Ganed Mansel Thomas yn Stryd Llewelyn, Pont-y-gwaith, ger Tylorstown, Rhondda Fach, Morgannwg, 12 Mehefin 1909, yn fab i Theophilus ac Edith Treharne Thomas. Yr oedd ganddo frawd hyn, Wilfred, a fu farw'n blentyn, a chwaer iau, Elizabeth. Yr oedd ei dad yn gerddor amatur brwd, yn arweinydd y gân yng nghapel y Bedyddwyr, Hermon, Pont-y-gwaith, ac yn adnabyddus o fewn yr ardal fel arweinydd corawl. Anogodd ei fab i astudio cerddoriaeth, yn enwedig pan ddechreuodd y bachgen ifanc amlygu doniau nodedig.
Cydnabuwyd y doniau cerddorol arbennig hyn ymhellach pan enillodd Mansel Thomas, ac yntau'n ddisgybl 16 oed yn Ysgol Sir y Porth, Ysgoloriaeth y Rhondda a'i galluogodd i fynd i'r Academi Gerdd Frenhinol. Dan adain y cyfansoddwr Benjamin Dale cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr, gan ennill nifer o wobrau a graddio yn 1930 â gradd allanol B.Mus. ym Mhrifysgol Durham.
Treuliodd bum mlynedd fel cerddor llawrydd yn Llundain, gan weithio'n arbennig fel cyfansoddwr, arweinydd a hyfforddwr. Yn 1934 arweiniodd Gerddorfa Simffoni Llundain yn ei 'Thema ac Amrywiadau' yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd. Profodd ei ddawn i gyfansoddi ar gyfer cerddorfa yn bwysig iddo yn ystod ei flynyddoedd gyda'r BBC, felly hefyd ei allu fel cyfansoddwr caneuon a chyfansoddwr corawl nid yn unig yn y cyfnod hwn ond ar hyd ei yrfa.
Yn 1936 ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd fel cynorthwy-ydd cerdd a dirprwy arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC a oedd newydd ei ffurfio. Wedi gwasanaeth milwrol yn y Royal Army Service Corps, 1943-46, ailafaelodd yn ei ddyletswyddau gyda'r BBC, ond fel Prif Arweinydd y gerddorfa, ac yn 1950 fe'i penodwyd yn Bennaeth Cerdd BBC Cymru. Yr oedd y rhain yn flynyddoedd ffurfiannol ac o dan ei ofal proffesiynol ef cynyddodd nifer ac ansawdd y darllediadau o gerddoriaeth Gymreig.
Er iddo lwyddo'n ddi-feth i greu amser i gyfansoddi a threfnu, yr oedd y cynnydd yn ei ddyletswyddau yn y BBC - gyda dechreuad teledu yn cyflwyno dimensiwn pellach - yn golygu na châi'r amser a chwenychai i gyfansoddi. Penderfynodd felly ymddeol yn gynnar yn 1965 er mwyn ymroi i gyfansoddi. Symudodd gyda'i wraig Megan i fwthyn o'r 16eg ganrif mewn ardal wledig yng ngogledd Gwent lle y cynhyrchodd ei weithiau pwysicaf, yn enwedig ei weithiau lleisiol a chorawl. Gallai gyfansoddi yn ôl ei ddymuniad ac ymateb i gomisiynau, gan gynnwys dilyniant corawl 'Rhapsodi i Dywysog' ar gyfer Arwisgiad Brenhinol 1969.
Yr oedd Mansel Thomas yn un o gerddorion pwysicaf a mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth yng Nghymru. Yr oedd yn enwog trwy'r Dywysogaeth (ac ymhell tu hwnt) fel cyfansoddwr, arweinydd a beirniad, ac am flynyddoedd ef oedd prif gynrychiolydd cerdd y BBC yng Nghymru. Gallai felly gefnogi a hybu, a hynny'n nodweddiadol hael, yrfa gynnar nifer o gyfansoddwyr a pherfformwyr a ddaeth wedyn i'r brig. Cyfansoddodd ef ei hunan ystod eang o gerddoriaeth - yn unawdau lleisiol, darnau corawl (i leisiau cymysg, lleisiau merched, lleisiau meibion a lleisiau plant), darnau offerynnol (unigol a siambr), a darnau i fand ac i gerddorfa. Yr oedd yr un mor gartrefol mewn cerddoriaeth gysegredig a cherddoriaeth seciwlar, ond mynegodd ei hun yn fwy naturiol a diymdrech mewn gweithiau byr a chanolig nag mewn ffurfiau estynedig, megis oratorio, opera a simffoni. Parhaodd ei yrfa gyfansoddi am 60 mlynedd ymron ac mae'n disgyn i dri chyfnod - hyd at ac yn cynnwys yr Ail Ryfel Byd; 1946 hyd ei ymddeoliad cynnar yn 1965; a 1965 hyd 1979.
Lluniwyd ei gyfansoddiad cyntaf o bwys - “Cennin aur” - yng nghanol neu yn hwyr yn y 1920au yn benodol ar gyfer Côr Meibion Pendyrus a oedd newydd ei ffurfio ac a fyddai'n ymarfer yn ymyl ei gartref yn Tylorstown. Daeth y rhangan yn adnabyddus iawn ac yn 1939 gofynnodd W. S. Gwynn Williams (Cwmni Cyhoeddi Gwynn) am fersiwn ohoni i gorau cymysg, a ddaeth yn fuan yn fwy poblogaidd na'r gwreiddiol i gorau meibion. Mae caneuon a darnau corawl yn amlwg ym mhob un o'r cyfnodau ac mae'n debyg mai yn rhinwedd y rhain y mae ei enw yn fwyaf adnabyddus i berfformwyr a chynulleidfaoedd heddiw. Ceir dros 150 o ganeuon gwreiddiol a threfniannau o alawon traddodiadol i leisiau unigol; ymhlith y caneuon adnabyddus mae “Y Bardd”, “Coeden afalau”, “A Hymn to God the Father”, “Eifionydd” a'r ddwy set o ddeuddeg cân “Caneuon Grace a Siân” a “Caneuon y Misoedd”. Mae'r gweithiau corawl yn darparu ar gyfer amrywiaeth o grwpiau - meibion, cymysg, merched ac ieuenctid/plant. Yn ychwanegol at “Cennin aur” (TTBB a SATB), ceir gosodiadau i TTBB o emyndonau ac alawon Cymreig (megis “Llanfair”, “Llef” a “Fantasia on Welsh Airs”) a'r gweithiau gwreiddiol coeth “Psalm 135” a “Anthem of Challenge and Comfort”. Y mae hefyd ystod eang o weithiau ysbrydoledig i SATB - rhanganau a threfniannau o alawon traddodiadol Cymreig (megis “Ar lan y môr” ac “Ar hyd y nos”), motetau ac anthemau (gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gwyl Ddewi ac ar gyfer priodasau ei ddwy ferch), a gweithiau ar raddfa fwy megis ei “Requiem” a'r gantawd “In Praise of Wisdom”. Mae'r cyfansoddiadau i gorau merched a chorau ieuenctid/plant yn cyfuno'r cantorion mewn grwpiau amrywiol - unsain/SS/SA/SSA/SSAA ac yn y blaen - ac yn cynnwys “3 Songs of Enchantment”, “6 Elizabethan Partsongs” a “Songs of Britain” traddodiadol.
Mae ei holl gyfansoddiadau'n amlygu crefft neilltuol a gofal wrth ysgrifennu ar gyfer perfformwyr amatur a phroffesiynol, ac yn arbennig ar gyfer plant ac ieuenctid yn y repertoire lleisiol ac offerynnol. Mae ei weithiau siambr yn defnyddio cyfuniadau amrywiol ac fe'u coronir gan ei "Bumawd i Biano" (gwaith comisiwn); enillodd y trefniannau o alawon Cymreig traddodiadol gryn boblogrwydd trwy ddarllediadau ohonynt ar y BBC gan y 'Tâf Players' yn y 1950au. Denwyd cynulleidfaoedd hefyd gan y “Six Welsh Dances” a'r “Breton Suite” (a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Gerddorfa Gymreig y BBC), a chan y “Mini Variations on a Welsh Theme” a ysgrifennwyd i Harry Mortimer a'i 'Fairey Brass Band'. Mae'r gweithiau hyn a'r “Thema ac Amrywiadau” yn adennill tir bellach, yn enwedig ymhlith grwpiau iau, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol a Band Pres Ieuenctid Cymru.
Erys safle Mansel Thomas fel cyfansoddwr Cymreig heb bylu, ac am ei wasanaeth i gerddoriaeth ym Mhrydain derbyniodd FRAM yn 1951, OBE yn 1970, Cymrodoriaeth Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1972 a Gwobr Goffa John Edwards gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru yn 1983. Trasiedi oedd iddo ddioddef salwch difrifol ym Medi 1979 ac ni chyfansoddodd fawr ddim o bwys wedi hynny. Priododd y sielydd Gymreig Megan Lloyd yn 1939 ac fe anwyd iddynt ddwy ferch, Grace a Siân. Bu farw yng Nghartref Nyrsio Glaslyn Court, Gilwern, ger Y Fenni ar 8 Ionawr 1986 yn 76 oed, ac fe'i claddwyd yn Eglwys y Santes Fair Forwyn, Magwyr, sir Fynwy ar 11 Ionawr.
Gadawodd Mansel Thomas waddol sylweddol a thra gwerthfawr o gyfansoddiadau ac mae'r cyfan bron o'r rhai anghyhoeddedig bellach yn cael eu cyhoeddi gan Ymddiriedolaeth Mansel Thomas, a sefydlwyd yn 1987 gyda'r prif nod o gyhoeddi'r casgliad mawr o weithiau'r cyfansoddwr a oedd yn dal mewn llawysgrif. Cafodd yr Ymddiriedolaeth statws elusen y flwyddyn ganlynol ac mae'r prosiect cyhoeddi yn parhau. Mae'r cynnydd diweddar yn y gweithiau cyhoeddedig sydd ar gael wedi ysgogi diddordeb newydd a hybu perfformiadau nid yn unig yng Nghymru ond yn lletach yn y DU ac yn rhyngwladol yn Ewrop, UDA, Canada ac Awstralia. Pleser mawr i Ymddiriedolaeth Mansel Thomas oedd yr ymateb rhyngwladol brwd i ddathliadau canmlwyddiant y cyfansoddwr yn 2009 ac mae'n ddiolchgar o weld mwy o'i gerddoriaeth yn ymddangos ar recordiadau CD ardderchog. Mae llawer mwy eto i berfformwyr ei ddarganfod yng nghrefftwaith aruchel ac arddull ddeniadol y cyfansoddwr coeth hwn fel y bydd mwy a mwy o'i gorff sylweddol o gyfansoddiadau yn ymddangos mewn print. I hybu hyn mae Ymddiriedolaeth Mansel Thomas wedi cynhyrchu cyfres o wyth catalog sy'n rhestru ei holl gyfansoddiadau, y gellir eu gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth. Gellir hefyd gael copïau o gerddoriaeth ddalen i'w harchwilio trwy wneud cais i argraffwyr yr Ymddiriedolaeth, Banks Music Publications.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-04-26
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.