Ganwyd Llewelfryn Davies ar 27 Mehefin 1903 yn Llanfihangel Rhos-y-Corn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Samuel Davies (ganwyd 1873), ffermwr, a'i wraig Mary (ganwyd Evans). Ef oedd yr hynaf o dri o blant; ganwyd ei chwaer Lizann Castle yn 1905 a'i frawd Samuel Hywel yn 1910. Ar ôl mynychu Ysgol Gwernogle ac Ysgol Coleg Dewi Sant dechreuodd Llewelfryn (fel y cyfeirid ato gan amlaf) astudio'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1921, gan raddio bedair blynedd yn ddiweddarach, yn unol ag arfer Aberystwyth ar gyfer gradd anrhydedd ar y pryd, gyda Dosbarth Cyntaf, camp y llwyddodd i'w hailadrodd pan aeth yn ei flaen i astudio yng Nghaergrawnt. Magodd ddiddordeb mewn Cyfraith Ryngwladol yno ac aeth ymlaen i weithio am flwyddyn ar Gyfraith Ysbail yn y Swyddfa Dramor cyn ennill Cymrodoriaeth y Gymanwlad i Brifysgol Columbia o 1927 i 1929.
Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd cynorthwyol am ddwy flynedd cyn cael ei benodi i swydd darlithydd yn Ysgol Economeg Llundain yn 1931 ac yna yn Ddarllenydd ym Mhrifysgol Birmingham yn 1936. Bu hefyd yn Athro Gwadd yn Academi Cyfraith Ryngwladol yr Hague yn 1937. Yn 1940 dychwelodd i Aberystwyth fel Athro'r Gyfraith a Phennaeth Adran, gan olynu ei gyn-athro T. A. Levi. Daliodd y swyddi hyn tan ei ymddeoliad yn 1970, gan wasanaethu am gyfnod fel Dirprwy-Brifathro'r coleg. Bu'n Llywydd ar Gymdeithas Athrawon Cyhoeddus y Gyfraith yn 1955-6, yn ddiacon yn ei gapel ac yn Gadeirydd Mainc yr Ynadon am sawl blwyddyn. Yn 1970 dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaeth i addysg y gyfraith.
Yn 1952 priododd Mary Thomas (1915-2013) o Bontyberem, merch Lewis Thomas, a chwaer Amy Parry-Williams. Ganwyd iddynt un ferch, Lynn, a dau fab, Huw a Tomos. Chwaraeodd Mary ran bwysig wrth feithrin naws yr adran yn ystod cyfnod ei gŵr wrth y llyw, naws agored a chefnogol ar gyfer y myfyrwyr a hefyd aelodau ifainc y staff a ddenwyd i gychwyn eu gyrfaoedd yn Aberystwyth. Aeth sawl un o'r ddau gategori ymlaen i gael gyrfa nodedig. Roedd Llewelfryn yn bennaeth poblogaidd ac annwyl, a thrwy ei weledigaeth eang denwyd myfyrwyr o nifer o wledydd y Gymanwlad i Aberystwyth. Dysgodd ystod eang o gyrsiau ar adegau pan oedd yr adran yn brin o staff, ac er bod ei ddiddordeb mewn Cyfraith Ryngwladol yn bwysig o ran ei gyhoeddiadau, datblygodd arbenigedd hefyd mewn Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol. Ymhlith ei erthyglau mewn cylchgronau roedd ei anerchiad cyhoeddedig fel Llywydd Cymdeithas Athrawon Cyhoeddus y Gyfraith lle datganodd ei gred mewn addysg brifysgol ryddfrydol, yn hytrach nag un broffesiynol gyfyng, ar gyfer cyfreithwyr. At hynny golygodd y Book of English Law gan Jenks yn 1953. Ond fe'i cofir yn bennaf am arwain adran a oedd am gyfnod bron yn gyfystyr â'i enw, ac am yr ysbryd hael, gofalus a chefnogol a greodd o'i mewn.
Bu Llewelfryn Davies farw yn Aberystwyth ar 6 Ebrill 1981 a chladdwyd ei lwch yng Nghapel Nonni, Llanllwni.
Dyddiad cyhoeddi: 2017-12-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.