Ganwyd yn 1814 neu 1815 ym Modedern, Môn. Ymunodd â'r 'Wesle Bach' (gweler Owens, Owen), ac yr oedd yn un o'u pregethwyr yn 1837; yn 1841 penodwyd ef yn genhadwr drostynt yn Lerpwl, ac yn 1842 golygai eu cylchgrawn, Blaguryn y Diwygiad, na pharhaodd ond am flwyddyn. Erbyn 1846, fodd bynnag, yr oedd yn weinidog eglwys mudiad cyfochrog y ' Wesleyan Methodist Association ' yno; priododd, yn 1849, â Jane Davies o'r Bala (bu farw 1853). Symudodd yn 1850 i fugeilio Moreia, Broughton (hithau gynt yn un o seiadau'r 'Wesle Bach'). Fis Tachwedd 1852 cymerth at eglwys yr 'Association' yn Aberystwyth; ond yn 1853 cefnodd ar yr enwad hwnnw ac ymunodd â'r ' Wesleyan Reformers '; plaid oedd hon a wrthryfelodd yn erbyn 'gormes' y 'Conference' Wesleaidd ac yn arbennig yn erbyn y Dr. Jabez Bunting - yn groes i'r ' Wesle Bach,' ni chafodd ei thraed dani yng Ngogledd Cymru (priodolir hyn i ddylanwad mawr Thomas Aubrey), ond llwyddodd i raddau yn y Deheudir, a chafodd gefnogaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, ond nid y Methodistiaid Calfinaidd, ar wahân i unigolion fel David Charles III. Gofalai William Jones am bedair o'u heglwysi: Elim (Tredegar), Merthyr Tydfil, a dwy yn Aberdâr - bu un o'r ddwy wedyn dan fugeiliaeth Hugh Hughes ('Huw Tegai'). Yn 1853 hefyd dechreuodd William Jones gyhoeddi cylchgrawn i'w enwad newydd, Gedeon (pedair cyfrol, 1853-6). Yn 1857 penderfynodd y ' Reformers,' fel enwad, ymuno â'r hen ' Wesleyan Methodist Association,' ond gymaint oedd atgasedd y ' Reformers' Cymreig at unrhyw fath o 'awdurdod' cymanfaol fel y penderfynasant sefyll allan. Yn 1858, cyfyngodd William Jones ei fugeiliaeth i Elim, gan annog ei dair eglwys arall i droi'n eglwysi Annibynnol - dyna a wnaethant. Yn 1861, troes yntau, a'i eglwys gydag ef, at yr Annibynwyr. Ailbriododd yn 1867. Bu farw 7 Medi 1895.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.