EDWARDS, Syr FRANCIS (1852 - 1927), barwnig ac aelod seneddol

Enw: Francis Edwards
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1927
Priod: Katherine Edwards (née Davis)
Rhiant: Edward Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barwnig ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 28 Ebrill 1852, yn bedwerydd mab Edward Edwards, Llangollen. Addysgwyd yn ysgol Amwythig a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. yn 1875. Priododd yn 1880 Catherine, merch David Davies o Faesyffynnon, Aberdâr, a bu iddynt un ferch. Bu'n ustus heddwch a dirprwy-raglaw dros sir Faesyfed, ac yn uchel siryf yn 1898. Cynrychiolodd sir Faesyfed yn y Senedd, 1892-5, 1900-Ionawr 1910, Rhagfyr 1910-8. Yn 1907 gwnaed ef yn farwnig. Yr oedd yn Rhyddfrydwr selog, a chymerodd ran amlwg yn nadl datgysylltiad. Yn 1913 cyhoeddodd (Llundain, Chiswick Press) Translations from the Welsh. Bu farw 10 Mai 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.