PARRY, ROBERT WILLIAMS (1884 - 1956), bardd, darlithydd prifysgol

Enw: Robert Williams Parry
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1956
Priod: Myfanwy Parry (née Davies)
Rhiant: Jane Parry (née Hughes)
Rhiant: Robert Thomas Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, darlithydd prifysgol
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 6 Mawrth 1884 yn Madog View, Tal-y-sarn, Caern., yn fab i Robert a Jane Parry (y tad yn hanner brawd i Henry Parry-Williams). Cafodd ei addysg elfennol yn ysgol Tal-y-sarn, ac yna ysgol sir Caernarfon 1896-98, a blwyddyn yn ysgol sir newydd Pen-y-groes. Treuliodd dair blynedd, 1899-1902, fel disgybl athro. Aeth i Goleg y Brifysgol Aberystwyth yn 1902 ac ymadael yn 1904 wedi dilyn rhan o'r cwrs gradd a chael hyfforddiant fel athro ysgol. Bu'n dysgu mewn gwahanol ysgolion am dair blynedd, ac yn 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, i orffen cwrs gradd. O 1908 hyd 1910 bu'n dysgu Cymraeg a Saesneg yn ysgol sir Llanberis (ym Mryn'refail). Yna dychwelodd i goleg Bangor i weithio am radd M.A., a threulio rhai misoedd yn Llydaw, gan mai ‘Some points of contact between Welsh and Breton’ oedd testun ei draethawd. Cafodd y radd yn 1912. Treuliodd un flwyddyn, 1912-13, yn ysgolfeistr yng Nghefnddwysarn, ac yna aeth i ysgol sir y Barri. Oddi yno yn 1916 i Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Caerdydd, fel athro Saesneg. Bu yn y fyddin o Dach. 1916 hyd Rag. 1918. Dychwelodd i Gaerdydd, ond yn 1921 mynd i ysgol Oakley Park, Maldwyn, ac oddi yno yn nechrau 1922 i Goleg Bangor yn ddarlithydd hanner-amser yn yr Adran Gymraeg a hanner-amser yn yr Adran Allanol, ac yn y swydd honno y bu nes ymddeol yn 1944.

Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau wr oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef Owen Edwards (‘Anant’), chwarelwr, a H.E. Jones (‘Hywel Cefni’), gwerthwr dillad. Byddai'r ddau yn cystadlu'n gyson ar gyfansoddi englynion yn yr eisteddfodau lleol, ac yn cyhoeddi'r cynnyrch yn y cylchgronau, yn arbennig Y Geninen. Mor gynnar ag 1906 ysgrifennodd Williams Parry awdl ar y testun ‘Dechrau haf’ ar gyfer cystadleuaeth yn Ffestiniog. Yn 1907 cystadlodd am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe gydag awdl ar ‘John Bunyan’, ond collodd. Y flwyddyn wedyn enillodd gadair Eisteddfod Myfyrwyr Bangor am awdl ar ‘Gantre'r Gwaelod’. Colli wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain ar ‘Gwlad y Bryniau’ yn 1909, ond ennill ym Mae Colwyn yn 1910 am ‘Yr Haf’, un o awdlau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd yr 20fed ganrif. Yr oedd pum awdl hir mewn pum mlynedd yn gynnyrch pur nodedig, ac ni fu byth wedyn yn hanes y bardd y fath weithgarwch cynganeddol â'r pum mlynedd hyn. Yn 1911 caed arwydd o ddatblygiad mydryddol tra gwahanol, sef anerchiad priodas i'w gyfaill G. W. Francis ar ffurf soned, a honno'n llawn cynghanedd. Yn ystod Rhyfel Byd I ysgrifennodd amryw o sonedau, fel ‘Pantycelyn’, ‘Mae hiraeth yn y môr’, ‘Cysur Henaint’, ‘Gadael Tir’, a'r sonedau sy'n ymwneud â'r rhyfel yn uniongyrchol, fel ‘Y Cantîn Gwlyb’ a ‘Y Drafft’. Ond cadwodd ei ddiddordeb yn y gynghanedd, mewn englynion coffa i gyfeillion a chydnabod o bob gradd a dosbarth, ac yn arbennig i filwyr a laddwyd yn y rhyfel, fel y gyfres enwog i Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans).

Yr oedd y blynyddoedd rhwng y ddau rhyfel yn gyfoethog a thoreithiog. Yr oedd wedi ymdynghedu yn y soned ‘Adref’ yn 1917 i gefnu ar gyfaredd yr oesoedd canol ac ymroi i bethau ‘y dwthwn hwn’. Ond nid yn y trefi a'u diwydiant, eithr yn y wlad a'i heddwch a phopeth sy'n trigo ynddi, fel yn y cerddi ‘Eifionydd’, ‘Tylluanod’, ‘Clychau'r gog’, ‘Y Llwynog’. I'r un cyfnod y perthyn y gerdd ryfeddol honno ‘Drudwy Branwen’, sy'n corffori holl brif nodweddion gwaith y bardd — mydryddiaeth hynod grefftus, dychymyg grymus a sylwadaeth gyfrwys ar gyflwr dyn. At ddiwedd y cyfnod fe ddaeth tro ar arddull y bardd. Yr oedd wedi ymwrthod ag arddull foethus ‘Yr Haf’ ers llawer blwyddyn, ond wedi cadw'n ofalus iawn y coethder hwnnw oedd, yn ei farn ef, yn nod amgen ar farddoniaeth. Ond dyma hepgor yr hen gonfensiwn (i raddau mawr o dan ddylanwad gwaith ei gefnder, T.H. Parry-Williams ) a derbyn cystrawen foel a geirfa gyffredin rhyddiaith a'r iaith lafar. Enghraifft deg yw'r soned ‘Gwenci’. Bu newid arall hefyd, newid yn ymateb y bardd i safonau ac i ymarweddiad dynion. Aeth i gondemnio materoliaeth yr oes ac ymroi i ddychan ffyrnig. Y cymhelliad cychwynnol i'r ymateb hwn oedd yr hyn a ddigwyddodd i Saunders Lewis , sef colli ei swydd, ar ôl llosgi'r ysgol fomio yn Llyn yn 1936. Defnyddiodd y bardd gyfrwng mydryddol newydd i beth o'r dychan hwn, sef soned â chorfannau tair sillaf wedi eu cymysgu â'r corfannau iambig traddodiadol.

Yr oedd Williams Parry yn dra hyddysg mewn barddoniaeth Saesneg, a dylanwadwyd arno gan weithiau'r beirdd Rhamantaidd, John Keats yn arbennig. Yr oedd iddo lawer o gydnawsedd hefyd â beirdd Saesneg chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif, a gwelir cryn lawer o gyfatebiaethau rhwng ei ddelweddau ef a'r eiddynt hwy. Ond er pob dylanwad yr oedd sylwadaeth finiog y bardd, ei bersonoliaeth annibynnol a'i ymdrafferthu cydwybodol â'i fynegiant yn creu corff o farddoniaeth a oedd yn dwyn ei nodweddion priod ei hun ac yn gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Yr Haf a cherddi eraill yn 1924 (arg. newydd 1956) a Cherddi'r gaeaf yn 1952. Ceir nifer o gerddi yn Barddoniaeth Robert Williams Parry (1973) gan T. Emrys Parry na cheir mohonynt yn y ddwy gyfrol.

Bu Williams Parry yn beirniadu llawer mewn eisteddfodau mawr a mân, gan gynnwys prif gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol Nid condemnio a dangos beiau yn unig oedd beirniadu iddo ef, ond bod yn adeiladol a meithrin chwaeth. Cyhoeddodd rai ysgrifau mewn cyfnodolion ar grefft barddoniaeth, gan gymeradwyo'n arbennig bob ffurf ar farddoniaeth delynegol, a'r ddau fardd a ystyriai ef yn bencampwyr y delyneg, sef Ceiriog ac Eifion Wyn. Y mae yn ei ryddiaith ef ei hun nerth argyhoeddiad a hefyd gryn ffraethineb, ac o ran arddull ef yw un o ysgrifenwyr rhyddiaith gorau'r ganrif. Ceir detholiad o'i waith yn Rhyddiaith R. Williams Parry (1974) dan olygiaeth Bedwyr Lewis Jones.

Gwr gwylaidd iawn, swil yn wir, oedd Williams Parry, na chyrchai dyrfa ond yn anfodlon, eithr a ymhyfrydai yng nghwmni gwir gyfeillion. Yr oedd yn genedlaetholwr argyhoeddedig ac yn gadeirydd pwyllgor sir Gaernarfon o Blaid Cymru am ysbaid, ond ni fu erioed ar flaen y gad, gan na fynnai ei weld na'i glywed ar goedd.

Priododd yn 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog, ond ni fu plant o'r briodas. Bu farw 4 Ionawr 1956, a chladdwyd ef ym mynwent Coetmor, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/