DAVIES, GRACE GWYNEDDON (1878 - 1944), cantores a chasglydd alawon gwerin

Enw: Grace Gwyneddon Davies
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1944
Priod: Robert Gwyneddon Davies
Rhiant: Lewis Roberts
Rhiant: Anne Roberts (née Williams)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: cantores a chasglydd alawon gwerin
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Hanes a Diwylliant
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd Grace Elizabeth Roberts ar 26 Tachwedd 1878 yn 'Larkfield', Anfield, Lerpwl, yn ferch hynaf i Lewis Roberts, masnachwr coed, a'i wraig Anne (Annie, g. Williams). Ganwyd ei thad yn Lerpwl ond roedd ei wreiddiau yn sir Fôn, a ganwyd ei mam yn Llannerch-y-medd. Dangosodd Grace ddawn gerddorol yn ifanc. Bu'n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, gan ennill tystysgrif LRAM am ganu'r piano, a chael pum mlynedd o hyfforddiant lleisiol gan y bariton enwog Charles Santley. Wedi blwyddyn ym Mharis yn derbyn hyfforddiant lleisiol pellach, bu'n astudio yn yr Eidal. Dechreuodd ar yrfa cantores broffesiynol, gan ymddangos yn unawdydd mewn cyngerdd Celtaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1906.

Yn yr Eisteddfod honno cyfarfu â Robert Gwyneddon Davies (1870-1928), mab John Davies, 'Gwyneddon'. Roedd Robert yn gyfreithiwr a fu'n aelod o'r Cyngor Sir ac o Gyngor Tref Caernarfon, yn gadeirydd pwyllgor addysg y Cyngor Sir, yn aelod o lys llywodraethwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, yn ynad heddwch ac yn Uchel Siryf. Gwasanaethodd hefyd yn faer Caernarfon yn 1908. Yn 1897 cyhoeddasai The Visions of the Sleeping Bard, sef ei gyfieithiad o waith Ellis Wynne, Gweledigaetheu y Bardd Cwsc ; ail-gyhoeddwyd y cyfieithiad mewn argraffiad poblogaidd yn 1909. Byddai hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd i'r Genedl Gymreig a'r North Wales Observer. Priodwyd y ddau yng nghapel Charing Cross, Llundain (lle buasai Grace yn aelod pan fu'n byw yn Llundain) ar 14 Ebrill 1909. Oherwydd amlygrwydd y priodfab fel cyn-faer y dref, gwisgwyd Caernarfon â baneri i ddathlu'r achlysur.

Ymgartrefodd Grace a Robert yn Graianfryn, plasty rhwng Glanrhyd a Llanwnda ar y ffordd o Gaernarfon i Bwllheli. Er i Grace gefnu ar ei gyrfa fel cantores broffesiynol yn dilyn ei phriodas, daeth Graianfryn yn ganolfan ddiwylliannol i'r ardal, a chynhelid nosweithiau cerddorol yno'n rheolaidd. Atyniad pellach oedd yr ardd nodedig. Yr oedd Lloyd George a gwleidyddion amlwg eraill yn ymwelwyr cyson â Graianfryn.

Cymerodd Grace a'i gŵr ddiddordeb mawr yn alawon gwerin Cymru, ac roedd hithau'n un o'r unawdwyr yng nghyfarfod sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1906. Etholwyd hi a Robert yn aelodau o Gyngor y Gymdeithas pan sefydlwyd ef ym Mawrth 1909, ac yn aelodau o'r pwyllgor gwaith cyntaf. Tyfodd Grace yn un o'r casglyddion amlwg, ochr yn ochr â Mary Davies a Ruth Herbert Lewis. Byddai Robert yn darlithio ar y caneuon a Grace yn eu canu, ac yn 1923 aethant i'r Unol Daleithiau a Chanada i gyflwyno caneuon gwerin i gymdeithasau Cymreig yno. Bu Grace yn casglu caneuon yn sir Fôn, lle'r oedd gwreiddiau ei theulu, a chyhoeddodd dri chasgliad gwerthfawr: Alawon Gwerin Môn (1914), Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn (1923), a Chwech o Alawon Gwerin Cymreig (1933). Ar gyfer y ddwy gyfrol o alawon gwerin Môn dibynnodd yn helaeth ar ganu Owen Parry, Dwyran, a recordio'i lais ar ffonograff. Er iddi lunio ei chyfeiliannau ei hun ar gyfer y caneuon yn y ddwy gyfrol hynny, cafodd gymorth i baratoi'r drydedd gyfrol gan y cyfansoddwr Mansel Thomas pan oedd ef yn fyfyriwr yn yr Academi Gerdd Frenhinol.

Bu'n beirniadu cystadlaethau alawon gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, ac roedd bob amser yn selog dros hawliau casglyddion yr alawon ac yn protestio pan fyddai cyfansoddwyr yn eu trefnu heb y caniatâd priodol. Gwasanaethodd fel ynad heddwch yn sir Gaernarfon a bu'n amlwg yng ngweithgareddau Sefydliad y Merched.

Bu farw Grace Gwyneddon Davies ar 17 Hydref 1944, yn 65 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent Brynrodyn. Nid oedd plant o'r briodas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-11-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.