LEWIS, TIMOTHY (1877 - 1958), ysgolhaig Cymraeg a Chelteg

Enw: Timothy Lewis
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1958
Priod: Nellie Myfanwy Lewis (née Evans)
Rhiant: Mary Lewis
Rhiant: Job Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg a Chelteg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Beynon Davies

Ganwyd 17 Chwefror 1877 mewn tŷ o'r enw Noble Court ger capel Nebo ym mhentref yr Efail-wen ym mhlwyf Cilymaenllwyd ar y ffin rhwng siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Ef oedd y bachgen hynaf a'r trydydd o saith plentyn Job a Mary Lewis. Gweithiai'r tad yn chwarel Llwyn'rebol yn yr ardal ond wedi i berchenogion y chwarel fethu talu i'r gweithwyr am chwech wythnos o waith yn 1880, penderfynodd ef fynd i'r maes glo a chafodd waith mewn glofa yng Nghwmaman, Aberdâr. Aeth y teulu yno ar ei ôl ymhen ychydig flynyddoedd ac ymaelodi gyda'r Annibynwyr yn eglwys Moriah Aman. Yr oedd yn deulu dawnus: daeth un mab, Edward, yn athro ysgol yng Nghwmaman, yn organydd ac yn arweinydd y 'Côr Mawr' lleol; graddiodd Daniel, mab arall, yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac aeth yn weinidog ar eglwysi yn ardal Clunderwen ond bu farw'n 34 oed; mab arall oedd Thomas John a raddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Bu'n athro ysgol yn Aberdâr, a chodwyd ef yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr addysg y dref honno. Mab iddo ef oedd Alun Lewis, y bardd.

Y mae'n dra thebyg i Timothy Lewis adael yr ysgol yn 13 oed, a bu'n gweithio dan ddaear nes ei fod yn 22 oed. Mae hefyd yn debyg iddo ddechrau pregethu erbyn hynny ac mai ar fynd yn weinidog yr oedd ei fryd. Yn 1899 derbyniwyd ef yn fyfyriwr ar brawf gan y Coleg Coffa, Aberhonddu. Dan nawdd hwnnw fe fu am ddwy flynedd yn cael rhag-hyfforddiant mewn academi ym Mhontypridd nes ymaelodi yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn hydref 1901. Graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1904, gan ennill y brif wobr i efrydydd mewn Celteg yn ei ail a'i drydedd flwyddyn. Yn dilyn hynny, am y flwyddyn 1904-05, fe fu'n dilyn cwrs darpar-weinidog yn y Coleg Coffa ond ni ddychwelodd i orffen ei gwrs yno, a hynny, mae'n debyg, am nad oedd cyfle na chefnogaeth iddo yno i barhau â'i astudiaethau Cymraeg.

Yn 1905 enillodd ysgoloriaeth gwerth £120 y flwyddyn ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion, lle bu am ddwy flynedd yn gwneud gwaith ymchwil dan yr Athro John Strachan. Cafodd ysgoloriaeth wedyn i fynd am gyfnodau at yr Athro H. Zimmer ym Mhrifysgol Berlin ac am gyfnodau pellach yn 1908-09 at Rudolf Thurneysen yn Freiburg. Gan i Strachan farw ym mis Medi 1907 galwyd ar Timothy Lewis yn ôl o Berlin i baratoi llyfr Strachan - An introduction to early Welsh - ar gyfer ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Manceinion. Yn yr anghydfod a'r cyfreithio a fu rhwng ysgutorion Strachan a J. Gwenogvryn Evans ynglŷn â defnyddio, yn y llyfr, destunau Cymraeg Canol yr oedd gan Gwenogvryn hawlfraint arnynt, rhoddodd Timothy Lewis dystiolaeth ar ffeithiau'r achos o'i blaid, a chychwynnodd hynny gyfeillgarwch cynnes ac agos iawn rhwng y myfyriwr ifanc ac yntau. Erbyn Awst 1908 yr oedd yr argoelion am y dyfodol yn dywyll, - ei ysgoloriaeth a'i gynilion ar ben - ond llwyddodd Evans a dau gyfaill 'dienw' i godi digon o arian i'w alluogi i gael semester arall gyda Thurneysen yn Freiburg. Ni fyddai bellach, meddai, am fynd yn ôl i baratoi bod yn weinidog, er iddo fod yn pregethu mewn eglwysi heb weinidog yn ystod yr ysbeidiau pan na fyddai allan o Gymru a chadwodd at yr arfer hwn hyd ei flynyddoedd olaf. Bu hefyd yn ddiacon yn eglwys yr Annibynwyr yn Baker Street, Aberystwyth o 1914 nes ymddeol yn 1929.

Er yr hoffai fod wedi cael swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu yn Aberstwyth, daeth agoriad arall iddo pan benodwyd ef yn Ionawr 1910 yn ddarlithydd cynorthwyol yn y Gymraeg o dan Syr Edward Anwyl yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Wedi marw Syr Edward yn 1914, cydweithiodd â T. Gwynn Jones a T. H. Parry-Williams . Rhoddasid iddo radd M.A. gan Brifysgol Victoria, Manceinion, yn 1909 am ei waith ar Gymraeg Cyfraith Hywel Dda, ac ym mis Medi 1911 priododd â Nellie Myfanwy (1885 - 1968), merch ieuangaf Beriah Gwynfe Evans, a bu iddynt ddau o blant, mab a merch.

Yn niwedd 1915 ymunodd â'r Fyddin, galwyd ef i'r Royal Artillery yn 1916, a bu yn y brwydro ger y Somme ac Ypres yn 1917 ac 1918. Torrodd asgwrn yn ei fraich ar ryw gyrch, a'i gael ei hun ar dro yng nghyffiniau'r ganolfan dysg enwog gynt yn Peronne; cafodd ei ben yn rhydd yn gynnar yn 1919. Bu'r flwyddyn nesaf yn flwyddyn anodd iddo. Gobeithiai gael ei ddewis i'r Gadair Gymraeg yng ngholeg Aberstwyth, ond yn haf 1920 T. H. Parry-Williams a ddewiswyd, a bu hyn yn gryn siom i'r gŵr a oedd newydd ddychwelyd o'r drin. Eithr dyrchafwyd yntau yn ei dro i swydd newydd sbon sef darllenydd mewn Palaeograffeg Celteg, a dyna fu ei safle wedyn hyd ei ymddeol yn drigain a phump yn 1943. Gobeithiai yn 1924 y penodid ef i'r Gadair Geltaidd yn Rhydychen ond John Fraser (1882 - 1945) a ddewiswyd; yna wedi marw Fraser hoffai gael ei benodi i sicrhau 'llwyfan' am ryw bum mlynedd i gyhoeddi ei ddamcaniaethau gan nad oedd Prifysgol Cymru yn fodlon eu harddel, ond yr oedd dros yr oedran ymddeol erbyn hynny. Wedi ymddeol daliai i weithio ar lenyddiaeth Gymraeg gynnar - ei hoff faes - gan ddarllen a chasglu'n helaeth o lyfrau a thestunau diarffordd, yn arbennig yng ngwaith ysgolheigion ar y Cyfandir. Cynlluniodd Cyfres Hywel Dda yn ddeg o gyfrolau ond dim ond dwy a gyhoeddwyd (gan yr awdur ei hun) sef Beirdd a bardd-rin Cymru Fu (1929) a Mabinogi Cymru (1931).

Yr oedd ei waith cynnar ar eirfa'r Cyfreithiau yn gymeradwy iawn, ond wedi cael troedle yn y Brifysgol dechreuodd fynd ei ffordd ei hun, yn enwedig wedi'r siom o beidio â chael ei benodi i'r gadair Gymraeg. Yr hyn a wnâi ei olygwedd yn llawer o'i waith yn annerbyniol gan ysgolheigion Cymraeg Prifysgol Cymru oedd na fodlonai ar geisio dyfalu tarddiad damcaniaethol ieithegol geiriau yn nhraddodiad John Rhŷs a J. Morris-Jones; ei ddewis ef oedd edrych yn yr iaith ei hun neu mewn ieithoedd cytras neu gyfagos am eiriau y gellid bod wedi eu benthyca i'r Gymraeg. Dwy thema ganolog ganddo oedd nad hen dduwiau'r Celtiaid oedd cymeriadau chwedlau'r Mabinogion ond mai hanesion oedd ynddynt am yr anrheithio a fu ar arfordir Cymru yn y nawfed a'r ddegfed ganrif gan y Sgandinafiaid; yna mai hanesion am y Normaniaid yn ymsefydlu yng Ngwent a Morgannwg oedd llawer o'r chwedlau am Arthur a'r Coraniaid. Yn ei gyfrol Beirdd a bardd-rin Cymru Fu ceisiodd ddangos fod dadansoddiad J. Morris-Jones ar y gyfundrefn farddol yn Cerdd dafod yn gyfan gwbl gamarweiniol gan mai yn Saesneg a Lladin Canol y mae cael hyd i batrymau llawer o fesurau a thermau cerdd dafod Gymraeg. Gwawdiwyd ei ddamcaniaethau gan rai ysgolheigion ac anwybyddwyd hwy yn llwyr gan eraill. Eithr ysgrifennai llawer o bobl ato i ddangos eu bod yn falch iddo 'achub cam' Iolo Morganwg a'r Orsedd ac nad oedd arno gywilydd nac ofn anghytuno â J. Morris-Jones a W. J. Gruffydd. Gohebai'n gyson â llawer o gyfeillion ym myd ysgolheictod ac yn arbennig â Gwenogvryn Evans. Daeth y ddau deulu'n gyfeillion mynwesol yn y 1920au ac âi Timothy Lewis a'r teulu am wyliau droeon at Gwenogvryn a'i briod.

Yr oedd ef ei hun yn ddyn anarferol o hoffus annwyl; gwelir hynny yn y ffaith yr ysgrifennai at ei chwaer a'i dad oedrannus yn y cartref yng Nghwmaman o leiaf unwaith yr wythnos am flynyddoedd. Gallai ysgrifennu'n ddiddorol a swynol ar lawer o bynciau a dywedodd ei fam-yng-nghyfraith mewn llythyr ato y gallai fod wedi gwneud newyddiadurwr campus. Bu farw 30 Rhagfyr 1958 a chladdwyd ef ym mynwent Nebo yn ei hen ardal yn yr Efail Wen.

Cyhoeddodd: A glossary of mediaeval Welsh law (1913); A Welsh leech book (1914); Beirdd a bardd-rin Cymru Fu (1929); Mabinogi Cymru (1931), ynghyd â nifer o erthyglau yng nghyfres Aberystwyth Studies, a chylchgronau fel Wales, Y Wawr, Y Tyst, Y Ford Gron ac eraill. Dosbarthodd hefyd astudiaethau o dan y teitl Aberystwyth Revisions mewn teipysgrifau dyblygedig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.