ROBERTS, JOHN ('J.R.'; 1804 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur

Enw: John Roberts
Ffugenw: J.r.
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1884
Rhiant: Mary Roberts (née Breese)
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn nhŷ'r Hen Gapel, Llanbrynmair, 5 Tachwedd 1804, ail fab John Roberts (1767 - 1834). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad yn yr Hen Gapel. Symudasai'r teulu i fyw i fferm y Diosg gerllaw yn 1806, a bu yntau yn gweithio ar y tir am gyfnod. Yr oedd ymron yn 25 oed cyn dechrau pregethu. Ym Mawrth 1831 derbyniwyd ef i'r athrofa yn y Drenewydd, a oedd bryd hynny dan ofal Edward Davies, Calfin a Thori. Nid ymddengys iddo fod yn hapus o gwbl yno a chyn pen tair blynedd cydsyniodd â gwahoddiad ei fam-eglwys i ddyfod i gynorthwyo ei dad a'i frawd 'S.R..' Wedi marw'i dad urddwyd ef, 8 Hydref 1835, yn gyd-weinidog â'i frawd. Bu am flwyddyn (1838-9) yn weinidog Llansantsiôr a Moelfre ger Abergele ond dychwelodd i Lanbrynmair, a bu yno hyd 1848, pryd y symudodd i Ruthyn. Oddi yno aeth i Lundain i ofalu am eglwys Gymraeg Aldersgate Street ac arhosodd yno hyd 1860, pryd y daeth i Gonwy, lle y bu farw, 7 Medi 1884; claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus Conwy.

Er iddo yn nechrau ei yrfa ddyfod i amlygrwydd fel pregethwr, eto fel dadleuwr a golygydd yr enillodd iddo'i hun enw gan mwyaf. Wedi i'w frawd 'S.R.' ymadael â Chymru yn 1857 ef a olygai Y Cronicl, a pharhaodd wrth y gwaith hyd ei farwolaeth. Llwyddodd i gadw poblogrwydd y cylchgrawn, er nad oedd i'w ddiddordebau yr un ehangder ag eiddo'i frawd. Tueddai i'w wneuthur yn faes ymryson ac ymgecru, a hynny ar bynciau eglwysig ac enwadol. Meddai arddull reithegol a rhugl, medrai lunio cân; barnodd W. J. Gruffydd ei delyneg, 'Eisteddai teithiwr blin,' yn un o oreuon yr iaith. Gwnaed tysteb iddo yng Nghonwy, a throsglwyddodd yntau yr arian at godi capel newydd yno, a 'Chapel y Dysteb' y gelwir ef o hyd. Cyhoeddodd Traethodau, Pregethau ac Ymddiddanion, 1854; Y Gyfrol Olaf o Bregethau, 1876; Hanesion y Beibl ar Ffurf Ymddiddanion, 1880; Dadleuon a Darnau i'w Hadrodd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.