Ganwyd 18 Rhagfyr 1910 ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin, yr hynaf o dri phlentyn Lewis Thomas a'i wraig Mary Emiah (gynt Jones). Er ei chofrestru yn Emiah Jane, fel Amy y cafodd ei hadnabod ar hyd ei hoes. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Pontyberem, Ysgol Ramadeg y Merched, Llanelli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd yn 1932 gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Bu'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Hyfforddi y Barri cyn priodi yn Awst 1942 â'i Hathro yn Aberystwyth, T. H. Parry-Williams. Nid oedd plant o'r briodas.
Amlygodd ddawn gerddorol yn ifanc, a byddai hi, ei brawd Madoc a'i chwaer Mary, yn cystadlu'n gyson yn eisteddfodau Sir Gâr ac mewn eisteddfodau taleithiol a chenedlaethol. Enillodd wobrau am ganu a chanu penillion, crefft yr oedd ei thad wedi ei meistroli, ac ef a fyddai'n gosod iddi. Yn ystod ei chyfnod yn y Coleg perfformiodd yn gyson, a chafodd lwyddiant arbennig ym mhrif ran yr opera 'Rhosyn y Coleg'.
Yr oedd ganddi ddiddordeb byw yn nhraddodiad gwerin Cymru, a chofrestrodd am draethawd MA ar y cysylltiad rhwng geiriau ac alawon yn y traddodiad gwerin Cymreig: ceir ei nodiadau manwl ar gyfer y gwaith hwnnw (nas cwblhawyd) ymhlith ei phapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddodd ddwy ysgrif werthfawr ar eiriau caneuon gwerin Cymru. Bu'n recordio caneuon gwerin ar gyfer y 'Welsh Recorded Music Society' ddiwedd y 1940au, ac yr oedd y rhain ymhlith y caneuon Cymraeg cyntaf i gael sylw yng ngholofnau cylchgrawn y Gramophone. Perfformiodd raglenni o ganeuon gwerin yn Eisteddfod Llangollen ac yn nathliadau Cymry Llundain yn Neuadd Albert, a gwnaeth record o osodiadau cerdd dant dan y teitl Canu penillion (1958). Bu'n beirniadu lawer gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynorthwyodd ei gwr yn y gwaith o gyfieithu darnau cerddorol i'r Gymraeg, a bu'r ddau ar y cyd yn gyfrifol am lunio'r geiriau adnabyddus 'Beth yw'r haf i mi?' i alaw delyn Gymreig o'r ddeunawfed ganrif.
Cyhoeddwyd ei stori fer, 'Henrietta' yn y casgliad Ystorïau heddiw, a olygwyd gan T. H. Parry-Williams yn 1938, ac mae'n debyg iddo yntau ei hannog i barhau i ysgrifennu wedi iddynt briodi. Cyhoeddodd ffars, Ty ar y rhos (a luniwyd ar gyfer myfyrwyr y Barri) yn 1944, a'r casgliadau Deg o storïau (1950), Y plât piwtar a storïau eraill (1962), a Dyddiadur Jane Parry (1965). Nodweddir ei gwaith gan iaith lithrig a chymeriadu byw. Bu hefyd yn ddarlledwraig brysur, yn llunio ac yn canu caneuon i blant ar gyfer y gyfres radio 'Ar lin Mam', ac yn cyflwyno'r rhaglenni teledu 'Lloffa' a 'Canu'r bobol' yn ymwneud â'r traddodiad gwerin. Hi oedd un o gyfarwyddwyr cyntaf y cwmni teledu masnachol HTV.
Yr oedd yn wraig hardd, osgeiddig a phreifat a fu'n gefn mawr i'w phriod yn ei waith cyhoeddus ond a gafodd ei gyrfa lwyddiannus ei hun. Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, 28 Ionawr 1988, a chladdwyd ei llwch gyda llwch ei phriod ym Meddgelert.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-10-04
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.