LLOYD GEORGE (TEULU)

Sefydlwyd y teulu hwn trwy briodas David Lloyd George â Margaret Owen, 24 Ionawr 1888.

MARGARET OWEN (1864 - 1941)

Merch Richard a Mary Owen, Mynydd Ednyfed, Cricieth, Sir Gaernarfon, oedd MARGARET. Fe'i ganed hi 4 Tachwedd 1864; fe'i gwnaethpwyd hi'n Dame Grand Cross of the British Empire yn 1918. Bu farw 20 Ionawr 1941. Daeth o deulu a wreiddiwyd ym mywyd gwledig ac ymneilltuaeth Methodistiaid Calfinaidd Eifionydd. Yr oedd Richard Owen yn amaethwr cefnog, a weithredai o dro i dro fel prisiwr. Yr oedd hefyd yn flaenor yn y Capel Mawr (MC), Cricieth; pan gododd anghydfod ymhlith yr aelodau fe'i setlwyd trwy i'r gweinidog, John Owen, gyda rhai o'r blaenoriaid, gan gynnwys Richard Owen, a thua hanner aelodau'r eglwys, adael Capel Mawr a sefydlu eglwys Seion (MC) yng Nghricieth. Addysgwyd Margaret yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau; bu'n aelod ffyddlon o Seion, Cricieth, ar hyd ei hoes. Bu'n ffyddlon hefyd i'r gwerthoedd hynny y dysgwyd iddi eu parchu gan ei magwraeth ymneilltuol. Cyn eu priodas cafodd David Lloyd George a Margaret garwriaeth a dorrodd ar draws ffiniau enwadol a chymdeithasol, ac mae'r hanes yn hysbys bellach mewn llyfrau ar yrfa'r gwleidydd.

Bu iddynt bump o blant: Richard (1889 - 1968); Mair Eluned (1890 - 1907); Olwen Elizabeth (1892 - 1990); Gwilym (1894 - 1967); Megan Arfon (1902 - 1966). Bryn Awelon, Cricieth, oedd cartref sefydlog y teulu rhwng 1908, pan adeiladwyd y ty, ac 1941, pan fu farw'r Dâm Margaret. Oherwydd gyrfa wleidyddol D. Ll.G. bu gan y teulu hefyd cyn 1908 ac ymlaen o 1908 hyd at farwolaeth D. Ll.G. yn 1945, amryw o gartrefi o bryd i'w gilydd yn Llundain a'r cyffiniau. Cyfraniad arbennig Dâm Margaret oedd cadw undod y teulu dan amgylchiadau anodd a sicrhau mai Cymraeg oedd mamiaith pob un o'r plant.

RICHARD LLOYD GEORGE (1889 - 1968), yr ail Iarll Lloyd-George o Ddwyfor

Crewyd yr iarllaeth yn 1945, ychydig wythnosau cyn marw yr iarll cyntaf, David Lloyd George, ar 26 Mawrth 1945. Addysgwyd Richard yn ysgol uwchradd Porthmadog ac ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yr oedd yn Associate Member Inst. Civil Engineers; bu'n uchgapten yn y Peirianwyr Brenhinol yn rhyfeloedd 1914-1918 ac 1939-1945. Priododd (1), 1917, Roberta Ida Freeman, merch Syr Robert McAlpine, barwnig 1af; bu iddynt un mab, Owen, y trydydd Iarll Lloyd-George o Ddwyfor (ganwyd 1925) ac un ferch, Valerie, y Fonesig Goronwy Daniel. Diddymwyd y briodas, 1933. Priododd (2), 1935, Winifred Calve. Bu farw 1 Mai 1968, wedi gwaeledd hir.

Cyhoeddodd yn 1947 Dame Margaret - The Life story of my mother - teyrnged dwymgalon i goffadwriaeth ei fam, ac yn 1960, Lloyd George.

MAIR ELUNED LLOYD GEORGE (1890 - 1907)

Dywedir mai Mair Eluned oedd cannwyll llygad ei thad; bu bron iddo dorri ei galon adeg ei marwolaeth 29 Tachwedd 1907, wedi iddi dderbyn triniaeth lawfeddygol am lid y coluddyn (appendicitis). Yr oedd hi'n eneth hardd a thalentog, yn enwedig mewn cerddoriaeth; arferai ddiddanu ei rhieni wrth ganu'r piano ac ni allai ei thad ddygymod â'r ffaith fod y ' llaw wen dan grawen gro '. Codwyd cerflun marmor hardd ohoni o waith William Goscombe John uwch ei bedd ym mynwent Cricieth.

GWILYM LLOYD GEORGE (1894 - 1967), yr Is-iarll Tenby 1af; crewyd 1957 aelod o'r Cyfrin Gyngor (1941) ac ynad heddwch

Ganwyd 4 Rhagfyr 1894; addysgwyd yn Eastbourne College a Choleg Iesu, Caergrawnt (cymrawd anrhydeddus, 1953); yn Rhyfel Byd I, uchgapten R.A.; aelod seneddol (Rh) (1) 1922-24, (2) 1929-1950, y ddwy waith dros sir Benfro, (3) 1951-57, dros Newcastle-upon-Tyne North (fel Rh. Cen. a Cheidwadwr). Daliodd y swyddi a ganlyn mewn llywodraeth: ysg. sen. Bwrdd Masnach 1931 ac 1939-41; Ysg. sen. Gweinidog Bwyd 1941; Gweinidog Tanwydd a Phwer, 1942-45; Gweinidog Bwyd 1951-54 (Hydref); Ysgrifennydd Gwladol dros faterion cartref a Gweinidog materion Cymreig 1954 (Hydref) - 1957 (Ionawr). Fe'i crewyd yn Is-iarll Tenby yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd, 1957. Fe'i penodwyd yn gadeirydd Cyngor y Tribiwnlysoedd yn 1961. Priododd, 1921, Edna Gwenfron Jones, merch David Jones, Gwynfa, Dinbych. Bu iddynt ddau fab, a'r ail is-iarll Tenby yw David, ganwyd 4 Tachwedd 1922.

Yn ystod ei dymor fel Ysg. Gwladol dros faterion cartref a Gweinidog materion Cymreig yn y llywodraeth geidwadol cyhoeddoedd yn swyddogol yn enw'r llywodraeth mai Caerdydd fyddai prifddinas Cymru; fe'i hanrhydeddwyd â rhyddfraint y ddinas. Derbyniodd hefyd radd LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru. Bu farw 14 Chwefror 1967, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cricieth.

MEGAN ARFON LLOYD GEORGE (1902 - 1966), Aelod Seneddol

Merch ieuangaf David Lloyd George a'i wraig Margaret; ganwyd 22 Ebrill 1902. Fe'i haddysgwyd yn Garrett's Hall, Banstead, ac ym Mharis. Fe'i hetholwyd yn A.S. (Rh) dros Fôn 1929-31; yn AS (Rh. Annibynnol) dros Fôn 1931-45; yn A.S. (Rh) dros Fôn 1945-51. Yn etholiad cyffredinol 1951 hi oedd yr ymgeisydd Rh dros Fôn; fe'i trechwyd gan Cledwyn Hughes (Ll). Rhwng 1951 ac 1957 symudodd yn nes i'r chwith mewn gwleidyddiaeth ac ymuno â'r Blaid Lafur. Fe'i mabwysiadwyd yn ymgeisydd Ll. dros etholaeth Caerfyrddin; fe'i hetholwyd yn A.S. (Ll) dros Gaerfyrddin yn 1957. Parhaodd yn aelod Ll dros Gaerfyrddin hyd at ei marwolaeth 14 Mai 1966. Fe'i claddwyd ym mynwent Cricieth yn y gladdgell deuluol a wnaethpwyd pan fu farw ei chwaer Mair Eluned. Arwydd o'i phoblogrwydd a'r parch tuag ati oedd y dorf fawr a ddaeth i fynwent Cricieth ddydd yr angladd; yn eu mysg yr oedd Gwynfor Evans a enillodd sedd Caerfyrddin i Blaid Cymru yn yr is-etholiad a achoswyd gan ei marwolaeth.

Ar 1 Gorffennaf 1955 galwyd cynhadledd o bob plaid a mudiad dan nawdd Undeb Cymru Fydd yn Llandrindod i ystyried trefnu deiseb ar raddfa genedlaethol o blaid ymgyrch Senedd i Gymru. Yr oedd T. I. Ellis (ysg. U.C.F.), mab T. E. Ellis, ac Ifan ab Owen Edwards ar y llwyfan yn cefnogi'r ymgyrch, ac wrth gynnig y penderfyniad o blaid sefydlu pwyllgor i hyrwyddo'r ddeiseb a'r ymgyrch, galwodd M. Ll.G. sylw at hyn a dweud bod y tri ohonynt yn dair cangen o ' hen dderi mawr a'u gwreiddiau'n ddwfn yn naear Cymru '. Penodwyd hi yn llywydd y pwyllgor a sefydlwyd i drefnu'r ddeiseb; siaradodd mewn amryw gyfarfodydd ledled Cymru. Yr oedd ei henw a'r ffaith iddi etifeddu llawer o ddawn areithio'i thad yn sicrhau cynulleidfaoedd lluosog i'r cyfarfodydd hyn, a bu'n gyfrifol drwy ei harweiniad am symud llawer o ragfarn a fodolai yn erbyn y syniad o senedd i Gymru. Yr oedd yn un o'r ddirprwyaeth a gyflwynodd y ddeiseb i'r llywodraeth gyda chwarter miliwn o enwau yn Ebrill 1956. Yr oedd yn AS gweithgar a chydwybodol ar ran ei hetholwyr; ond mae'n eironig ar un wedd mai yn ystod tymor pan nad oedd yn A.S. y gwnaeth, efallai, ei chyfraniad mwyaf sylweddol i wleidyddiaeth ei chyfnod yng Nghymru.

Bu'n aelod o gyngor dinesig Cricieth am rai blynyddoedd, gan ddilyn esiampl ei mam yn hyn o beth, ac yn gadeirydd am flwyddyn; yn ynad heddwch, fel ei mam o'i blaen; etifeddodd hefyd yn helaeth hoffter ei mam o ardd Bryn Awelon, Cricieth; hi a etifeddodd Bryn Awelon ar ei hôl. Cafodd radd LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru. Yr oedd yn ddibriod. Daethpwyd i'w hadnabod fel y Fonesig Megan Lloyd-George 1 Ionawr 1945 pan gyflwynwyd yr iarllaeth i'w thad; fe'i gwnaed hefyd yn C.H. ychydig amser cyn ei marwolaeth. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd; ac am gyfnod yn llywydd gweithgar Cymdeithas Diogelu Harddwch Cymru.

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.