WILLIAMS, WILLIAM SIDNEY GWYNN (1896-1978), cerddor a gweinyddwr

Enw: William Sidney Gwynn Williams
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1978
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor a gweinyddwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed Gwynn Williams yn Plas Hafod, Llangollen ar 4 Ebrill 1896, yn fab i W. Pencerdd Williams (1856-1924), saer maen, cerddor ac arweinydd Cymdeithas Gorawl Llangollen. Bu ei fam farw cyn i Gwynn gyrraedd ei bedair oed. Cafodd hyfforddiant mewn sol-ffa gan ei dad, a derbyn Cymrodoriaeth y Coleg Tonic Sol-ffa (FTSC) yn ddiweddarach. Ymgymhwysodd fel cyfreithiwr ac ymuno â chwmni Emyr Williams yn Wrecsam, gan weithio hefyd i dŷ cyhoeddi Hughes a'i Fab, a golygu cylchgrawn dwyieithog Y Cerddor Newydd o 1922 hyd 1929.

Ymddiddorodd yn gynnar yn y traddodiad gwerin ac yn 1933 penodwyd ef yn Ysgrifennydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Yn 1946 daeth yn olygydd ar gylchgrawn y Gymdeithas yn olynydd i J. Lloyd Williams (1854-1945), ac etholwyd ef yn Gadeirydd y Gymdeithas yn 1957. Bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru. Yn 1932 cyhoeddodd gyfrol arloesol, Welsh National Music and Dance, a golygodd y cylchgrawn byrhoedlog Y Delyn, a ymddangosodd yn dri rhifyn yn 1947.

Bu'n Gyfarwyddwr Cerdd yr Orsedd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cerdd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ac urddwyd ef yn Gymrawd yr Eisteddfod. Roedd yn un o sylfaenwyr Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 1947, yn dilyn awgrym gan y newyddiadurwr Harold Tudor, a chadwodd gyswllt agos ag Eisteddfod Llangollen hyd ei farw.

Cyfansoddodd nifer o ganeuon a ddaeth yn adnabyddus, yn eu plith 'Duw ŵyr', 'Tosturi Duw', a 'My little Welsh home', a golygodd gyfrolau o ganeuon traddodiadol: Old Welsh Folk Songs (1927), Caneuon Traddodiadol y Cymry (1961, 1963), Un ar ddeg o Ganeuon Gwerin Cymru (1958). Yn 1937 sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn, a fu'n gyfrifol am gyhoeddi nifer fawr o weithiau (lleisiol yn bennaf) gan gerddorion Cymreig a darnau gan gyfansoddwyr Ewropeaidd gyda geiriau Cymraeg gan awduron megis T. Gwynn Jones a John Eilian (1904-1985). Coleddai weledigaeth am ysgol genedlaethol o gyfansoddwyr Cymreig a fyddai'n tynnu ar ffynonellau gwerin, ond roedd hefyd yn gwerthfawrogi dimensiwn cydwladol cerddoriaeth.

Priododd yn 1937 ag Elizabeth E. (Beti) Davies. Bu farw ar 13 Tachwedd 1978, a sefydlwyd gwobr goffa iddo ym maes cerddoriaeth werin yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-06-27

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.