JONES, THOMAS (1756 - 1820), awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1820
Priod: Mary Jones (née Lloyd)
Priod: A. Jones (née Maysmor)
Priod: Elizabeth Jones (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Idwal Jones

Ganwyd ym Mhenucha, Caerwys, treftadaeth ei dad Edward, a chafodd addysg glasurol yn ysgolion Caerwys a Threffynnon. Gan na fynnai gymryd urddau eglwysig nid aeth i'r brifysgol, ond yn 1772 ymunodd â'r Methodistiaid, ac yn 1783 dechreuodd bregethu. Gofalai am achosion yn yr Wyddgrug (1795-1804), Rhuthyn (1804-6), a Dinbych (1809-20). Priododd (1), 1795, Elizabeth Jones o'r Wyddgrug, merch dduwiol a chyfoethog a fu farw yn 1797 gan adael y rhan fwyaf o'i heiddo i'w gŵr; (2), 1804, A. Maysmor o Lanelidan; (3), 1806, Mary Lloyd o Lanrwst. Yn 1784 cyfarfu â Thomas Charles, a thrwy eu cyfeillgarwch agos daeth i gyffyrddiad â'r byd crefyddol o'r tu allan i Gymru, a mudiadau megis y Feibl Gymdeithas, Cymdeithas Genhadol Llundain, a'r ysgolion rhad cylchynnol. Dylanwadodd yntau ar Gymraeg ei gyfaill ac ar ei agwedd tuag at ordeinio gweinidogion. Cydweithient fel golygwyr Y Drysorfa Ysprydol, 1799-1801, a Rheolau a Dybenion y Methodistiaid yng Nghymru, 1801, a bu gohebiaeth gyson rhyngddynt. Ysgrifennodd gofiant Charles, 1814.

Yr oedd Thomas Jones yn un o arweinwyr mwyaf medrus a dysgedig ei enwad yn y Gogledd, a chafodd ei ordeinio gyda'r to cyntaf o weinidogion yn 1811. Yr oedd yn ysgolhaig, diwinydd, a hanesydd, yn ysgrifennu Cymraeg cryf, glân, a chywir. Yn ei hunangofiant diddorol rhydd hanes ei bererindod ysbrydol, a daw nerth a swyn ei bersonoliaeth yn amlwg. Bu ei gynnyrch llenyddol yn hynod fawr, gan gynnwys cyfieithiad o'r Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth gan Gurnal, 1796-1819; Hanes Diwygwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr, 1813; a Geiradur Saesoneg a Chymraeg, 1800. Yr oedd yn fardd da yn y mesurau caethion, gan ymhyfrydu yng ngwaith Dafydd ap Gwilym, fel y dengys ei 'Cywydd i'r Aderyn Bronfraith,' 1793; ac fe genir hyd heddiw nifer o'i emynau, megis ei gyffes ffydd, 'Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.' Cymerodd ran amlwg yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, gan geisio, trwy gynnig ac esbonio Calfiniaeth gymedrol mewn llyfrau a phamffledi, arbed ei enwad rhag eithafion Arminiaeth ac Uchel Galfiniaeth. Argraffwyd y rhan fwyaf o'i waith yn y wasg a osododd yn ei dŷ yn Rhuthyn yn 1804,'a gludodd gydag ef i Ddinbych, ac a brynwyd gan ei argraffydd, Thomas Gee, yn 1813. Bu farw yn Ninbych 16 Mehefin 1820.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.