LLOYD GEORGE, DAVID (1863 - 1945), yr IARLL LLOYD-GEORGE o DDWYFOR cyntaf, gwleidydd

Enw: David Lloyd George
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1945
Priod: Frances Louise Lloyd George (née Stevenson)
Priod: Margaret Lloyd George (née Owen)
Plentyn: Megan Arfon Lloyd George
Plentyn: Olwen Elizabeth Carey Evans (née Lloyd George)
Plentyn: Mair Eluned Lloyd George
Plentyn: Gwilym Lloyd George
Plentyn: Richard Lloyd George
Rhiant: Elisabeth George (née Lloyd)
Rhiant: William George
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd No. 5, New York Place, Manceinion, 17 Ionawr 1863, yn fab i William George, Tre-coed, Sir Benfro, ac Elizabeth, merch David Lloyd o Lanystumdwy. Ar ôl marw'i dad yn sir Benfro yn 1864, symudodd ei fam a'r plant i fyw gyda'i brawd, Richard Lloyd yn Llanystumdwy. Addysgwyd Lloyd George yn ysgol genedlaethol Llanystumdwy. Bu'n llwyddiannus yn arholiad cyntaf y Gyfraith yn 1877, ac yn yr arholiad terfynol gydag anrhydedd yn 1884. Cychwynnodd ar ei yrfa fel cyfreithiwr yng Nghricieth yn 1885, ac enillodd fri fel dadleuwr eofn a siaradwr huawdl. Daeth i'r amlwg yn 1888 fel cyfreithiwr yn amddiffyn yn yr achos a elwid ' The Llanfrothen Burial Case ', achos a enillodd, wedi apel. Ym mis Tachwedd 1888, mabwysiadwyd ef yn ddarpar ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol dros fwrdeistrefi Caernarfon. Ar farwolaeth Edmund Swetenham, yr aelod Torïaidd, ymladdodd Lloyd George yr etholiad ac ennill y sedd gyda mwyafrif o 18, 10 Ebrill 1890. Cymerodd ei le yn Nhyr Cyffredin ar 17 Ebrill, a thraddododd ei araith gyntaf ar 13 Mehefin Yn ystod ei dymor cyntaf yn y senedd, materion Cymreig, megis datgysylltiad a phwnc y tir, a'i diddorai'n bennaf, ac yn 1894 ef oedd arweinydd y pedwar aelod Cymreig (LL.G. ei hun, D. A. Thomas, J. Herbert Lewis a Francis Edwards) a wrthwynebodd weinyddiaeth Rosebery oherwydd ei hagwedd tuag at broblem datgysylltiad yng Nghymru. Yn yr un cyfnod, yng Nghymru ei hun, yr oedd yn gweithio dros fudiad Cymru Fydd a thros uno'r ddau Ffederasiwn Rhyddfrydol.

Yn y senedd ac ar hyd a lled y wlad gwrthwynebodd a beirniadodd y modd yr ymleddid Rhyfel De Affrica (1899-1902). Pan geisiodd annerch cyfarfod Rhyddfrydol yn Birmingham ym mis Rhagfyr 1901, bygythiwyd ef gan y dorf, a bu mewn perygl am ei einioes. Bu am gyfnod yn amhoblogaidd iawn, ond yn etholiad 1900 cadwodd ei sedd gyda chynnydd yn ei fwyafrif. Pan ddaeth Mesur Addysg Balfour ger bron yn 1902, Lloyd George oedd arweinydd y gwrthwynebiad Radicalaidd ac Anghydffurfiol i'r mesur, ac yng Nghymru bu'n gyfrifol am gynllun i'r cynghorau sir wrthod gweithredu'n unol a'r ddeddf.

Yn Rhagfyr 1905 pan ffurfiwyd gweinyddiaeth Ryddfrydol, penodwyd ef yn llywydd y Bwrdd Trafnidiaeth, a rhoddwyd iddo sedd yn y Cabinet. Dangosodd allu gweinyddol eithriadol, talent adeiladol, a dawn arbennig fel cyfaddawdwr pan godai anghydfod diwydiannol. Ym misoedd Hydref a Thachwedd 1907, llwyddodd yn ei ymdrechion i osgoi streic ar y rheilffyrdd. Yn ystod ei gyfnod fel pennaeth y Bwrdd Trafnidiaeth, bu'n gyfrifol am nifer o ddeddfau pwysig, yn eu plith y Merchant Shipping Act, 1906, Patents and Designs (Amendment) Act, 1907, a'r Port of London Act, 1908.

Ym mis Ebrill 1908, pan benodwyd H. H. Asquith yn Brif Weinidog, cymerodd Lloyd George ei le fel Canghellor y Trysorlys, ac ef a fu'n gyfrifol am gael Mesur Pensiynau'r Henoed drwy Dy'r Cyffredin, tasg a ddechreuasid gan Asquith ei hun. Yn 1909 cyflwynodd ei gyllideb gyntaf, a luniwyd gyda'r amcan o godi arian i hyrwyddo gwelliannau cymdeithasol. Disgrifiwyd hon fel cyllideb fwyaf dadleuol ein cyfnod. Gwrthodwyd hi gan Dy'r Arglwyddi, ac fel canlyniad cafwyd Deddf Senedd 1911. Ym mis Awst 1910, ceisiodd Lloyd George gael undeb rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr, ond ofer fu'r ymgais. Ar 4 Mai 1911 cyflwynodd ei fesur Yswiriant Cenedlaethol, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer afiechyd a diweithdra, mesur a dderbyniodd gadarnhad brenhinol ym mis Rhagfyr.

Yng nghyllideb 1911 gwnaed darpariaeth ar gyfer talu cyflog i aelodau seneddol. Mewn araith yn y Mansion House ar 21 Gorffennaf 1911, rhybuddiodd Lloyd George yr Almaen, na oddefai Prydain unrhyw ymosodiad yn Moroco. Fel canlyniad i'r araith hon, galwodd y Kaiser am ei ddiswyddiad. Ar 29 Mehefin 1912, cychwynnodd ei ymgyrch ynglyn â phwnc y tir, a sefydlwyd pwyllgor ymchwil. Yn yr un flwyddyn, penodwyd pwyllgor arbennig o aelodau Ty'r Cyffredin i archwilio cyhuddiadau yn erbyn rhai o'r gweinidogion, yn eu plith Lloyd George, ynglyn â'u cysylltiadau â'r American Marconi Company.

Pan gyhoeddwyd rhyfel yn erbyn yr Almaen ym mis Awst 1914, syrthiodd i ran Lloyd George, fel Canghellor y Trysorlys, i reoli sefyllfa ariannol y wlad, a hynny mewn amgylchiadau anodd. Ym mis Mai 1915, pan ffurfiwyd y llywodraeth unedig gyntaf, penodwyd ef yn Weinidog Arfau, ac ef a ddilynodd yr Arglwydd Kitchener fel Ysgrifennydd Rhyfel, pan fu farw'r gwr hwnnw ym mis Mehefin 1916. Ym mis Rhagfyr 1916, ymddiswyddodd Asquith, a dilynwyd ef fel Prif Weinidog gan Lloyd George. Un o'r pethau pwysicaf a gyflawnodd yn y swydd hon yn ystod y rhyfel oedd creu unoliaeth ymhlith arweinwyr lluoedd arfog y cynghreiriaid. Wedi'r cadoediad yn 1918, penderfynodd ar etholiad, ac fel canlyniad cafwyd llywodraeth unedig tan ei arweiniad gyda mwyafrif o 345 dros yr holl bleidiau eraill. Pan agorwyd y Gynhadledd Heddwch ar 18 Ionawr 1919, yr oedd Lloyd George yn un o'r tri gwr mwyaf blaenllaw yno. Ar ôl trafodaeth hir, llwyddodd i gael y Cytundeb Gwyddelig wedi ei arwyddo ym mis Rhagfyr 1921. Ym mis Hydref 1922 ymddiswyddodd yr aelodau Ceidwadol o'r llywodraeth. Fel canlyniad i hyn yr oedd yn amhosibl i'r llywodraeth unedig barhau, ac ymddiswyddodd Lloyd George. Er iddo ymdroi ym myd gwleidyddiaeth am rai blynyddoedd eto, ni ddaliodd unrhyw swydd ar ôl hyn. Yn 1926 cychwynnodd yr Ymchwiliad Diwydiannol Rhyddfrydol. Mewn araith ym Mangor, ym mis Ionawr 1934, rhoddodd amlinelliad o'i gynllun i ail adeiladu ein ffyniant cenedlaethol, sef polisi'r ' New Deal ', a oedd i'w weithredu drwy'r pwyllgor a elwid ' The Council of Action '.

Rhwng 1933 a 1936 ysgrifennodd ei War Memoirs, ac yn 1938 cyhoeddodd The Truth about the Peace Treaties. Ymwelodd â'r Almaen yn Awst 1936, a chyfarfod â Hitler. Ni chymerodd unrhyw ran yn y gorchwyl o gyfarwyddo'r Ail Rhyfel Byd, ond parhaodd i fod yn aelod o Dy'r Cyffredin hyd Ionawr 1945, pan ymddeolodd a'i wneud yn iarll, gyda'r teitlau Iarll Lloyd George o Ddwyfor, ac Is-Iarll Gwynedd. Dychwelasai i'w gartref, Ty Newydd, yn Llanystumdwy, yn 1944, a bu farw yno 26 Mawrth 1945. Claddwyd ef, yn ôl ei ddymuniad, ar y llechwedd coediog uwchlaw afon Dwyfor, ger ei gartref.

Priodasai 24 Ionawr 1888, Margaret Owen, merch Richard Owen, Mynydd Ednyfed, Cricieth. Bu iddynt bump o blant, Richard (a'i dilynodd fel iarll) 1889 -; Mair Eluned (1890 - 1907); Olwen Elizabeth, 1892 -; Gwilym, (Arglwydd Tenby), 1894 - 1967; Megan, 1902 - 1966. Gwnaethpwyd ei wraig yn Dame Grand Cross of the British Empire yn 1918. Bu hi farw 20 Ionawr 1941. Priododd Lloyd George yn ail, 23 Hydref 1943, Frances Louise, merch John Stevenson o Wallington, Surrey.

Anrhydeddwyd ef â'r Order of Merit yn 1919, a'r Legion of Honour yn 1920. Ef oedd cwnstabl castell Caernarfon o 1908. Cafodd raddau anrhydeddus LL.D. (Cymru), 1908; D.C.L. (Rhydychen); LL.D. (Caeredin), 1918; LL.D. (Sheffield), 1919; a LL.D. (Birmingham), 1921, a gwnaed ef yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Iesu, Rhydychen, 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.