HANMER (TEULU), Hanmer, Bettisfield, Fens, a Halton (Sir y Fflint), a Pentrepant (Sir Amwythig)

Y mae'r teulu hwn o dras Seisnig ac yn disgyn o Syr Thomas de Macclesfield, swyddog dan Edward I a ymsefydlodd ym Maelor Saesneg (sydd yn awr yn rhan o Sir y Fflint, eithr ar wahân i gorff y sir); priododd ef a'i ddisgynyddion aeresau Cymreig a oedd yn disgyn o Rys Sais neu Dudur Trefor, gan gael, trwy hynny, stadau yn yr ardal - oddi wrth un o'r stadau hyn y cafwyd enw'r teulu.

Syr DAVID HANMER (bu farw c. 1388), ustus mainc y brenin

Gor-wyr i Syr Thomas de Macclesfield. Daeth yn ustus mainc y brenin yn 1383 a'i wnaethpwyd yn farchog yn 1387. Priododd Agnes (neu Angharad), merch Llywelyn ddu ap Gruffydd ab Iorwerth; a daw anian Gymreig y teulu i'r golwg yn y cymorth a roddwyd gan yr aelodau i Owain Glyn Dwr, a briododd MARGARET, merch Syr David. Ymunodd ei brodyr hi, GRIFFITH (a briododd aelod o deulu Tuduriaid Penymynydd) a PHILIP, i gyhoeddi Owain yn dywysog Cymru yn 1400 - yr oedd Philip ym Mharis yn ceisio cymorth i'r gwrthryfel mor ddiweddar â 1415. O'r herwydd fforffetiwyd eu tiroedd i'w brawd JOHN, yntau wedi priodi aeres o'r cylch; eithr ymunodd yntau, yn ddiweddarach, â Glyn Dwr a bu'n gennad drosto ym Mharis yn 1404 - ni chredir erbyn hyn iddo gwympo ym mrwydr Amwythig (1403). Cafodd bardwn yn 1411 a rhannodd ei stadau rhwng ei bedwar mab, yr hynaf yn etifeddu Hanmer a'r tri arall yn cael Halton, Fens, a Bettisfield. Daeth llinell wrywol Hanmeriaid Halton i'w therfyn yn gynnar yn yr 16eg ganrif, pan fu Syr EDWARD HANMER farw dros y môr - cawsai ei wneuthur yn farchog am ei wasanaeth fel ' condottiere ' i'r Medici - a daeth llinell wrywol Bettisfield i ben yn 1623 ac aeth stadau y ddwy linell i feddiant y brif gangen. Daeth y trefniant hwn, yntau, i ben yn 1746 pan wnaethpwyd cyfamod teuluol a barodd sefydlu a setlo holl faterion cymhleth y stadau a'u gosod yn nwylo cangen Fens.

JOHN HANMER (1575 - 1629)

Esgob Llanelwy (1624) a chaplan i'r brenin Iago I (1615). Wyr ydoedd ef i Katherine Hanmer, Halton, gor-wyres Syr David Hanmer (uchod), ac wyr hefyd i Richard ap David ap Howel Goch, Pentrepant, Selattyn, gerllaw Croesoewallt - disgynnydd arglwyddi Ial ac Ystrad Alun yn y l2fed ganrif; ei feibion ef a fabwysiadodd y cyfenw Hanmer. Daeth un o'r rhai hyn, MEREDITH HANMER (1543 - 1604), ficer Hanmer (1574-84), a gafodd wedi hynny fywiolaethau yn Lloegr ac Iwerddon hefyd, i beth enwogrwydd fel hanesydd eglwysig a dadleuwr a fu'n croesi cleddyfau â'r Jesiwit Edmund Campion (1540 - 1581) (gweler hanes y ficer yn D.N.B., xxiv, 297). Ganed yr esgob yn Pentrepant a'i fedyddio yn Selatyn (1 Chwefror 1575), etifeddodd y stad ar ôl ei dad, Thomas Hanmer, yn 1620, a bu farw yno'n ddiblant, 23 Mehefin 1629; gweler copi yn Browne Willis, A Survey of the Cathedral-Church of St. Asaph arg. 1801, i, 111, o'r arysgrif coffa ar dabled pres (sydd bellach wedi ei golli) yn eglwys Selatyn. Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Priododd Mary, merch Arthur Kempe, swydd Hants, a phan fu'r esgob farw, priododd hi'r Cyrnol William Owen, Brogyntyn, noddwr y bardd Huw Morus. Y mae'r ffaith iddo beri i Robert Llwyd, ficer y Waun, i gyfieithu yn Gymraeg The Plaine Man's Pathway to Heaven gan Arthur Dent (bu farw 1607), ficer Piwritanaidd pybyr Shoebury, Essex, yn awgrymu bod gan yr esgob ei hunan beth cydymdeimlad â safbwynt y Piwritaniaid (gweler yr 'Epistol' yn Llwybr Hyffordd, 1630). Byddai'r esgob yn gohebu gyda William Camden, yr hynafiaethydd. Cadwodd ei gysylltiad â phrif gangen y teulu trwy weithredu fel gwarcheidwad pan oedd Thomas Hanmer (bu farw 1619), tad y barwnig cyntaf, o dan oed. Ceir manylion am ei yrfa yn D.N.B., xxiv, 295.

Yn y cyfamser yr oedd y gangen hyn wedi anfon dau filwr i ryfeloedd y Tuduriaid yn Ffrainc a'r Alban - Syr THOMAS HANMER (bu farw 1545), a'i fab Syr THOMAS HANMER (1526 - 1583); yr oedd hefyd, ynghyd â changen Fens, yn dechrau anfon y gyfres hir o Hanmeriaid yn aelodau i'r Senedd dros sir y Fflint a'i bwrdeisdref - cyfanrif o naw aelod a bron ddwywaith cymaint o siryfion erbyn diwedd y 19eg ganrif. Gwnaethpwyd Syr JOHN HANMER (bu farw 1624), gor-wyr yr ail Syr Thomas, yn farwnig (1620) ac yn aelod o Gyngor Goror Cymru gan Iago I (30 Mehefin 1624). Priododd ef un o Dreforiaid Trevalun. Tueddai i ochri gyda'r Piwritaniaid yn y Senedd a rhoes gyfran o ddegwm Bettisfield i hyrwyddo pregethu yn ei blwyf. Bu ei fab Syr THOMAS HANMER (yr ail farwnig; bu farw 1678), fodd bynnag, yn ymladd dros Siarl I ynghyd â'i gyfyrder, WILLIAM HANMER (1622 - 1669), Fens. Ffodd y ddau ohonynt dros y môr yn 1644, eithr ysgrifennodd Syr Thomas o Ffrainc i rybuddio'r Senedd rhag cynllwyn Siarl a Ffrainc a Sgotland, a dychwelodd i fyw yn Halton, wedi geni (ar y Cyfandir) ei drydydd mab (tad Llefarydd Ty'r Cyffredin, isod) yn 1651. Dirwywyd y ddau gan y Senedd (y tad hyd £1,500 a'r mab hyd £1,370) ac enwyd y ddau gan Siarl II i fod yn aelodau o Urdd (farw-enedig) Marchogion y Royal Oak. Yr oedd Syr Thomas yn cymryd diddordeb mawr mewn garddwriaeth ac yn gohebu gydag Evelyn. Prynodd freiniau maenorol Maelor Saesneg yn 1651. Daeth ei fab, Syr JOHN HANMER (y 3ydd barwnig; bu farw 1701) yn ' Gentleman of the Privy Chamber ' ac yn gomisiynwr y llynges dan Siarl II; efe hefyd oedd ceidwad helwriaeth y brenin ('Keeper of the King's Game') yng Ngogledd Cymru. Yr oedd yn Lt.-Cyrnol ym myddin Iago II, bu â chyfran ganddo yn y cynllwyn i feddiannu tref Hull dros William III, a bu'n ymladd dros hwnnw ym mrwydr y Boyne (1690) ac yn gweithredu drosto fel comisiynwr trethi'r Llywodraeth yn Sir y Fflint. Bu'n eistedd yn y Senedd droeon dros sir neu fwrdeisdref y Fflint, ac unwaith dros Evesham gan orffen fel aelod o'r Senedd yn Nulyn.

Pan gollodd ei fywyd mewn ymladdfa rhwng dau aeth y stad i'w nai,

Syr THOMAS HANMER, y 4ydd barwnig (1677 - 1746), Llefarydd Ty'r Cyffredin, llysgennad, llyfrgarwr, llenor

Cyfaill Harley a Prior. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a Christ Church, Rhydychen, a bu'n eistedd yn y Senedd (weithiau dros sir y Fflint ac weithiau dros fwrdeisdref y Fflint, dros Thetford a thros Suffolk) rhwng 1701 a 1727. Yr oedd yn Dori a bleidiai linach yr Hanoferiaid; cefnogai yr ' Occasional Conformity Bill ' eithr gwrthwynebai'r cymalau'n delio â masnach a oedd yn nrafft cyfamod Utrecht; enillodd ffafr Louis XIV pan oedd ar genhadaeth ym Mharis eithr ymwrthododd â gweiniaith dug Berwick ar ran yr ' Hen Ymhonnwr '; a bu'n cynorthwyo i sicrhau olyniaeth yr Hanoferiaid. Daeth yn Llefarydd yn 1714 a phan fu farw'r frenhines Anne fe'i gwyisiwyd yn sydyn pan oedd mewn gwasanaeth yn eglwys Hanmer i fynd i lywio'r Senedd yn ystod yr eisteddiad pryderus a ddilynodd. Collodd ei swydd fel Llefarydd yn Senedd gyntaf Siôr I - fe'i rhoddwyd hi i Chwig - a bu'n flaen-siaradwr dros y Torïaid yn y trafodaethau a'r dadleuon ynglyn â difodi y Triennial Act, ar bolisi tramor, ac ar gwestiwn y fyddin (1716); yn ôl Prior siaradai fel angel pan ymosodwyd ar Sunderland oblegid y ' South Sea Bubble ' yn 1712. Wedi'r cyfnod y bu'n Llefarydd ynddo bu'n byw yn dawel ar ei stad yn Norfolk, gan ymroi, ar ôl 1727, i'r gwaith o baratoi ei argraffiad mawr o weithiau Shakespeare. Ceir manylion ei yrfa yn D.N.B., xxiv, 298. Oherwydd iddo farw yn ddi-blant aeth y stadau i or-wyrion William Hanmer (1622 - 1669), Fens; tynnodd y cyntaf o'r rhain, WILLIAM HANMER (bu farw 1754), Fens Hall i lawr a bu'n byw yn Hanmer a Bettisfield; a dechreuodd y trydydd ohonynt, ei gefnder Syr WALDEN HANMER (1717 - 1783), y mudiad i gau-i-mewn diroedd yn y gymdogaeth trwy gael gweithred seneddol yn 1775.

Gor-or-wyr i Syr Walden Hanmer ydoedd Syr JOHN HANMER (1809 - 1881), 3ydd barwnig (o'r ail greadigaeth) a'r BARWN HANMER (Hanmer o Fflint) 1af, bardd a gwleidydd. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton a Christ Church, Rhydychen - eithr ni raddiodd; dilynodd ei daid fel barwnig yn 1828. Bu yn y Senedd, fel Rhyddfrydwr ar y cyntaf dros etholaethau yn Lloegr ac yna dros dre'r Fflint o 1841, hyd nes y'i dyrchafwyd i fod yn farwn yn 1872; yr oedd o blaid diddymu'r deddfau yd ('Corn Laws') a'r cyfreithiau ynglyn â rhwystrau a oedd ar ffordd rhai oblegid eu proffes grefyddol ('religious disabilities'). Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth yn 1836, 1839, a 1840; yn 1878 ymddangosodd ei Memorials of the Parish and Family of Hanmer. Tynnodd Hanmer i lawr a bu'n byw yn Bettisfield. Ceir manylion am ei yrfa yn D.N.B., xxiv, 295. Pan fu farw heb blant aeth y stad i'w frawd iau - trwyddo ef y mae'r olyniaeth yn parhau - eithr daeth y farwniaeth i ben.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.