Ganwyd 25 Chwefror 1767 yn Bron-y-llan, Mochdre, Sir Drefaldwyn. Aelodau o gynulleidfa Annibynnol Llanbrynmair oedd ei rieni, ac i gangen ohoni yn Aberhafesp yr aent. Yn 18 oed symudodd i Lanbrynmair at ei chwaer hynaf ac ymunodd â'r eglwys yno Hydref 1786. Dechreuodd bregethu Ionawr 1790 a'r mis Mawrth dilynol aeth, ar ei draul ei hun, i athrofa Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt a oedd dan ofal y Dr. Edward Williams, a bu yno hyd y Sulgwyn, 'yn ceisio dysgu Lladin.' Bu wedyn ysbaid gydag Abraham Tibbott yn Llanuwchllyn wrth yr un pwnc, ac wedi hynny ym Mhwllheli gyda Benjamin Jones. Yn Ionawr 1791 cydsyniodd y Bwrdd Cynulleidfaol (Llundain) iddo ddychwelyd i'r athrofa ar eu traul hwy ac aeth yno. Yn 1792 symudwyd yr athrofa i Wrecsam dan ofal Jenkin Lewis, a threuliodd dair blynedd yno. Cyn gorffen ei gwrs gwahoddwyd ef i Lanbrynmair i gynorthwyo Richard Tibbott; dechreuodd ar ei waith Ionawr 1795 ac urddwyd ef 25 Awst 1796. Ar farwolaeth Tibbott dewiswyd ef ym Mawrth 1798 i gymryd holl ofal yr eglwys. Yn ychwanegol at hynny ymgymerth â chadw ysgol ddyddiol mewn adeilad ynglŷn â'r Hen Gapel a pharhaodd i ofalu amdani nes y daeth ei fab hynaf Samuel Roberts ('S.R.') i'w gynorthwyo fel cydweinidog ag ef yn 1826. Hyd 1806 yn nhŷ'r Hen Gapel y preswyliai; yna symudodd i fferm y Diosg gerllaw, a chafodd brofi o orthrwm a thraha landlordiaeth a stiwardiaeth y dyddiau hynny. Fodd bynnag, cynyddu a wnâi ei weinidogaeth ac ehangodd ei faes hyd eithaf Carno a throsodd i Lanerfyl. Daethai i etifeddiaeth gyfoethog yn hanes Ymneilltuaeth yn yr ardal hon a manteisiodd yntau arni, ac nid rhyfedd iddi ddod yn 'grud i Annibyniaeth fore Cymru.'
Mewn diwinyddiaeth yn hytrach na gwleidyddiaeth yr oedd ei ddiddordeb pennaf, a buan y daeth y wlad i wybod am nerth ei argyhoeddiadau. Yn ei gyfnod ef yr oedd Cymru 'n ferw gan ddadleuon athrawiaethol, a'r ffyrnicaf ohonynt ond odid oedd yr un rhwng Calfiniaeth ac Arminiaeth. Fel disgybl i'r Dr. Edward Williams, cymerth John Roberts lwybr canol a daeth i'r maes ymhlaid yr hyn a elwid y 'System Newydd' a ddaliai na ddylid dilyn Uchel-Galfiniaeth ar y naill law nac eithafion Arminiaeth ar y llaw arall. Ar bwys y safle hwn a gymerai ymosodwyd yn chwerw arno gan y ddwyblaid, eithr ni chythruddwyd mohono gan mor fonheddig a llednais ei natur. Ysgrifennodd lu o erthyglau i'r cylchgronau i egluro ei safle. Daeth Thomas Jones o Ddinbych i'r maes yn ei erbyn a chyhoeddodd yntau ateb iddo yn y llyfryn a ddaeth mor enwog ac a adwaenid (yn herwydd ei gloriau) fel ' Y Llyfr Glas,' sef Galwad Ddifrifol ar Ymofynwyr am y Gwirionedd i Ystyried Tystiolaeth yr Ysgrythyrau ynghylch Helaethrwydd Iawn Crist. Ceid ynddo atodiad yn cynnwys erthyglau i'r un perwyl gan chwech o weinidogion yr Annibynwyr a'i cefnogai. Cyhoeddodd hefyd Galwad caredigol ar yr Arminiaid; Cyfarwyddiadau ac Anogaethau i Gredinwyr; A Friendly Address to the Arminians; Hanes Bywyd Lewis Rees; a rhai eraill. Bu farw 21 Gorffennaf 1834, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf, Llanbrynmair.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.