WILLIAMS, ELISEUS ('Eifion Wyn '; 1867 - 1926), bardd

Enw: Eliseus Williams
Ffugenw: Eifion Wyn
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1926
Priod: Ann Williams (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Herbert Parry-Williams

Pobl o Eifionydd oedd ei rieni ond ganwyd ef ym Mhorthmadog, 2 Mai 1867, a bu am y 30 mlynedd olaf o'i oes yn glerc a chyfrifydd mewn swyddfa masnachwyr llechi ('The North Wales Slate Co.') yn y dref honno. Bu'n athro ysgol am ychydig - yn Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac ym Mhentrefoelas. Tua'r flwyddyn 1889 dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ond gwrthododd alwadau i fugeilio eglwys. Yn 1907 priododd ag Ann Jones, Efail Bach, Abererch. Ysgrifennodd lawer yn y mesurau caeth a rhydd, yn awdlau, cywyddau, hir-a-thoddeidiau, ac englynion, ac yn delynegion, emynau, a cherddi dychan, ac enillodd amryw gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, a gwobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol, lle y bu hefyd yn beirniadu. Ei waith 'caeth' mwyaf adnabyddus yw awdl 'Y Bugail' (yr orau, ym marn un beirniad, 'Tafolog,' yng nghystadleuaeth y gadair yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1900) a'i lu englynion, amryw ohonynt yn fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol. Yn y mesurau rhyddion, ei delynegion ' Maes a Môr ' a'i gwnaeth yn enwog fel telynegwr. Fe gyhoeddodd Ieuenctid y Dydd, 1894; Awdl y Bugail, 1900?; Telynegion Maes a Môr, 1906; ac wedi ei farw fe gyhoeddwyd Caniadau'r Allt, 1927, ac O Drum i Draeth, 1929, dan olygiaeth Harri Edwards, Porthmadog. 'Eifion Wyn' oedd awdur y geiriau sydd mewn llyfr tonau i blant, Tlws y Plant, a gyhoeddwyd yn Llanwrtyd, 1906?. Yn 1919 derbyniodd radd anrhydeddus M.A. gan Brifysgol Cymru. Ei hoffterau oedd pysgota, gwleidyddiaeth (Rhyddfrydwr), a biliard. Bu farw 13 Hydref 1926, ym Mhorthmadog, a chladdwyd ef ym mynwent Chwilog, Eifionydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.