Mab ydoedd i Edward a Joanna Davies, ganwyd Mai 1830 yn y Dugoed Bach ym mhlwyf Mallwyd, ond pan oedd ef yn ifanc aeth ei deulu i fyw i Gwm Tafolog, ym mhlwyf Cemais, Sir Drefaldwyn. Cafodd ychydig fisoedd o ysgol, a bu'n gweithio yng Nghroesoswallt am ysbaid er mwyn dysgu Saesneg. Gartref ar ffarm ei dad y bu nes priodi yn 1865, a myned i fyw i'r Hirddol ger Penegoes. Bu farw ei wraig yn 1882. Ailbriododd yntau â Saesnes, ac aeth i fyw i'w chartref hi ger Worthen, Sir Amwythig.
Dechreuodd farddoni tua 1850, ac enillodd amryw wobrau mewn eisteddfodau lleol. Ysgrifennodd swm enfawr o farddoniaeth yn ystod ei oes, yn awdlau meithion ar destunau fel ' Tywyllwch,' ' Prydferthwch,' ' Rhagluniaeth,' ' Hunanaberth,' ' Awen,' a phryddestau ar ' Ymweliad y Doethion a Bethlehem,' ' Gwirionedd,' ' Tangnefedd,' ' Yr Iachawdwriaeth,' ' Tragwyddoldeb.' Nid oes odid ddim gwerth parhaol yn ei farddoniaeth, a'r hyn a welir ynddi yw'r agwedd bryddestol ac athronyddol ar y mudiad rhamantaidd. Y mae ei ysgrifau yn Y Geninen yn ddiddorol am y ceir ynddynt safbwynt dilynwyr ' Islwyn ' a'r 'Bardd Newydd.'
Bu farw 5 Chwefror 1904.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/