HUGHES, HUGH ('Tegai'; 1805 - 1864), gweinidog Annibynnol

Enw: Hugh Hughes
Ffugenw: Tegai
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1864
Rhiant: Barbara Hughes
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: David Tecwyn Evans

Ganwyd yn Llandegai, 1805, mab Thomas a Barbara Hughes, Annibynwyr eiddgar o sir Fôn. Pan gaewyd capel Annibynnol Cororion, Tregarth, Llandegai, ymunodd â'r Wesleaid yn Shiloh, Tregarth, a daeth yn bregethwr cynorthwyol. Ni bu mewn ysgol ddydd, ond cafodd addysg ysgolion Sul Cororion a Shiloh. Yn ieuanc iawn, aeth i weithio yn chwarel lechau Bethesda, a rhagorodd fel chwarelwr. Darllenai ac efrydai'n galed a chyson, a bu ei aelodaeth yng Nghymdeithas Cymreigyddion Bethesda'n addysg dda iddo. Cydolygai'n llawn â diwinyddiaeth y Wesleaid, eithr nid â'u ffurflywodraeth eglwysig; ail-ymunodd â'r Annibynnwyr, a derbyniodd alwad i fod yn weinidog Rhoslan. Wedyn, bu'n weinidog ym Manceinion ac yn Chwilog. Ar ôl ei dymor yn Chwilog, bu ganddo wasg argraffu o'r eiddo'i hun ym Mhwllheli, lle'r argraffwyd ac y cyhoeddwyd nifer o'i weithiau llenyddol, ynghyd â newyddiadur ceiniog, Yr Arweinydd. Yn 1859 aeth yn weinidog Bethel, Aberdâr, lle y bu'n dra llwyddiannus. Enillodd lawer o wobrau a chadair eisteddfodol, ysgrifennodd yn aml a helaeth i'r cylchgronau, a beirniadodd mewn llawer eisteddfod. Ymhlith ei lyfrau y mae Gramadeg Cymraeg, sef Ieithiadur Athronyddol ; Bwrdd y Bardd; Telyn y Saint; Ioan yn Ynys Patmos (awdl); Gramadeg Barddoniaeth; Agoriad Gwybodaeth (llyfr ar gyfansoddi ac areithio); Adolygiad ar Draethawd Eliseus Cole ar Benarglwyddiaeth; traethodau ar Llywodraeth Foesol; Annibyniaeth; Olyniaeth Apostolaidd; Moses a Colenso; Cydwybod; Y Bedydd Cristionogol; Dawn ar Bob Dyn. Bu Tegai'n ddiesgeulus yn ei orchwylion fel pregethwr, llenor, a bardd, a gellir ei ystyried yn enghraifft bur nodedig o werinwr difanteision wedi ei ddiwyllio'i hun nes cyrraedd safle anrhydeddus ymhlith ei gyfoeswyr; canmolodd y Dr. Lewis Edwards ei Ramadeg, a rhoed teyrnged dda i'w ryddiaith a'i farddoniaeth gan ' J.R.,' Llanbrynmair, a 'Gwilym Hiraethog.' Bu farw yn Aberdâr, 8 Rhagfyr 1864, a chladdwyd ef yng nghladdfa 'newydd' Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.