Ganwyd 14 Tachwedd 1750 yn Glanclwyd (rhwng Dinbych a Bodfari) hendref ei deulu am ganrif a hanner cyn hynny; mab i Thomas ac Anne Williams. Eglwyswyr oedd y rhieni, a bwriedid iddo gynnig am urddau, felly anfonwyd ef i ysgol ramadeg Llanelwy ac wedyn i Dderwen, i gael hyfforddiant gan offeiriad y plwyf hwnnw - David Ellis mae'n debyg. Diffygiodd awydd am urddau, a thybiwyd y gwnâi gyfreithiwr, felly aeth i ysgol ramadeg Caerwys - yr oedd Thomas Jones o Ddinbych yn yr ysgol gydag ef. Ond unwaith eto, rhoes y bwriad i fyny ac aeth adref. Yn y cyfwng hwn clywodd Daniel Rowland o Langeitho'n pregethu, ac ymunodd â'r Methodistiaid - flynyddoedd wedyn (1773) noda Edmund Jones yn ei ddyddlyfr fel yr oedd gweinidog Annibynnol Trelawnyd wedi gwrthod ei bulpud i Edward Williams ' because he had been preaching among the Methodists.' Eithr yn 1770 yr oedd Williams (gyda chydsyniad ei rieni, nad hoff oedd ganddynt Fethodistiaeth) wedi dechrau pregethu yn Ninbych gyda'r Annibynwyr, ac yn 1771 aeth i academi'r Fenni. Llanc hynod ddwys oedd ef, amddifad o unrhyw ysgafnder, a darllenai'n awchus gymaint felly nes iddo dros dro gael ei gipio gan olygiadau anuniongred William Llewelyn o Lanllieni; ond dychwelodd i'r hen lwybrau ac ordeiniwyd ef yn 1775 yn weinidog yn Ross. Fis Medi 1777, galwyd ef i Groesoswallt. At ei waith fel gweinidog, chwanegodd gadw ysgol, ac yr oedd ar fin datblygu honno'n academi breifat pan wahoddwyd ef i gymryd at academi'r Fenni ar ymadawiad Benjamin Davies i Homerton; ond mynnodd ef gael symud yr academi ato ef i Groesoswallt (Mai 1782). Sefydlodd ysgol Sul yng Nghroesoswallt ac mewn mannau cyfagos; a phan glybu am ysgolion cylchynol Thomas Charles, plannodd yntau ysgolion cyffelyb mewn amryw siroedd, gyda help ariannol gŵyr da eu byd yn Lloegr; darparodd gatecismau Cymraeg at eu gwasanaeth. Rhoes yr academi i fyny yn Hydref 1791; ar ddiwedd y flwyddyn, derbyniodd alwad i Carr's Lane, Birmingham, a dechreuodd ar ei waith yno yn 1792. Yn 1792, hefyd, daeth yn olygydd cyntaf yr Evangelical Magazine; a chafodd radd D.D. gan Brifysgol Edinburgh. Yr oedd yn un o gychwynwyr y ' London' Missionary Society ' (1795). Symudodd yn 1795 i gymryd gofal academi'r Annibynwyr yn Rotherham (Yorks), ac yno y bu farw, 9 Mawrth 1813. Bu'n briod ddwywaith. Y mae cofiant Saesneg iddo, gan Joseph Gilbert, 1825.
Fe'i gweithiodd ei hunan a'i fyfyrwyr yn ddidrugaredd ar hyd ei yrfa. Pan yng Nghroesoswallt, cyhoeddodd dalfyriad o Social Religion Mathias Maurice, a thalfynid o esboniad John Owen ar yr Hebreaid bu iddo wedyn ran yn y gwaith o gyhoeddi gweithiau Doddridge a Jonathan Edwards; cyhoeddodd gryn nifer o bregethau ac o anerchiadau - casglwyd rhai o'r rhain, yn bedair cyfrol (1862) gan Evan Davies (1805 - 1864). Ond ei gampwaith oedd An Essay on the Equity of Divine Government … 1813; yn hwn, ceisiodd gysoni pen-arglwyddiaeth Duw â rhyddid a chyfrifoldeb dyn, gan ddal bod yr Iawn yn 'gyffredinol.' Dyma lyfr gwir bwysig yn ei ddydd, nid yn unig yn Lloegr ond hefyd yng Nghymru. Serch mai Seisnig, bron yn gyfan gwbl, fu gyrfa Edward Williams, ac mai yn Saesneg y sgrifennai, y mae eto'n ffigur amlwg yn hanes ei enwad yng Nghymru. Mewn adwaith yn erbyn Arminiaeth ac Ariaeth 'gwŷr Caerfyrddin,' yr oedd arweinwyr Ymneilltuaeth yng Nghymru wedi ymchwelyd (megis yr ymchwelodd y Methodistiaid wedyn yng nghyfnod John Elias, mewn adwaith yn erbyn Wesleaeth) at uchel-Galfiniaeth. Edward Williams yn bennaf a ddechreuodd droi'r llanw'n ôl. Disgybl iddo ef (yng Nghroesoswallt) oedd John Roberts o Lanbrynmair, tad y 'system newydd' a welir yn dylanwadu ar wŷr fel Michael Jones mewn gwrthgyferbyniad i'r 'hen system' a gynrychiolid gan George Lewis. Ac nid yn ei enwad ei hun yn unig chwaith y darllenid Equity Edward Williams, fel y dengys hanes Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd') a Chofiant John Jones, Talsarn. Tri lladmerydd newid yn niwinyddiaeth tri enwad yng Nghymru yng nghwrs y 19fed ganrif oedd Edward Williams o Rotherham yr Annibynnwr, John Philip Davies o Dredegar y Bedyddiwr, a Lewis Edwards o'r Bala (yn ddiweddarach ac mewn dull gwahanol).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.