LEWIS, y Fonesig RUTH (1871 - 1946), un o arloeswyr cofnodi alawon gwerin Cymru, cefnogydd mudiadau addysgol, crefyddol, dirwestol a dyngarol

Enw: Ruth Lewis
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1946
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: un o arloeswyr cofnodi alawon gwerin Cymru, cefnogydd mudiadau addysgol, crefyddol, dirwestol a dyngarol
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Dyngarwch; Barddoniaeth; Crefydd
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 29 Tachwedd 1871, yn 16 Alexandra Drive, Lerpwl, yn drydedd plentyn William Sproston Caine (DNB, 1901-50), a'i wraig Alice, merch Hugh Stowell Brown, gweinidog eglwys (B) Myrtle Street, Lerpwl. Wedi ethol ei thad yn A.S. dros Scarborough yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn Llundain, ac yn ysgol uwchradd y merched yn Clapham y cafodd ei haddysg gynnar nes ymaelodi yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Cwplaodd gwrs gradd yno ond gan na chaniatéid rhoi gradd i ferch yn y brifysgol honno y pryd hynny derbyniodd radd M.A. Prifysgol Dulyn. Wedi graddio treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn y Caine Mission Hall yn Vauxhall, gan ymddiddori mewn dirwest a gwaith gyda merched ieuainc. Priododd â John Herbert Lewis yn Clapham yn 1897. Thomas Gee a weinyddai yn y briodas. Ymsefydlodd y ddau ym mhlas Penucha, Caerwys, a chadw tŷ hefyd yn 23 Grosvenor Road, Llundain. Yn 1898 ganwyd eu merch, Kitty, a'u mab, Mostyn, yn 1901. Dysgodd y fam Gymraeg yn drwyadl, a chodwyd y plant yn Gymry rhugl. Yr oedd y teulu'n addoli'n gyson mewn capeli Cymraeg yng Nghaerwys ac yn Llundain. Uniaethodd Ruth Lewis ei hun â'r bywyd Cymreig, ymfwriodd i wasanaeth cyhoeddus a chymryd diddordeb ymarferol yng ngwaith ei gŵr. Meddai ar ddawn areithio a bu'n gefn i lawer mudiad. Bu galw cyson arni i annerch cyfarfodydd, yn arbennig yn y mudiad dirwestol o dan aden Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Bu'n hael ei chroeso a'i chymorth i ferched a ddeuai i weithio yn Llundain yn ei chartref ac yng nghapel (MC) Charing Cross.

Yn ystod Rhyfel Byd I yr oedd ganddi gantîn i filwyr ym mwrdeistref Westminster. Hwn oedd y cantîn cyntaf i'w gadw ar agor drwy'r nos at alwad y milwyr a gyrhaeddai orsaf Victoria. Am y gwasanaeth hwn anrhydeddwyd hi â'r O.B.E. Penodwyd hi'n ynad heddwch yn y fwrdeistref - y wraig gyntaf i'w rhoi ar gomisiwn heddwch sir y Fflint, ac eisteddai'n gyson ar fainc Caerwys.

Yr oedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth ac yr oedd ymhlith aelodau cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a sefydlwyd yn 1906. Trwy gyfrwng y ffonograff llwyddodd hi gyda Dr. Mary Davies a Grace Gwyneddon Davies i achub llawer alaw a oedd ar fin diflannu ar wefusau'r werin yn nechrau'r 20fed ganrif. Cyfrannodd lawer i gylchgrawn y gymdeithas. Hi oedd yn gyfrifol am ddiwygio rheolau'r gymdeithas yn 1927, ac yn 1930 fe'i hetholwyd yn llywydd. Cyhoeddodd, ar ei thraul ei hun, gasgliad o alawon gwerin Sir y Fflint. Etholwyd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd. Bu'n weithgar yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y gogledd ac yn Llundain. Yn 1923 cyflwynwyd anerchiad goreuredig iddi hi a'i gŵr i gydnabod eu cyfraniad nodedig i wahanol weithgareddau'r corff. Yn yr un flwyddyn treuliodd y ddau naw mis ar y maes cenhadol yn Lushai, lle'r oedd eu merch yn genhades.

Ar ôl marw ei gŵr yn 1933 etholwyd hi'n aelod o gyngor sir y Fflint dros ranbarth Ysgeifiog a Chaerwys. Gweithredodd hefyd ar bwyllgor addysg y sir. Yr oedd hefyd yn aelod o lysoedd colegau Prifysgol Cymru ym Mangor ac Aberystwyth ac o lysoedd a chynghorau'r Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd ei diddordeb yn fawr yn llyfrgell sir y Fflint ac yn Sefydliad y Merched. Bu'n llywydd y sefydliad hwnnw a'r gymdeithas nyrsio yng Nghaerwys. Bu farw 26 Awst 1946, a chladdwyd hi ym mynwent y Ddôl ar Awst 29.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.