IEUAN LLWYD SIEFFRAI (fl. c. 1599-1619), bardd

Enw: Ieuan Llwyd Sieffrai
Priod: Margred ferch Morus ap Siôn ab Elis
Plentyn: Morus Llwyd
Plentyn: Sieffrai Llwyd
Rhiant: Sieffrai ab Ieuan Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ganwyd yn 1575 yn fab ac aer Sieffrai ab Ieuan Llwyd, Dyffryn Ereithlyn, Eglwys-bach, sir Ddinbych, o deulu Llwydiaid Hafod Unnos. Ar 12 Gorffennaf 1591, yn eglwys Llandrillo, Meirion, ef yn 16 oed a hithau ond 11, priododd Margred, merch ac unig aeres Morus ap Siôn ab Elis o'r Palau. Ganwyd iddynt 10 merch a dau fab, rhai yn y Palau a rhai yn y Dyffryn. Llofruddiwyd y mab hynaf, Sieffrai Llwyd (1607 - 1626) yn Nôl-y-cletwr yn Rhiwedog, ac aeth yr etifeddiaeth drwy'r ail fab, Morus (ganwyd 1619). Un o'r uchelwyr llengar, hynafiaethydd, achydd, bardd oedd Ieuan Llwyd Sieffrai. Bu farw 8 Gorffennaf 1639, a'i gladdu ym mynwent Llandderfel.

Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir cywydd ac englynion marwnad i'r Capten Sion Salbri o Rug, a fynega gysylltiad agos rhyngddo â'r bardd, englynion i Pyrs Gruffydd o'r Penrhyn, englynion i groesawu Rhisiart Huws i Benllyn, cywydd i ddiolch i Robert Fychan o Lwydiarth am y croeso a gafodd y bardd yn ei gartref, cywydd gofyn cleddyf i Maredudd ap Huw Lewys dros Ffowc Holant, a pheth canu rhydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.