Ganwyd 9 Mawrth 1786, mab i David Davies, clerigwr ym Mangor Teifi a Henllan, Ceredigion. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Nhrefach ac ymaelodi'n ddiweddarach yn Llandysul, lle y gweinidogaethai Daniel Davies, brawd ei dad. Dechreuodd bregethu yn 1804, ac ar gymhelliad Titus Lewis aeth' ar daith genhadol i'r Gogledd ac ymsefydlodd yn weinidog ar Fedyddwyr Sir y Fflint yn Nhreffynnon yn 1810. Symudodd i Lerpwl yn 1811 a thrachefn i Lundain yn 1813. Daeth yma i gyswllt agos ag Andrew Fuller, ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Dychwelodd i Gymru yn 1815 i ofalu am eglwysi Glanyfferi a Chydweli, a symudodd i Dredegar yn 1817 lle y bu hyd ei farw, 23 Awst 1832.
Ef oedd apostol Calfiniaeth gymedrol Andrew Fuller yng Nghymru. Ymwrthodai â'r Uchel Galfiniaeth a oedd yn dra phoblogaidd yn ei ddydd. Ni fynnai ef gysylltu'r Iawn â dioddefaint Crist eithr â'i berson. Dysgai'r Uchel Galfiniaid athrawiaeth Iawn Gytbwys, sef bod dioddefiadau Crist o'r un pwys â phechodau'r etholedigion, dros y rhai yn unig y bu farw. Daliai J. P. Davies fod Iawn Crist, yn rhinwedd anfeidroldeb ei berson, yn ddigonol i ddynolryw gyfan, a chan na chredai fod anallu naturiol mewn dyn i gredu'r efengyl, taerai mai dyletswydd pob gwrandawr oedd ei derbyn. Credai yntau yn Neilltuolrwydd y Prynedigaeth, eithr lleolai'r neilltuolrwydd yng nghyfaddasiad effeithiau'r Iawn at yr etholedigion yn unig, ac nid yn rhinwedd yr Iawn ei hun. Cymerth ran flaenllaw yn y ddadl Ffwleraidd yn Seren Gomer, 1822-3, o dan y ffugenw ' Mab Dewi Ddu.' Cyhoeddodd amryw ysgrifau a phregethau yn Seren Gomer (1822-3, 1818, 1824, 1825), ynghyd â chyfieithiad o gyfrol A. Fuller ar ddatguddiad. Wedi ei farw cyhoeddodd D. Rhys Stephen ei draethodau diwinyddol, gan gynnwys byr-gofiant iddo. Yr oedd J. P. Davies yn un o bregethwyr huotlaf ei ddydd ac yn ddiwinydd galluog a ddylanwadodd yn drwm ar ddiwinyddiaeth y genedl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.