Ganed T. H. Parry-Williams ar 21 Medi 1887, yr ail o chwech o blant Henry Parry-Williams (1858-1925) ac Ann, née Morris (1859-1926), yn Rhyd-ddu, Arfon. 'Tom' (nid 'Thomas') y bedyddiwyd ef; enwau'r plant eraill oedd Blodwen, Willie, Oscar, Wynne ac Eurwen. Roedd yr asgen lenyddol yn nodweddu dwy ochr y teulu. Roedd brawd Ann, R. R. Morris, yn gynganeddwr medrus, roedd Henry Parry-Williams ei hun yn fardd eisteddfodol arobryn, a chefnder i T. H. Parry-Williams ar ochr ei dad oedd R. Williams Parry.
Henry Parry-Williams oedd ysgolfeistr pentref Rhyd-ddu, ac roedd ymhlith y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i faes llafur ysgolion elfennol. Bu hefyd yn athro Cymraeg ar ryw ddwsin o ysgolheigion Celtaidd cyfandir Ewrop a ddeuai i aros gyda'r teulu yn Nhŷ'r Ysgol i ymarfer yr iaith gyfoes. Bu magwraeth Parry-Williams yn Rhyd-ddu yn ddylanwad canolog arno, ac ymdriniodd ag agweddau ar fywyd y pentref, yn ogystal â nodweddion daearyddol y rhan hon o Eryri, yn rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus, megis y cerddi, 'Bro', 'Hon', 'Llyn y Gadair', 'Tŷ'r Ysgol' a 'Moelni', a'r ysgrifau, 'Dieithrwch', 'Y Lôn Ucha', a 'Drws-y-Coed'.
Ym 1899, ac yntau'n un ar ddeg oed, enillodd ysgoloriaeth sir i Ysgol Ganolraddol Porthmadog, bymtheng milltir i ffwrdd o Ryd-ddu. Golygai hyn fod rhaid iddo letya mewn ty lojin trwy gydol y tymor, gan ddychwelyd adref ar wyliau ysgol. Parodd yr alltudiaeth hon 'gyffro awenyddol' ynddo, yn ei eiriau ei hun, a greodd ymdeimlad o ddieithrwch rhyngddo a'i fro enedigol. Ym Mhorthmadog, yn ogystal â mwynhau atyniadau'r cei, daeth ar draws nifer o feirdd lleol o bwys, gan gynnwys Iolo Caernarfon, Tryfanwy ac Eifion Wyn, cyfaill i'w dad. Yma hefyd y dechreuodd gadw cofnodion dyddiadurol moel, arfer deddfol a barhaodd hyd ei oes.
O Borthmadog, aeth Parry-Williams yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1905. Disgleiriodd yn academaidd dan ofal Edward Anwyl, Athro'r Gymraeg, gan raddio yn 1908 gyda gradd Gymraeg yn y dosbarth cyntaf, y myfyriwr cyntaf erioed i gyflawni hynny. Graddiodd yn yr ail ddosbarth mewn Lladin flwyddyn yn ddiweddarach. Tra bu yn Aberystwyth cafodd gryn lwyddiant wrth gystadlu yng nghystadlaethau llenyddol Eisteddfod y Coleg. Mae'r gweithiau cynnar hyn - a gyfansoddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg - yn drwm dan ddylanwad rhamantiaeth Telynegion W. J. Gruffydd ac R. Silyn Roberts.
Ym 1909 aeth Parry-Williams yn ei flaen i Goleg Iesu, Rhydychen, gan gwblhau traethawd BLitt dan gyfarwyddyd John Rhys, yr Athro Celtaidd, ar eiriau benthyg Saesneg yn y Gymraeg erbyn haf 1911. (Cwblhaodd draethawd MA Prifysgol Cymru ar bwnc cysylltiedig yn yr un cyfnod.) Cyhoeddwyd ffrwyth y gwaith ymchwil hwnnw yn ei gyfrol arloesol The English Element in Welsh yn 1923. Yn Rhydychen bu hefyd yn mynychu darlithoedd ieithegwyr blaenllaw megis Joseph Wright a Henry Sweet a roddai fri ar dafodieitheg ac ar yr iaith lafar, pwyslais a ddaeth, maes o law, i ddylanwadu ar ieithwedd gwaith creadigol Parry-Williams. Yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr o Gymry yng Nghymdeithas Dafydd ap Gwilym daeth i ffurfio barn ar faterion llenyddol a diwylliannol Cymreig y dydd, barn a fynegwyd mewn cyfres o ysgrifau pryfoclyd dan y ffugenw 'Oxoniensis' yn Y Brython rhwng 1910 a 1912.
Ym mis Tachwedd 1911 derbyniodd ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru i fynd i Brifysgol Freiburg yn yr Almaen i gwblhau doethuriaeth ar berthynas y Llydaweg a'r Gymraeg dan gyfarwyddyd Rudolf Thurneysen, un o gyn-ddisgyblion Cymraeg ei dad. (Cyhoeddwyd y traethawd dan y teitl Some Points of Similarity in the Phonology of Welsh and Breton yn 1913.) Yn Freiburg, manteisiodd Parry-Williams ar y cyfle i fynychu darlithoedd mewn meysydd eraill, gan gynnwys seicoleg, disgyblaeth yr oedd y brifysgol yn arloesi ynddi ac y gwelir ei dylanwad ar y cerddi a'r ysgrifau a luniodd o hynny ymlaen. Bu'n crwydro'r Swistir dros wyliau'r Pasg 1912 ac yno, yn rhannol, y lluniodd yr awdl ('Y Mynydd') a'r bryddest ('Gerallt Gymro') a enillodd iddo'r Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn honno ac a'i dygodd i gyhoeddusrwydd cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae alltudiaeth yn thema ganolog yn y ddau waith.
O Freiburg aeth i Baris yng ngwanwyn 1913, gan ddilyn cyrsiau ieithegol ym mhrifysgol y Sorbonne ond heb fatriciwleiddio'n swyddogol. Gwerthfawrogodd holl atyniadau celfyddydol a chymdeithasol prifddinas Ffrainc, a chostrelodd ei brofiadau ym mhryddest gynhyrfus 'Y Ddinas' a gyfansoddodd yn fuan wedi ei ddychweliad i Aberystwyth ym 1914 pan benodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg. Enillodd hon y Goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, er gwaethaf condemniad croyw Eifion Wyn o'i diffyg moes, ac erbyn heddiw ystyrir mai hi yw cerdd Fodernaidd gyntaf y Gymraeg. Enillodd y Gadair yn yr un Eisteddfod am ei awdl 'gromatig', 'Eryri' gan ddod yn fardd cyntaf y 'dwbl-dwbl' yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cyfnod cythryblus oedd cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf iddo. Fel ei gyd-ddarlithydd yn Aberystwyth, T. Gwynn Jones, cymerodd safiad yn wrthwynebydd cydwybodol, a bu'n gyfnod o encilio cynyddol. Cyhoeddodd nifer o gerddi dirdynnol yn Gymraeg a Saesneg yn y cyfnod hwn mewn cylchgronau megis Y Deyrnas, cylchgrawn heddychwyr Cymru, ac Y Wawr, cylchgrawn gwrthryfelgar myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth a gaewyd i lawr gan awdurdodau'r Coleg ym 1918. Lluniodd hefyd gyfres o ysgrifau lled-hunangofiannol, megis 'Eiconoclastes', y mae cyflyrau meddwl dwys yn ysbrydoliaeth iddynt. Ar wyliau o'r coleg, aeth Parry-Williams i dreulio cyfnodau estynedig ar fferm Oerddwr uwchlaw bwlch Aberglaslyn yn Eryri, sef cartref ei gefnder, y bardd gwlad, William Francis Hughes ('Wil Oerddwr', 1879-1966).
Wedi'r rhyfel, daeth yn adeg penodi Athro'r Gymraeg yn Aberystwyth, i gymryd lle Edward Anwyl (a fuasai farw'n annhymig yn haf 1914), ond cafwyd ymgyrch groyw yn erbyn Parry-Williams oherwydd ei safiad heddychol, gydag un garfan am weld penodi Timothy Lewis yn ei le. Aeth y dadlau'n syrffed ar Parry-Williams ac yn hydref 1919 trodd ei gefn ar ysgolheictod Cymraeg, gan fynd yn fyfyriwr gwyddoniaeth yn Aberystwyth, gyda golwg ar yrfa feddygol. Fel y gwelir o'r ysgrif 'Y Flwyddyn Honno', dyma un o flynyddoedd hapusaf ei fywyd: enillodd ganlyniadau gorau ei flwyddyn a sicrhau ysgoloriaeth i astudio meddygaeth yn ysbyty St Bartholomew yn Llundain. Ym mis Gorffennaf 1920, fodd bynnag, fe'i penodwyd o'r diwedd i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth. Arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1952, ond gadawodd helbul y penodi, yn ogystal ag alltudiaeth fewnol blynyddoedd y Rhyfel Mawr, eu hôl arno, a daeth yn ddyn mwy preifat a gochelgar.
Ym 1922 cyhoeddodd ysgrif am ei feic modur, 'KC 16', yn rhifyn cyntaf Y Llenor. Yn ei dull ymgomiol, ymddangosiadol ffwrdd-â-hi o drafod ei gwrthrych canolog, daeth hon yn batrwm i ysgrifau aeddfed Parry-Williams a ddefnyddiodd i fynegi sylwadau athronyddol ar y byd a'r bydysawd. Fe'u nodweddir hefyd gan fanylder disgrifiadol a chan feistrolaeth ragorol ar gyweiriau'r iaith Gymraeg, gan gynnwys bathu geiriau newydd a ddaeth, yn y man, i gael eu defnyddio'n gyffredin gan siaradwyr. Cynullodd y rhain - dros gant ohonynt - mewn cyfres o gyfrolau cyhoeddedig, gan ddechrau gydag Ysgrifau (1928). Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cerddi, ym 1931, a phrin y mae honno'n cydnabod y dwsinau o gerddi a gyfansoddodd cyn 1920. Yn hynny o beth, gwelir bod Parry-Williams wedi codi cefn deuddwr yn ei yrfa farddonol ei hun, er iddo ailgyhoeddi sonedau Saesneg y cyfnod 1919-20 mewn cyfrol fer o'r enw Sonnets (1932).
Cyhoeddodd chwe chyfrol bellach o gerddi ac ysgrifau, sef Olion (1935), Lloffion (1942). O'r Pedwar Gwynt (1944), Ugain o Gerddi (1949), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd yr ysgrifau at ei gilydd yn Casgliad o Ysgrifau (1984) a'r farddoniaeth yn Casgliad o Gerddi (1987).
Yn ei farddoniaeth fe ddefnyddiodd Parry-Williams ddwy ffurf y glynodd wrthynt weddill ei yrfa. Mae'r rhigwm yn gyfrwng iddo fynegi sylwebaeth gryno ac eironig ar fywyd, gan wneud defnydd helaeth o ffurfiau llafar, fel y gwelir o'r cyfresi o rigymau a ysbrydolwyd gan ei ddwy daith i dde a gogledd cyfandir America yn 1925 a 1935. Mae ffurf y soned yn ei alluogi i ymchwilio'n ddyfnach i baradocsau teimlad, i gydnabod yr elfen rythmig a soniarus mewn iaith, ac i dalu gwrogaeth i'w etifeddiaeth Ramantaidd. Un o brif themâu ei waith, yn y rhyddiaith a'r farddoniaeth, yw'r tyndra rhwng rhesymeg a theimlad, neu rhwng positifiaeth ac atyniad y trosgynnol, yn enwedig mewn perthynas â thirwedd Eryri, ac mae ei bwyslais ar ofn ac ar ddiddymdra, ac ar eirfa megis 'ias', 'bwrn' a 'dieithrwch', yn ei osod yn gadarn yng ngwersyll y Moderniaid.
Cywir y barnodd Saunders Lewis mor gynnar â 1955 mai Parry-Williams yw'r 'llenor pwysicaf ei ddylanwad ar feirdd a llenorion eraill' rhwng y ddau ryfel byd' ('Braslun Radio'). Yn wir, parhaodd ei waith, o ran arddull a meddylfryd, i ysbrydoli: gellir ymdeimlo â'i ddylanwad ar rai o lenorion Cymraeg pwysicaf diwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Gwnaeth Parry-Williams gyfraniad nodedig hefyd fel ysgolhaig ac roedd y 1930au yn ddegawd hynod gynhyrchiol yn hyn o beth. Dyma pryd y cyhoeddwyd ei olygiad o Lawysgrif Hendregadredd (1933) ar y cyd â John Morris-Jones, yn ogystal â'i ddiweddariad o Bedair Cainc y Mabinogi (1937). Yn yr un cyfnod cyhoeddodd ei olygiadau o Carolau Richard White (1931), Llawysgrif Richard Morris o Gerddi… (1931), y Canu Rhydd Cynnar (1932) a'r Hen Benillion (1940), gwaith a gyfrannodd yn sylweddol at ein dealltwriaeth o draddodiad y canu rhydd yn y Gymraeg.
Yn ychwanegol at hyn, cyhoeddodd un gyfrol ar grefft barddoni, sef Elfennau Barddoniaeth (1935), er nad yw ei farddoniaeth ei hun bob amser yn adlewyrchu'r syniadau a geir yn y fan honno. Bu'n olygydd nifer o gyfrolau pellach o ryddiaith a barddoniaeth, bu'n feirniad aml ar lwyfannau'r Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd hefyd yn gyfieithydd profiadol: cyhoeddodd gasgliad o Ystoriau Bohemia yng Nghyfres y Werin yn 1921 (wedi eu cyfieithu o'r Almaeneg), a bu'n gyfieithydd caneuon, emynau, arias a lieder ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol am dros ddeugain mlynedd. Ar sail ei gyfraniad fel ysgolhaig enillodd ddwy radd DLitt: y gyntaf gan Brifysgol Cymru ym 1934 a'r ail gan Brifysgol Rhydychen ym 1937.
Priododd Emiah Jane Thomas, neu 'Amy' (1910-1988), cyn-fyfyrwraig iddo, ym mis Awst 1942. Wedi ei ymddeoliad daeth yn ddarlledwr poblogaidd ar y radio a'r teledu, a daeth hefyd yn ffigwr cynyddol amlwg yn sefydliadau cenedlaethol Cymru. Bu'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, yn ogystal â bod yn Gadeirydd Cyngor y BBC yng Nghymru ac yn warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Urddwyd ef yn farchog yn 1958. Fe'i hanrhydeddwyd â doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Cymru yn 1960, ac fe'i gwnaethpwyd yn gymrawd er anrhydedd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen yn 1968.
Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref, Wern, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, ar 3 Mawrth 1975. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Amlosgfa Bangor a chladdwyd ei lwch ym mynwent eglwys Beddgelert.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-11-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.