Ail fab Morris ap John ap John ab Ednyfed o'r Hafodgynfor ym mhlwyf Llangollen, sir Ddinbych. Er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i oes faith ym Mhontymeibion ym mhlwyf Llansilin, fe ymddengys nad yno y ganed Huw, eithr iddo symud yno gyda'i dad a gweddill y teulu tua 1647. Gwyddom fod i'w daid, John ap John, diroedd yng nghymydau Rhiwlas a Hafodgynfor, pan briododd â Gwen, ferch Thomas ap Llywelyn ap John o'r Rhiwlas. Hyd y gwyddom, yr oedd gan y bardd ddau frawd, John yn hŷn nag ef (gydag ef y cartrefai Huw, hyd y gellir barnu), a Humphrey a oedd yn iau nag ef. Nid oes sicrwydd iddo dderbyn addysg well na'r cyffredin o fechgyn ei fro, er y mae'n bosibl iddo fynychu ysgol rad Croesoswallt neu ysgol ramadeg Rhuthyn am gyfnod. Mewn cerdd, 'Ar ofyn gostegion yn amser Cromwel,' cwyna oherwydd ei brentisio saith mlynedd i 'ddysgu trad,' ac fe ymddengys mai dyma'r unig dystiolaeth i gefnogi'r traddodiad am ei brentisio yn farcer yn y Gwaliau yn ardal Owrtwn, Sir y Fflint. Dywedir iddo dorri ar ei brentisiaeth a dychwelyd adref i helpu ei dad hefo gwaith y fferm. Y mae'n sicr, fodd bynnag, iddo dderbyn nawdd uchelwyr cylch Llansilin. Sonia amdano'i hun yn derbyn nawdd Syr William Williams, Glasgoed ('Llefarydd' y Senedd), Myddeltoniaid Castell y Waun, William Owen, Brogyntyn, ac eraill. Eglwyswr selog a Brenhinwr taer iawn fu Huw, yn dal swydd warden yn eglwys Llansilin, ac yn dwrdio 'comiti Gwrecsam' ar yn ail â chanu clod y teulu brenhinol gydag arddeliad mawr. Osgôdd ef y driniaeth arw a gafodd Wiliam Phylip, Ardudwy, a Rowland Fychan, Gaer Gai, am iddo fod yn ochelgar ei feirniadaeth yn ystod cyfnod y Weriniaeth, gan ddefnyddio hen arfer beirdd y cerddi brud o roddi enwau anifeiliaid ar ei gymeriadau. Lluniodd Huw Morys ei gerddi i'w canu ar donau adnabyddus, ac wrth hynny daethant yn adnabyddus iawn trwy Gymru. Fe'i claddwyd 31 Awst 1709 wrth ystlys ddehau eglwys Llansilin. Ym mur yr eglwys uwchben ei fedd gosodwyd ffenestr liw ac arni ei englynion cyffes, ac un arall i'w goffáu ym mur ddwyreiniol yr eglwys. O flaen Pontymeibion codwyd cofgolofn arall. Canodd Huw Morys nifer o gywyddau yn ôl patrwm cywyddwyr y 15fed ganrif, ond ni pherthyn iddynt mo'r praffter na'r naws urddasol a geir yng ngweithiau clasurwyr fel Tudur Aled. Ei gamp ef oedd dwyn i fri fath newydd o ganu, sef canu rhydd acennog wedi ei gynganeddu. O ran ffurf a deunydd y mae'n aml yn nes at safonau'r cywyddau nag i'r corff o brydyddiaeth a elwir yn ganu rhydd, ac am hynny fe'i gelwir hyd heddiw yn ganu rhydd cynganeddol. Trwy odlau mewnol a chytseinedd fe gaed ar y cychwyn benillion cyfain yn llawn o gynganeddion sain. Datblygwyd hyn ymhellach hyd onid aeth pob pennill yn gywreinwaith mydryddol, a'i effaith seiniol yn bwysicach na'r ystyr. Canwyd marwnadau, cerddi serch, cerddi gofyn, a charolau Mai a'r Plygain ar y patrwm hwn, a chan mai ef (fe ymddengys) a roddodd fri (onid yn wir gychwyn) i'r math yma o brydyddu, fe'i gelwir yn aml yn 'fath Huw Morys o ganu.' Yr enwocaf o ddigon o'r cerddi hyn yw 'Marwnad Barbra Miltwn.' Ysgrifennodd Huw Morys hefyd o leiaf ddwy anterliwt, sef 'Y Rhyfel Cartrefol' a 'Y Mab Afradlon,' ac y mae ar gael gopïau o gerddi sy'n awgrymu iddo lunio un anterliwt arall ar destun 'Y Cogiwr.' Yn 1823 cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth yn ddwy gyfrol gan Walter Davies ('Gwallter Mechain') o dan y teitl Eos Ceiriog, sef casgliad o bêr ganiadau Huw Morus.… Ni chynnwys hwn ond y deuparth o'i waith a gadwyd mewn llawysgrifau, ac nid yw'r testun bob amser yn gywir wrth y llawysgrifau gorau - ac y mae un o'r rheini, sef Cwrtmawr MS 224B (sydd yn awr yn Ll.G.C.), gan mwyaf yn llawysgrif y bardd ei hun. Cyhoeddodd O. M. Edwards hefyd ddetholiad o'i waith yng 'Nghyfres y Fil.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.