Ganwyd 12 Chwefror 1848, mab y Parch. Evan Evans, Nant y Glo, sir Fynwy - enw morwynol ei fam oedd Mary Valentine. Bu yn Ysgol Frutanaidd Beaufort ac aeth yn athro ysgol. Bu'n athro yn ysgolion Gwynfe a Llangadog, Sir Gaerfyrddin; yn ystod ei gyfnod yng Ngwynfe sefydlodd y cylchgrawn Cyfaill yr Aelwyd , 1880, ac fel golygydd y cylchgrawn hwnnw y daeth yn adnabyddus gyntaf i Gymru. Yr oedd yn arfer cystadlu yn yr eisteddfodau yn y cyfnod hwn; yn 1879, yn eisteddfod Llanberis, gwobrwywyd ei ddrama, 'Owain Glyndŵr,' ac o hynny ymlaen bu ef yn un o arloeswyr mudiad y ddrama yng Nghymru. Gadawodd yr ysgolion yn 1887 ac ymunodd â staff y South Wales Daily News yng Nghaerdydd; bu'n golygu adran Gymraeg y Cardiff Times and South Wales Weekly News . Yn 1892, ar wahoddiad cwmni'r Genedl Gymreig , cwmni yr oedd D. Lloyd George yn meddu diddordeb ynddo, aeth i Gaernarfon fel rheolwr a phrif olygydd y cwmni a'i wahanol bapurau. Yn fuan iawn gwnaeth ei ôl fel newyddiadurwr gwleidyddol ar yr ochr Ryddfrydol, ond gadawodd gwmni'r Genedl yn 1895, ac o hynny ymlaen bu'n ohebydd i'r Liverpool Mercury ac i lawer o bapurau eraill, gan barhau i fyw yng Nghaernarfon. Yn 1917 penodwyd ef yn olygydd Y Tyst , papur wythnosol yr Annibynwyr. Bu ganddo ran amlwg gyda mudiad 'Cymru Fydd,' a phenodwyd ef yn ysgrifennydd y mudiad yn 1895. Bu'n eisteddfodwr ar hyd ei oes, ac wedi marw 'Eifionydd' yn 1922 dewiswyd Beriah yn olynydd iddo fel Cofiadur yr Orsedd. Yr oedd yn awdur amryw lyfrau, yn eu plith Dafydd Dafis, 1898; Diwygwyr Cymru, 1900; The Life Romance of Lloyd George (d.d.); Rhamant Bywyd Lloyd George (Utica, U.D.A., 1916) (bu argraffiad yn Ffrangeg o'r llyfr hefyd, La Vie roman de Lloyd George); ac Owain Glyndŵr , 1911 - y ddrama hon (drama Llanberis wedi ei hail ysgrifennu, mewn rhyddiaith) a actiwyd ynglŷn â dathliadau arwisgiad tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911. Ei ddrama Caradog, a actiwyd ynglŷn ag eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1906, oedd y ddrama gyntaf i gael lle mewn cysylltiad â'r eisteddfod. Yr oedd yn flaenllaw yn y mudiad (1885) i arfer a dysgu Cymraeg yn yr ysgolion; ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Priododd, 18 Gorffennaf 1871, Anne merch Michael Thomas, y Neuadd, Gwynfe. Bu farw 4 Tachwedd 1927.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.