Ganwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, 12 Gorffennaf 1834, unig fab Dafydd a Rebecca Llwyd. Yr oedd ei dad yn grydd ac yn fugail ar eglwys Disgyblion Crist ym Mhen-y-maes, Cricieth. Wedi bod am ychydig mewn ysgol yn Llanystumdwy prentisiwyd Richard Lloyd yn grydd gyda'i dad, a dilynodd ei dad yn y busnes ac hefyd yn y fugeiliaeth. Ordeiniwyd ef a William Williams ym mis Ebrill 1859. Yn y flwyddyn honno priododd ei chwaer Elizabeth â William George, ysgolfeistr; bu hwnnw farw yn 1864 a chymerodd Richard Lloyd hi a'i phlant i'w dŷ i ofalu amdanynt a chysegrodd ei fywyd i'r ddyletswydd hon. Un o'r ddau fachgen hyn oedd David Lloyd George (y prif weinidog); arolygodd Richard Lloyd eu haddysg, gofalodd amdanynt ym mhob modd, a bu'n gefn ac yn gynghorydd doeth i Lloyd George ar ôl iddo fyned i'r Senedd, ac ar hyd ei oes addefai Lloyd George ei ddirfawr ddyled i'w ewythr. Wedi i'r ddau nai basio'n gyfreithwyr ac iddo yntau roddi'r gorau i'w waith fel crydd, cynorthwyodd lawer arnynt yn eu swyddfa. Yr oedd yn ŵr eithriadol o ran gallu meddwl a chymeriad. Ni bu yn briod. Bu farw 28 Chwefror 1917, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cricieth, 3 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.