1541-4, a sir Gaernarfon, 1545-7 a 1547-51; siambrlen Gwynedd, 1547; a chwnstabl castell Caernarfon, 1523-51. Priododd, (1), Gaynor, merch Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, a (2), Sioned, merch Meredydd ap Ieuan ap Robert o Gesaill Gyfarch a Gwydir. O HUGH PULESTON, ei fab o'r ail briodas, y disgynnodd Pulestoniaid Llwyn-y-cnotiau ger Wrecsam. Daeth stad Llwyn-y-cnotiau yn eiddo i Thelwaliaid Plas-y-ward wedi marw John Puleston yn 1673.

Awdur

  • Emyr Gwynne Jones, (1911 - 1972)

Ffynonellau

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families ( 1914 ), 275
  • Heraldic Visitations of Wales and Part of the Marches between the years 1586 and 1613, under the authority of Clarencieux and Norroy, two kings at arms ( Llandovery 1846 ), ii, 150-1, 309-10, 359
  • Thomas Nicholas, Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales ( London 1872 ), ii, 454-5
  • Public Record Office, List of Sheriffs for England and Wales … to A.D. 1831 ( 1898 )
  • Archaeologia Cambrensis, 1888, 31-2, 285-96; 1889, 234; 1900, 287
  • History of the Princes, the Lords Marcher, and the Ancient Nobility of Powys Fadog, ii, 138
  • W. R. Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 ( Brecknock 1895 ), 72, 86, 88, 92
  • Burke's…Peerage (1869 a 1913)
  • A. N. Palmer, History of the town of Wrexham its houses, streets, fields, and old families. being the fourth part of "A history of the town and parish of Wrexham" ( Wrecsam 1893 ), 137-42
  • A. N. Palmer, History of the thirteen country townships of the old parish of Wrexham, and of the townships of Burras Riffri, Erlas, & Erddig Being the fifth and last part of "A history of the town and parish of Wrexham" ( 1903 ), 207-9
  • R. W. Eyton, Antiquities of Shropshire ( 1854–60 ), viii, 95-9
  • Howell T. Evans, Wales and the Wars of the Roses ( Cambridge 1915 ), 116, 120, 123, 139, 140, 151, 153, 173
  • Edward Arthur Lewis, The Mediaeval Boroughs of Snowdonia a study of the rise and development of the municipal element in the ancient principality of North Wales down to the Act of Union of 1536 ( Llundain 1912 ), 225-6
  • J. E. Lloyd, Owen Glendower / Owen Glyn Dwr ( 1931 ), 24, 31, 34
  • A. H. Dodd, The English historical review, 1944, 355-6
  • J. E. Neale, The English historical review, 1931, 212-9
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1945, 115-16
  • Oxford Dictionary of National Biography (am John P., a fu farw 1659)

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Erthygl a archifwyd

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.