Ganwyd ym Mhontyberem, Cwm Gwendraeth, Caerfyrddin, 30 Mai 1877, yr hynaf o naw bachgen William Thomas, glöwr, a Jane ei wraig. Bu'r mab yn y lofa am ychydig cyn cael ei brentisio'n grydd ac ennill ei le fel gwneuthurwr esgidiau a wneid yn lleol y pryd hwnnw.
Priododd yn 1905 Mary Emiah Jones, athrawes ym Mhontyberem, ond yn enedigol o Lan-non, Llanelli. Ganwyd iddynt fab a dwy ferch. Priododd ei ferch Amy â T. H. Parry-Williams, a phriododd ei ferch Mary â D. J. Llewelfryn Davies. Codasant dy a siop ynghlwm wrtho, a chadw siop y bu am flynyddoedd a hyfforddi ei brentisiaid o gryddion mewn gweithdy y tu cefn i'r siop. Yn ddiweddarach bu'n gasglwr trethi dros awdurdod Llanelli. Yr oedd ef a'i briod yn flaenllaw gyda gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol yn y pentre, ef yn eisteddfodwr brwd o'i ieuenctid ac yn cystadlu ar adrodd a chyfansoddi traethodau, emyn-donau, anthemau i blant, a chorawdau.
Fel rhai o'i frodyr ymddiddorai mewn cerddoriaeth, ac yr oedd organ fach neu harmoniwm yn y cartref. Enillodd dystysgrifau Coleg y Tonic Sol-ffa yn arholiadau'r mudiad a gynhelid yn festri capel Caersalem (A), lle'r oedd yn aelod. Tuag 1916-18 fe drodd ei ddiddordeb cerddorol at gerdd dant. Prynwyd telyn a chafodd wersi gan Delynores Elli, a meistroli'r delyn yn ddigon da i gyfeilio i'w blant lle gynt y defnyddiai'r piano. Bu llawer o gerddorion proffesiynol yn ceisio'i gymorth a'i gael yn fwy na pharod i gyfrannu o'i ddysg. Dechreuodd gystadlu fel ' gosodwr ', a bu ei gasgliadau o osodiadau'n fuddugol mewn mwy nag un Eisteddfod Genedlaethol - Caerffili, 1950, Aberystwyth, 1952, ac Ystradgynlais, 1954. Cyhoeddwyd yr olaf- Hwiangerddi gyda'r tannau - gan Gwmni Snell yn 1956. Cyfrannodd erthyglau a gosodiadau i Allwedd y tannau a'r Athro. Bu'n beirniadu'n gyson am flynyddoedd yn adran cerdd dant yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Wyl Gerdd Dant, ac Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. Am ei wasanaeth derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1930. Yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Cerdd Dant o'i chychwyn, darlithiai yn ei hysgol haf gyntaf, ac ef oedd yr ail i ddal ei llywyddiaeth. Gwnaed ef yn aelod anrhydeddus o'r gymdeithas.
Bu farw yn ysbyty Aberystwyth, 16 Mai 1955, a'i gladdu ym mynwent eglwys Llan-non, Llanelli.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.