DAVIS, DAVID, hyn. (1797 - 1866)
mab Wm. David Jeffrey a Margaret (Lewis), ganwyd 1797 yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin. Bu'n brentis i'w ewythr ar ochr ei fam, Lewis Lewis, groser a brethynnwr ym Merthyr Tudful. Yna agorodd ei siop ei hun yn Hirwaun ac yn fuan wedyn priododd Mary Lewis. Yn ôl pob tebyg yr oedd hi'n ferch i Thos. Lewis, ewythr arall iddo. Llwyddasent, a chodi adeiladau mwy: magasant 5 mab a 5 merch, ac yr oeddent yn brif gynheiliaid achos newydd y Wesleaid Cymraeg yn Hirwaun. Fel y deuai'r plant i'w hoed, gallodd David adael y siop yng ngofal ei wraig a'i blant; agorodd lefel lo fechan ar Gefn Rhigos, a daeth hyn ag incwm ychwanegol iddo. Gwerthwyd y gwaith hwn gyda'i borthfa yn Llansawel yn 1847, ond ymhell cyn hynny cymerasai Davis les ar wythiennau glo-ager gwerthfawr ar ystad Blaen-gwawr, Aberaman, ac agorodd bwll yno yn 1843. Er mwyn cario'r glo i Gaerdydd, defnyddiodd yn gyntaf (1845) y gamlas ac yna (1847) y Taff Vale Railway. Gadawodd y siop yn Hirwaun yng ngofal ei ail fab Lewis (isod) a rhoes ei fab hynaf, David (isod) mewn siop yn Abercynon, Aberdâr. Gan fod nifer o'i weithwyr wedi mudo o Hirwaun i weithio ym Mlaen-gwawr, parodd godi yn 1850 y capel Wesleaidd Cymraeg presennol yn Aberdâr. Hyd yn hyn trigasai yn Hirwaun, ond tua 1851 dechreuodd agor pwll newydd yn Abercwmboi, ymhellach i lawr y cwm. Yna gadawodd Hirwaun a chodi tŷ iddo ei hun ym Mlaengwawr, gan roddi'r gorau i'r siop yn Nhrecynon, a chodi tŷ, Maes-y-ffynnon, i'w fab, David. Yr oedd hwnnw erbyn hyn wedi dyfod ato i arolygu'r gweithiau glo. Yn fuan wedyn gwerthwyd y siop yn Hirwaun, a rhoddwyd Lewis Davis yng Nghaerdydd i ofalu am werthu'r glo. Troes David Davis, hyn., ei sylw at y Rhondda Fach, lle nad oedd prin lwybr na neb wedi gweithio ar ei hadnoddau. Ar ôl ymdrechion costus ond di-fudd, trawodd o'r diwedd ar wythïen dda yn y fan a elwir yn awr Ferndale. Bu raid cyrchu'r offer angenrheidiol ar gefn ceffylau o Aberdâr yr ochr draw i'r mynydd. Yn 1865 agorodd Davis a pherchnogion eraill ddoc newydd ym Mhenarth, fel protest yn erbyn y costau trymion a godid yn nociau Bute yng Nghaerdydd. Ar ddechrau 1866 daeth â'i feibion, David, Lewis, Frederick a William, i'r bartneriaeth ' Davis & Sons '. Bu farw 19 Mai 1866, yn 69 oed, a'i gladdu ym mynwent S. Ioan, Aberdâr; bu farw ei weddw 11 Medi 1877.
Ar ôl ei farwolaeth agorodd y ffyrm byllau eraill yn Ferndale. Ymddeolodd William Davis yn 1867 a bu farw Frederick Davis yn 1876. Parhawyd y gwaith gan y ddau frawd arall.
Yr oedd David Davis, ieu. (1821 - 1884) yn fwy o ddyn cyhoeddus na'i dad. Bu iddo ran amlwg ym mherswadio Henry Richard i sefyll etholiad seneddol ym Merthyr Tudful ac Aberdâr (1868) ac fel Lewis ei frawd cafodd wahoddiad i ddyfod yn ymgeisydd seneddol yno pan ymddeolodd Richard Fothergill (III) yn 1880. Yr oedd yn feistr da, cadwodd weithiau glo Davis yn agored trwy gydol y ' cloi allan ' yn 1875, ac yn ddiweddarach daeth yn is-gadeirydd y Bwrdd Cymodi dan H. H. Vivian. Rhoes gynnig ar ddatblygu chwareli ym Meirionnydd, a bu'n uchel siryf y sir honno. Yr oedd ganddo dŷ yn Arthog, ac yno y bu farw ei wraig yn 1880. Yn Aberdâr chwaraeodd ran flaenllaw yn y bywyd cyhoeddus, yn enwedig ynglŷn âg addysg. Cyfrannodd yn hael at y colegau prifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Yr oedd ei dad wedi glynu'n glos trwy ei oes wrth y prif gyfundeb Wesleaidd, ond tynnwyd David Davis (ieu.) i mewn i'r ymrafael a arweiniodd, yn ardal Aberdâr, i ymddangosiad byr-hoedlog y cyfundeb Wesleaidd diwygiedig (gweler dan Jones, William. Cododd gapel i'r rhain yn Aberdâr, a ddaeth yn ddiweddarach yn achos Annibynnol. O'i ferched priododd Mary yr hynaf, ag H. T. Edwards, ficer Aberdâr, deon Bangor wedi hynny; priododd yr ail, Katherine, a Syr Francis Edwards.
Bwriadwyd Lewis Davis (1829 - 1888) ar gyfer y gyfraith, ond, fel y dywedwyd eisoes, fe'i tynnwyd i mewn i bethau ei dad. Yn 1867 ymgartrefodd yn Ferndale. Yr oedd yn ŵr tra chrefyddol, ac yn gefn mawr i Wesleaeth yn Ferndale a Chaerdydd - gweler ei gofiant, A Noble Life, gan David Young. Gyda'i frawd, a hefyd David Davies, Llandinam, hyrwyddodd wneuthur y Barry Dock and Railway (pasiwyd y Mesur 1884, agorwyd y doc 1889) er mwyn torri ar fonopoli y Bute Docks a'r T.V.R. Aethai i fyw i'r Mwmbwls, lle y bu farw 1 Ionawr 1888. Daeth ei fab, Frederick Lewis Davis, (1863 - 1920) yn olynydd iddo fel cyfarwyddwr ei weithiau glo.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.