EVANS, CHRISTMAS (1766 - 1838), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru

Enw: Christmas Evans
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1838
Priod: Catherine Evans (née Jones)
Rhiant: Joanna Evans
Rhiant: Samuel Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Thomas Jones

Ganwyd yn yr Esgaerwen, ym mhlwyf Llandysul, Sir Aberteifi, ddydd Nadolig 1766, mab Samuel Evans, crydd, a'i wraig Joanna. Prentis plwyf, gwas fferm yn amaethdai'r fro, yn eu plith cartref yr enwog David Davis, Castellhywel - dyna ei hanes yn llanc. Ymuno ag eglwys D. Davis pan oedd oddeutu 18 oed, dysgu darllen Cymraeg, cael mynd tros dro i ysgol ei feistr a dysgu rhywfaint o Saesneg a Lladin, dechrau pregethu heb fawr o raen ar ei waith yng nghanol oerni deallol Arminiaeth - hyn a fu ei ran hyd onid oedd yn rhyw 21 oed. Yn awr, ymaelododd yn eglwys Bedyddwyr Aberduar, a dycnodd arni gyda'i bregethu mewn awyrgylch mwy tanbaid-ddiwygiadol. Yng nghymanfa Maesyberllan, 1798, darbwyllwyd ef gan wyr o'r Gogledd i ddychwelyd gyda hwy i efengylu fel ' pregethwr teithiol ' ymhlith Bedyddwyr Llŷn. Ordeiniwyd ef yn haf 1789; priododd Catherine Jones yn eglwys Bryncroes, 23 Hydref 1789; cerddodd, marchogodd, pregethodd yn ei blwyf eang, a'r effeithiau yn rhyfeddol.

Wrth draed Robert Roberts , Clynnog, pregethwr aruthraf pulpud Cymru, ryw brynhawn Sul, cafodd olwg a gafael newydd ar grefft pregethu, a chanfu yn y ddrama ddefnydd y pregethu hwnnw a weddai i'w ddawn arbennig ef. Robert Roberts a roes iddo 'allwedd y lefel.' Ar ddydd Nadolig 1791 marchogai o Lyn i Fôn, a Chatrin wrth ei sgil, i gymryd gofal Bedyddwyr Môn yn eu pencadlys yn Ebenezer, Llangefni, a byw yn y Ty Capel - ty a chapel y Cildwrn. Fel 'Esgob Môn' yr hoffai synio amdano ei hun; gadawodd ei ôl ar hanes Bedyddwyr Môn, rhoes ruddin yn hunanymwybod yr enwad yn yr ynys, a'i fynych deithio rhwng De a Gogledd yn bachu Môn wrth Fedyddwyr Cymru gyfan. O gymanfa'r Felinfoel (1794) ymlaen, dichon mai efe oedd pregethwr mwyaf poblogaidd y Bedyddwyr. Ar y cychwyn, bu'n cynorthwyo J. R. Jones a'i fudiad Sandemanaidd yn eiddgar, ond wedi i'r gwr hwnnw ffurfio ei enwad ei hun graddol gilio oddi wrtho a wnaeth Christmas Evans. Ailgychwynnwyd cymanfa'r Gogledd ym Môn yn 1802, ac un o orchestion Christmas Evans oedd gwneuthur y gymanfa honno yn ganolfan pregethu mawr. Gadawodd Christmas Evans Fôn yn 1826, a gweinidogaethodd wedyn yng Nghaerffili (1826-8), Caerdydd (1828-32), Caernarfon (1832-8). Ar ei deithiau casglodd gannoedd o bunnau i ddiddyledu ei gapeli. Cynrychiolodd ei enwad yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, a chyhoeddi 'o gylch ugain o lyfrau chwecheiniog ac un swllt' (chwedl yntau), a llyfr ar Teetotaliaeth. Gwyddai ddigon o Saesneg i bregethu yn yr iaith honno ac i ddarllen esboniadau, llyfrau diwinyddol, a'r tadau Piwritanaidd. Yr oedd ganddo rywfaint o Hebraeg a digon o Roeg i ffeindio ei ffordd trwy eiriadur Parkhurst a rhywbeth yn debyg oedd ei Ladin. Ceir swm o gyfeiriadau hanesyddol yn ei bregethau. Yr oedd yn hoff o farddoniaeth Gymraeg, o dreio ei law ar englyn, a chyfieithu Shakespeare a Milton a Chowper a Young, ac o ystumio ei iaith ar ddull W. O. Pughe. Peth rhyfeddol oedd ei haelioni at Gymdeithas y Beiblau a'r achos cenhadol ac athrofa y Fenni o'i gyflog o £17 y flwyddyn.

Ei ddawn bregethwrol a roes iddo enwogrwydd. Yr oedd yn un o dri chedyrn pulpud Cymru yn oes aur ein pregethu. Ei gorff anferth, afrosgo, ond esgobaidd; ei deimladau cryfion, wr y tanau mawr ag ydoedd; ei gof enbyd; yn anad dim, ei ddychymyg - dyna beth o'i gyfalaf naturiol. Nid hap a digwydd yn unig oedd ei ddawn bregethwrol, eithr gwyddai ddamcaniaethau pregethwriaeth. Yr oedd ynddo athrylith i ganfod personau, a phethau, a phriodoleddau, a'u cyflwyno i'w wrandawyr ar ddull darlun a phanorama a drama. Efe oedd pen alegorydd pulpud ei ddydd. Dramâu yw ei bregethau enwocaf, 'comedies' a 'tragedies' (chwedl ' Brutus '), a Christmas ei hun oedd y 'playwright' a'r actor; rhaid cofio bod y dull hwn o bregethu yn taro i'r dim i werin ei oes. Ei berygl oedd gadael i beiriant darluniadol ei ddychymyg ddianc oddi arno a mynd i ysbrydoli pob un o fanion ei ddarlun, ond fe lwyddodd yn amlach nag y methodd. Mae ei gyfamodau ysgrifenedig yn brawf o'i dduwioldeb. Ar daith i'r De, bu farw yn nhy Daniel Davies ('Y Dyn Dall'), yn Abertawe, 19 Gorffennaf 1838, a'i gladdu wrth ystlys capel Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.