Mab Huw ap Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair. (Nid yr un oedd Huw Llŷn â Huw ap Rhisiart, er bod yr olaf hefyd yn fardd.) Aeth i Lundain, ac ymunodd â'r fyddin ac yn ôl un englyn o'i waith gellir casglu iddo fod yn ymosodiad llwyddiannus y Prydeinwyr yn 1596 ar borthladd Cadiz yn Sbaen, yn un o 150 o Gymry Sir Gaernarfon yn yr ymgyrch hwnnw. Gwyddom hefyd iddo fod yn ' pedisequus ' y frenhines Elizabeth, a'r brenin Iago ar ôl hynny, ac iddo gael blwydd-dâl o £50 ar ôl marwolaeth John Hedde.
Nid oes nac awdl na chywydd ar glawr o'i waith, ond y mae rhai englynion. Ond ei gerddi rhydd yw ei gerddi pwysicaf. Ceir ei waith yn Cymdeithas Llên Cymru, i, Carolau Richard Hughes, a Cymdeithas Llên Cymru, v-vi, Caniadau yn y Mesurau Rhyddion, lle y ceir ar dud. 49 ganddo dri phennill o faled, ' Bywyd y Bugail '; gweler Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 243, ' An Early Printed Welsh Ballad.' Ceir ei waith hefyd yn Cynfeirdd Lleyn, Canu Rhydd Cynnar ( T. H. Parry-Williams ), ac yn Bulletin of the Board of Celtic Studies iii, 128, ' Cyfeiriadau at Richard Hughes, Cefn Llanfair.' Bardd serch ydoedd; bardd serch a ragflaenodd Huw Morys a'i ysgol. Tri mesur sydd ganddo yn ei gerddi, ac y mae'r rhan fwyaf ohonynt ar ffurf ymddiddan. Y mae blas gwlad ar ei ganu. Bu farw rhwng dechrau Chwefror a dechrau Mai 1619; claddwyd ef yn eglwys Llanbedrog, ac ysgrifennodd Gruffydd Phylip farwnad arno (Y Cymmrodor, xlii, 199).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.