LEWIS, TITUS (1773 - 1811), gweinidog Bedyddwyr

Enw: Titus Lewis
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1811
Rhiant: Lewis Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd 21 Chwefror 1773 yng Nghilgeran, mab Lewis Thomas, gweinidog Cilfowyr, a'i fam yn chwaer i D. Evans y Dolau. Dysgodd grydda gyda'i dad. Bedyddiwyd ef ym Mlaenywaun, dechreuodd bregethu yn 1794, ac ordeiniwyd ef yno yn 1798. Gan iddo briodi, 20 Tachwedd 1800, â merch o Gaerfyrddin na hoffai Landudoch, symudodd i Gaerfyrddin yn 1801 i fugeilio'r Porth Tywyll, ond daliodd i weinyddu'r cymun yn Blaenywaun. Yr oedd yn enwog fel amddiffynnydd Calfiniaeth, yn ei bregethu ac yn ei ysgrifeniadau. Yn 1805 cyhoeddodd A Welsh-English Dictionary, Geirlyfr Cymraeg a Saesneg (ail arg., 1815). Yn 1806, gyda chymorth Joseph Harris, cafwyd Y Drysorfa Efangylaidd, ef yn defnyddio'r ffugenwau ' Obadiah ' a ' Gaius,' meddai Thomas Shankland, a Harris ' Adelphos o Abertawe ' - eithr dau rifyn a ymddangosodd. Ei brif waith oedd Hanes … Prydain Fawr, 1810, cyfrol 624 o dudalennau. Cytunodd Titus Lewis, Christmas Evans, a Joseph Harris i gyfieithu yn Gymraeg esboniad Dr. Gill ar y Testament Newydd - Lewis yn olygydd ac i gywiro'r proflenni. Eithr gan iddo farw ar ôl cwplau'r Actau, nid ymddangosodd ychwaneg, prawf mai ef a ddug y baich trymaf. Gweithiau eraill Titus Lewis oedd Holwyddoreg ar holl bynciau crefydd; Esboniad ar y cyffelybiaethau, 1811 (cyfieithiad o waith Keach); Testament Llogell, gyda nodiadau byrion; Llyfr Rhyfeddodau, 1808; Mawl i'r Oen; Pigion o Hymnau, 1810; a phethau eraill. Fe'i gordrethodd ei hun, a bu farw 1 Mai 1811.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.