LEWIS, Syr JOHN HERBERT (1858 - 1933), cyfreithiwr a gwleidyddwr

Enw: John Herbert Lewis
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1933
Priod: Ruth Lewis (née Caine)
Priod: Adelaide Lewis (née Hughes)
Plentyn: Kitty Idwal Jones (née Lewis)
Plentyn: Mostyn Lewis
Rhiant: Catherine Lewis (née Roberts)
Rhiant: Enoch Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Idwal Jones

Ganwyd 27 Rhagfyr 1858 yn Mostyn Quay, Sir y Fflint, unig fab Enoch Lewis, gor-nai Thomas Jones, Dinbych, a'i wraig Catherine Roberts, Plas Llangwyfan, sir Ddinbych. Cafodd ei addysg yn Ninbych, Montreal (Prifysgol McGill), a Rhydychen (graddiodd o Goleg Exeter, 1879).

Herbert Lewis oedd cadeirydd cyntaf cyngor sir y Fflint (1889); yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr y cynllun addysg ganolraddol i Gymru. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Fflint, 1892-1906); dros y sir, 1906-18; a thros Brifysgol Cymru, 1918-22 - sedd newydd a gafwyd i Gymru trwy ei ymdrechion ef. Parodd ei ddyfalbarhad a'i egni i'r Llywodraeth benderfynu y câi Cymru grantiau er mwyn iddi gael ei hamgueddfa genedlaethol a'i llyfrgell genedlaethol ei hun. Daeth Herbert Lewis yn islywydd cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol (yn 1909) ac yn llywydd (yn 1926); efe, hefyd, a weithiodd fwyaf i sicrhau bod y Llyfrgell Genedlaethol newydd yn cael manteisio dan Ddeddf Hawlysgrif 1911. Gwnaethpwyd ef yn ' Chwip ' y Blaid Ryddfrydol yn 1905; yn 1909 daeth yn ysgrifennydd seneddol y Bwrdd Llywodraeth Leol; yn 1915 dewiswyd ef yn ysgrifennydd seneddol y Bwrdd Addysg. Bu iddo ran flaenllaw yn y gwaith o gael Mesur Addysg 1918 trwy'r Senedd; bu a fynnai hefyd lawer â'r ' Teachers' Superannuation Act ' ac â chael grantiau addysgol i rai a fu yn y lluoedd arfog.

Priododd Syr Herbert Lewis (fe'i gwnaethpwyd yn G.B.E. yn 1922) ddwywaith: (1) 1886, Adelaide (bu farw 1895), merch Charles Hughes, cyhoeddwr, Wrecsam; a (2) 1897, Ruth, merch W. S. Caine, A.S.; bu iddo fab a merch o'r ail briodas. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1912, yn gwnstabl castell Fflint, yn LL.D. ('er anrhydedd') Prifysgol Cymru (1918) ac yn un o'r Cymry a gafodd fathodyn aur Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1927). Cyfarfu â damwain yn Aberystwyth yn 1925, a bu'n orweiddiog yn ei gartref, Penucha, Caerwys, Sir y Fflint, hyd ei farw ar 10 Tachwedd 1933.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.