HARRIS, JOSEPH (‘Gomer’; 1773 - 1825), gweinidog y Bedyddwyr

Enw: Joseph Harris
Ffugenw: Gomer
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1825
Priod: Martha Harris (née Symons)
Plentyn: Hannah Stephen (née Harris)
Plentyn: John Harris
Plentyn: John Ryland Harris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Joseph Rhys

yn yr Heol Gefn, Abertawe; ganwyd yn fab i hwsmon yn Llantydewi ger Casblaidd, Sir Benfro, a bedyddiwyd ef yn Llangloffan tua 1792/3. Wedi ei gynhesu yn niwygiad Casmael yn 1795, dechreuodd bregethu, a chyhoeddi Casgliad o Hymnau yn 1796 at y rhai a gyhoeddasai yn 1793. Priododd Martha Symons, Casnewydd-Bach, a daeth yn 1801 i'r Heol Gefn, a mynd am bedwar mis i athrofa Bryste. Cythryblodd Arminiaeth yr Heol Gefn yn 1800, a blinid yr Hen Dŷ Cwrdd gan Undodiaeth; cyhoeddodd yntau Bwyall Crist yng Nghoed Anghrist yn 1804. Gadawodd ei Traethawd ar Briodol Dduwdod ein Harglwydd Iesu Crist, 1816-7, ei ddelw ar ddiwinyddiaeth llawer. Enillodd gymeradwyaeth Drindodiaid pob cyfundeb ymron. Cadwodd draddodiad pregethu'r Diwygwyr yn fyw. Llafuriodd yn eiddgar dros y Gymraeg a chanu'r cysegr. Cyhoeddodd Casgliad o Hymnau yn 1821, ag ynddo lawer o'r eiddo'i hun, a'u gwerthu gyda phethau eraill yn ei siop lyfrau. Cadwai ysgol-ddydd. Gellir ei alw'n dad y newyddiadur Cymraeg. Ei Seren Gomer, 1814-5, oedd yr wythnosolyn cwbl Gymraeg cyntaf. Er i'r ymgymeriad ei golledu'n fawr, ac er iddo fethu gyda hwn fel gyda'i Greal y Bedyddwyr, 1817, a'r Drysorfa Efengylaidd, 1806, y ceisiodd ef a Titus Lewis ei redeg, fe lwyddodd ei Seren Gomer bythefnosol (1818). Cyhoeddodd hefyd Yr Anghyffelyb Broffeswr (cyfieithiad), 1802, Y Beibl Dwyieithawg, Esboniad Dr. J. Gill ar y Testament Newydd, wedi ei drosi yn Gymraeg ganddo ef a Thitus Lewis a Christmas Evans, a Cofiant Ieuan Ddu, ei fab. Bu farw 10 Awst 1825, ychydig dros 52 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/