Teulu o feirdd yn byw yn Ardudwy, Sir Feirionnydd, yn y 16eg a'r 17eg ganrif. Ymestyn eu cyfnod o c. 1543, a awgrymir yn flwyddyn geni Siôn Phylip, hyd 1678, pryd y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip, un o'i feibion. Yr oedd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caethion, gan mwyaf, ac y mae digon yn eu gweithiau i dystio bod Siôn, Rhisiart, a Gruffydd yn glerwyr; yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd ef yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid Corsygedol, ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid Nannau. Eithr nid i deuluoedd Sir Feirionnydd yn unig y canai'r tri bardd; nid oes ond ychydig deuluoedd yng ngogledd-orllewin Cymru na chanasant iddynt. Bu i bob un o'r tri athro barddol a 'graddiodd' Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru; pan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd 'y diweddaf o'r hen feirdd.'
Yr oedd yn byw yn ffermdy Mochres ar 'ynys' Mochres. Yr oedd ei deulu yn disgyn o gyndad o'r enw Palgus. Priododd Catherine, aeres Palgus, Ieuan le Colier, ac o'r briodas hon, saith genhedlaeth wedi hynny, y deilliodd Siôn Phylip. Cyn 'graddio' yn eisteddfod Caerwys bu Sion dan addysg farddol William Llŷn. Bu'n athro barddonol i'w frawd Rhisiart, ac efallai i'w feibion Gruffydd a Phylip Siôn. Ysgrifennodd ramadeg barddoniaeth a gedwir yn Peniarth MS 89 a NLW MS 3047C .
Cyfansoddodd Siôn Phylip yn agos i 200 o gywyddau ac awdlau a llu o englynion. Dyma gyfrif (sydd heb fod yn gwbl gywir, efallai) ohonynt - marwnadau, 66; moliant, 44; serch, 26; gofyn, diolch, etc., 24; duwiol, etc.; 19; ymryson, 10; priodas, 1; amrywiol, 5. Canwyd y marwnadau i feirdd (William Llŷn, Siôn Tudur, Simwnt Fychan, Morus Dwyfach), i'r frenhines Elisabeth a'r tywysog Henry, i Eglwyswyr o fri (Richard Vaughan, esgob Llundain; Nicholas Robinson, esgob Bangor; Dr. Gwynn, aelod o deulu Gwydir; a Dr. William Gruffydd); y mae un farwnad i Catrin o'r Berain a rhai i aelodau teuluoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Canodd Siôn i ganmol Dr. John Davies, Mallwyd, Theodore Price, pennaeth Hart Hall, Rhydychen, Syr John Salusbury, Llewenni, Syr John Wynn o Gwydir a'i fab hynaf John Wynn, Simwnt Thelwall o Blas y Ward, Fychaniaid Corsygedol, Syr William Maurice, Clenennau, etc. Un cywydd priodas a ganodd - honno ar briodas Syr Roger Mostyn a Mary, merch Syr John Wynn, Gwydir. O'r cywyddau serch yr un i'r wylan ydyw'r mwyaf adnabyddus.
Ysgrifennodd Siôn Phylip nifer o ganiadau duwiol, a cheisiodd yntau hefyd (fel Edmwnd Prys, etc.) droi rhan o'r Ysgrythur (y salm gyntaf) ar gân. Ceir 'Cywydd y ffenics' yn fynych yn y llawysgrifau. Ymysg y canu amrywiaethol y mae 'Moliant i'r parlwr newydd ym Mhlas y Ward,' 'Cywydd i'r tai coed ac i'r herber yng Ngwedir,' a 'Cywydd i dref Conwy pan oedd y nodau yno,' I'r dosbarth hwn y perthyn y cywyddau ymryson - gyda'i frawd Rhisiart ynglyn â Nannau, gyda'i ewythr, Siôn Dafydd Siencyn, gydag Edmund Prys, gyda Tomos Prys, Plas Iolyn, a'r gyfres ddiddorol yn yr ymryson â Siôn Tudur. Bu gan Siôn Phylip ran mewn ymrysonau rhwng Edmwnd Prys a William Cynwal a Huw Machno, a honno rhwng Gruffydd Hafren, Rhisiart Phylip, a Ieuan Tew. Ysgrifennodd lu mawr o englynion. Ni chanodd o gwbl yn y mesurau rhyddion yr oedd rhai o'i gyfoedion yn dechrau eu mabwysiadu. Bu'r bardd farw 13 Chwefror 1620 ym Mhwllheli, drwy foddi, pan oedd ar fin croesi oddi yno i Fochres ar ôl bod ar daith glera yn Sir Gaernarfon a sir Fôn, a chladdwyd ef yn Llandanwg, yn ymyl ei gartref. Gadawodd weddw a chwech o blant. Canwyd marwnadau iddo gan Edmund Prys, Rhisiart Cynwal, Ieuan Llwyd, Gruffydd Hafren, Rowland Fychan, a chan ei fab Gruffydd Phylip.
Brawd iau Siôn Phylip. Yr oedd yn ysgrifennu mor gynnar â 1587. Canodd 105 o gywyddau ac awdlau a thros 50 o englynion. Fel ei frawd yr oedd yn glerwr - yn canu'n aml i'r un personau ag y canai Siôn iddynt. Bu'n ymryson â beirdd eraill - ei frawd Siôn, Rhisiart Cynwal, etc. Nid ymddengys iddo ganu marwnad pan fu ei frawd farw yn 1620; yr un modd, pan fu yntau farw yn 1641, nid ei nai Gruffydd Phylip a farwnadodd iddo eithr William Phylip, Hendre Fechan. Yr oedd yn byw yn Llanuwchllyn ychydig cyn iddo farw; dywed William Phylip iddo farw yn y Prys a'i gladdu yn Llanuwchllyn.
Gellir dosbarthu ei ganiadau fel hyn: marwnadau, 32; canmol, 33; gofyn, diolch, etc., 13; serch, 5; cywyddau ymryson, 11; Nannau, 7; amrywiol, 7. I deuluoedd Gogledd Cymru y mae'r marwnadau, eithr ceir un i Dafydd Llwyd ab Ifan, Abermaed, Sir Aberteifi. Canodd farwnad Catrin o'r Berain ac un i'r frenhines Elisabeth. Canodd gywyddau ac awdlau moliant i aelodau teuluoedd Gwydir, Corsygedol, Llewenni, Glynllifon, Rhiwedog, a Clenennau. Canodd bedwar cywydd i ganmol Dr. John Davies, Mallwyd. Ymysg y cywyddau gofyn ceir un at Rowland Fychan - 'Cywydd i ofyn newid milgwn'; mewn un arall gofynnir i John Fychan, Caergai, roddi bytheuad i Lewis Gwyn, Dolau Gwyn. Ceir gan y bardd bum caniad serch; 'Awdl o foliant i ferch o Dywyn' ydyw'r fwyaf adnabyddus. Heblaw ei ymryson â'i frawd, bu'n ymryson â Rhisiart Cynwal, a bu iddo ran mewn ymrysonau, etc., rhwng Tomos Prys, Plas Iolyn, Gruffydd Hafren, Ieuan Tew, a Sion Mawddwy. Y mae ganddo gywydd diddorol i'r 'ffiol frech' neu'r 'ffiol oddfyn' a oedd yn perthyn i Lewis Gwyn, Dolau Gwyn. Dywedir yn un o'r Cwrtmawr MSS iddo ganu 'Dau bennill ar y mesur Gwel yr Adeilad,' ond ni welwyd mo'r cyfeiriad arbennig hwn mewn unrhyw lawysgrif arall. Canodd Rhisiart lu mawr o englynion.
Dyma syniad am gynnwys ei weithiau barddonol: I (a) marwnadau 26, (b) canmol 25, (c) gofyn 4, (d) priodas 6, (e) amrywiol 2; II, caniadau yn y mesurau rhyddion 3; III, englynion. Ei farwnadau gorau ydyw rhai a ganodd ar ôl ei dad (Siôn Phylip) a Rhisiart Hughes, Cefn Llanfair, Lleyn. Y mae'r un i'r archesgob John Williams yn llai adnabyddus. Marwnadodd hefyd ar ôl ei noddwyr pennaf - William Fychan, Corsygedol, ac Owen Ellis, Ystumllyn. I William Fychan, Corsygedol, y mae rhan fwyaf y cywyddau canmol, ond y mae eraill sydd o ddiddordeb, e.e. dwy i Dr. John Davies, Mallwyd. Yr unig gywydd merch ganddo ydyw 'Cywydd marwnad a wnaeth In [un] o ymddyddan rhwngtho ai gariad y rhon a fase farw' (Peniarth MS 241 ). Canodd 17 o ganeuon i William Fychan, Corsygedol, a briododd Ann Nannau yn 1649, ac i eraill o'r teulu. Canodd hefyd i aelodau teulu Ellis, Ystumllyn a Bronyfoel, Eifionydd, yn enwedig i Owain Ellis a Marged Elis; yng nghyfres Ystumllyn y mae'r faled - 'Hiraeth y Bardd am Ystumllyn' (gweler Caniadau yn y Mesurau Rhyddion). Gwelir cân arall yn yr un mesur yn Blodeugerdd, 1759 - 'Dirifau'r Coler Du.' Y mae yn Peniarth MS 245 'Cân Gwirod neu Wyl Fair' y dywedir mai Gruffydd Phylip a'i canodd. Ceir gan Gruffydd hefyd lu o englynion. Yn eu plith y mae 'Englynion a ganwyd pan oeddynt yn bwrw Castell Harlech i lawr,' chwech yn nechrau Yr Ymarfer o Dduwioldeb (cyf. Rowland Fychan) a chwech yn nechrau Ystyriaethau Drexelius, 1661. Bu'r bardd farw yn 1666.
Mab Siôn Phylip ac felly'n frawd i Gruffydd Phylip. Y mae ei ewyllys, a wnaethpwyd ar 9 Medi 1676, ac a brofwyd ar 5 Gorffennaf 1678, yn y Llyfrgell Genedlaethol; ynddi disgrifir ef fel 'Phillip Jon. Phillip of the pish of Llandanock in the county of Merioneth.' Pedwar cywydd o'i waith a gadwyd (hyd y gwyddys) - (a) 'Cowydd i Mr. Gruffyth Van o Gors y Gedol yw groesawu Adref or ysgol'; (b) 'Marwnad Mr. Moris Wynn o Faesneuadd Esquier Enwog'; (c) 'Cowydd Moliant i Owen Wynn o'r Glyn, Esq., pan oedd ef yn Sirif yn Sir Feirionydd'; a (d) 'Marwnad William Phylip Hendre fechan.'
Mab Phylip ap Siôn ap Thomas ap Robert, Hendre Fechan, ym mhlwyf Llanddwywe, Sir Feirionnydd, (a fu farw ar 25 Chwefror 1625/6, ac a gladdwyd yn Llanddwywe), a'i wraig Catrin (a fu farw yn 1651 ac a gladdwyd yn Llanddwywe). Bu Ann, gwraig y bardd, farw yn 1653, a'i ferch Elisabeth tua'r un amser, a chladdwyd y ddwy yn Llanaber; eithr yn Llanddwywe y claddwyd William Phylip pan fu farw ar 11 Chwefror 1669/70. Ysgrifennodd y bardd farwnadau i'w dad, i'w fam, i'w wraig, ac i'w ferch. Gadawodd fab, Henry Williams, Hendre Fechan, a roes NLW MS 3047C , sydd yn llawysgrifen ei dad, i Gruffydd Fychan, Corsygedol, yn 1678. Fel y dengys llawer o'i waith yr oedd William Phylip yn Frenhinwr pybyr. Dywedir iddo ddioddef erledigaeth yng nghyfnod Cromwell oherwydd iddo ysgrifennu marwnad Siarl I ac oherwydd ei gasineb at y sectau crefyddol a gwleidyddol newydd. Y mae'n anodd dywedyd ymha fodd y cafodd ei erlid; mae'n bosibl fod ei 'Englynion ffarwel i Hendre Fechan' yn cyfeirio nid at unrhyw erledigaeth eithr at ei ymdeimlad bod angau yn agosáu.
Ysgrifennodd 20 o gywyddau, un awdl, tua 35 o garolau a dyrïau, a llu mawr o englynion. Y cywyddau mwyaf adnabyddus yw ei farwnad i Siarl I a'r 'Cywydd y Bedd.' Marwnadau ydyw mwyafrif ei gywyddau; canodd farwnadau i'w rieni, i'w wraig a'i ferch, i Rhisiart Phylip, Robert Ffoulke, offeiriad Llanfechain, Huw Nannau, Gruffydd Fychan, Caergai, etc. Canodd i groesawu adferiad Siarl II, ac un arall i ganmol y cyrnol John Owen, Clenennau. Ceir pedair cân o'i waith yn Carolau a Dyriau Duwiol, 1688, a phump yn Blodeu-Gerdd, 1759, er efallai nad William Phylip ydyw awdur 'Carol i'r Gwirod' sydd yn un o'r pump. Heblaw y rhain y mae 24 o ganiadau eraill, yn y mesurau rhyddion, a briodolir iddo a rhyw ychydig nas gellir bod yn bendant mai efe a'u canodd. Caniadau ar bynciau crefyddol ydyw rhai, ac y mae eraill ar bynciau gwleidyddol, e.e. 'Histori y Bruttaniaid' sydd yn rhoddi hanes Brutus a'i ddyfodiad i Brydain. Yn Peniarth MS 115 ceir 'Carol at Gruffydd Phylip am Gatea.' Yn Bangor MS. 401 ceir carolau a dyrïau yn Saesneg, llawer ohonynt yn llaw William Phylip. Gellir bod yn weddol bendant ynglyn â 'Karol Wyl Fair wrth wirota ar fesur byrr' sydd yn Bangor MS. 401 mai William Phylip a'i canodd, ond nid yw'n sicr mai ef a wnaeth y garol gyffelyb sydd yn Blodeu-gerdd, 1759. Y mae ei englynion yn niferus. Ceir rhai ganddo ynglyn â gwarchae a chwymp castell Harlech, englynion marwnad 'Coronel Wil: Wyn o Ddyffryn Melai' (a laddwyd yn 1643), 'Englynion o gwyn pan fu Rowlant Fychan Caergai yn y Rhyfel' a thri arall ynglyn â ffawd Caergai ac Ynysmaengwyn, pump o 'Englynion Croeso i Arglwydd Mawddwy,' englynion 'Pan dorwyd pen y Brenin,' ac 'Englynion i'r Rowndied'. Y mae gan y bardd lawer o englynion i ferched a llu o rai o natur grefyddol. Ceir englynion ganddo yn nechrau Ystyriaethau Drexelius, 1661. Gelwir yr 'Englynion ffarwel i hendre fechan' yn 'Englynion ar henaint' mewn rhai MSS. Yn B.M. Add. MS. 14953 y mae gramadeg Cymraeg - y rhan fwyaf ohono yn llaw William Phylip.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.