OWEN, DAVID ('Brutus '; 1795 - 1866), golygydd a llenor

Enw: David Owen
Ffugenw: Brutus
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1866
Priod: Anne Owen (née Jones)
Rhiant: Rachel Owen
Rhiant: David Benjamin Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd a llenor
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Jones

Ganwyd tua diwedd 1795 (bedyddiwyd ef 25 Rhagfyr 1795) ym mhlwyf Llanpumpsaint, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd ei dad, David Benjamin (Owen), yn grydd ac yn glochydd, a'i fam Rachel (Owen), yn aelod gyda'r Bedyddwyr. Cafodd addysg dda a hyfforddiant yn y clasuron. Bwriadai fod yn feddyg ac fe'i prentisiwyd gyda John Thomas, Aberduar, ger Llanbydder. Yn ystod ei brentisiaeth troes at y Bedyddwyr a rhoi ei fryd ar y weinidogaeth. Bu am flwyddyn yn athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste cyn ymsefydlu yn Aber, rhwng Bangor a Llanfairfechan, fel ysgolfeistr a phregethwr cynorthwyol. Ymhen tair blynedd symudodd i Lyn i ofalu am gapeli Tal-y-graig, Galltraeth, Tyndonnen, a Rhoshirwaun, ac ordeiniwyd ef yn weinidog rheolaidd. Ymgartrefodd yn Llangïan; ac yn ogystal â gweinidogaethu, gwasanaethai fel meddyg gwlad ac ysgolfeistr. Tua 1820 priododd Anne, merch Thomas Jones, Rhandir, ffarmwr o'r gymdogaeth a diacon gyda'r Annibynwyr. Hwyrach mai tlodi ynghyd â byrbwylltra a barodd iddo apelio am help ariannol oddi wrth gymdeithasfa'r Undodiaid, gan haeru fod ei gynulleidfaoedd wedi derbyn syniadau Undodaidd. Dadlennwyd ei dwyll ac fe'i diarddelwyd gan gymanfa'r Bedyddwyr ym Mhwllheli.

Yr hyn a'i dug i amlygrwydd yng Nghymru oedd ei lythyr (dan y ffugenw ' Brutus') yn Seren Gomer, Mawrth 1824, yn ymosod ar yr iaith Gymraeg. O hynny allan fel ' Brutus ' yr adwaenid ef. Wedi'i ddiarddel gan y Bedyddwyr, ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn y Capel Newydd ac ymroi i gadw ysgol yn Llangïan. Cafodd bregethu gyda'r Annibynwyr, ond ni ddaeth yn boblogaidd. Wedyn symudodd i Dyddynsweep, Maenaddfwyn, ger Llannerch-y-medd; ond ni bu'n llwyddiannus iawn yno chwaith, ac yn y man symudodd i'r Bontnewydd ger Caernarfon a chadw ysgol yno. Yn 1828, ar ôl ei benodi'n olygydd Lleuad yr Oes, cylchgrawn a gyhoeddid yn Aberystwyth, aeth i gadw ysgol yn Llanbadarn-fawr, ond pan brynwyd hawlfraint y cylchgrawn hwnnw yn 1829 gan Jeffrey Jones, yr argraffydd o Lanymddyfri, aeth ' Brutus ' i fyw ym Mhentre-ty-gwyn. Pan fu Jeffrey Jones farw yn 1830, cychwynnwyd Yr Efangylydd, fel dilynydd i Lleuad yr Oes, gan bwyllgor o weinidogion yr Annibynwyr, gyda ' Brutus ' yn olygydd a D.R. a W. Rees, Llanymddyfri, yn argraffwyr. O dan olygyddiaeth ' Brutus ' troes y cylchgrawn newydd yn fwy gwleidyddol nag y bwriedid iddo fod, a'i duedd at geidwadaeth wleidyddol ac eglwysig, a bygythiwyd troi ' Brutus ' o'i swydd. Diwedd yr anghydfod oedd i'r Reesiaid sefydlu cylchgrawn newydd, Yr Haul, at wasanaeth yr Eglwys Sefydledig, a chyda ' Brutus ' yn olygydd, ac i'r Annibynwyr sefydlu'r Diwygiwr, gyda'r Parch. D. Rees yn olygydd, yn 1835. Dychwelodd ' Brutus ' at yr Eglwys, yn Llywel, a symud i fyw ym Mhwllmadog, ger y Pentre-bach, rhwng Llanymddyfri a Threcastell. Yn ddiweddarach bu'n byw ym Mronarthen, ger yr Half-way. Hyd ddiwedd ei oes parhaodd i olygu 'r Haul gyda medr mawr, ond byddai'n mynd yn achlysurol i gapel y Bedyddwyr, Horeb, yng Nghwm-dwr. Y mae'n rhyfedd na chafodd urddau gan yr Eglwys. Bu farw ar 16 Ionawr 1866 a'i gladdu yn eglwys Llywel, lle y mae coflech iddo.

Yr oedd yn ysgrifennwr toreithiog a chyhoeddodd lu o lyfrau crefyddol a diwinyddol; yn eu plith y mae Athrawiaeth Bedydd Babanod, 1828; Cwymp Babilon Fawr, 1829; Breinniau Babanod, 1830; Daearyddiaeth Ysgrythyrol, 1835; Allwedd y Cyssegr, 1835 (2il arg. 1839); Christmasia, 1840 (2il arg. 1861, 3ydd arg. 1887); Gweithrediadau yr Eglwys Sefydledig, 1841; Gwaedd Uwch Gwlad, 1843; Eliasia, 1844; Darganfyddiadau yn Ninefeh, 1852 (cyfieithiad o lyfr Saesneg gan A. H. Layard); Brutusiana, 1855, detholiad o'i ysgrifeniadau yn Yr Haul; a Cofiant y diweddar Barch. Thomas Williams, 1861. Nid fel ysgolhaig na diwinydd y mae'n bwysig, ond yn hytrach fel dychanwr. Ei brif gocyn hitio oedd cwacyddiaeth, yn arbennig cwacyddiaeth pregethwyr gwaethaf yr Ymneilltuwyr, y 'Jacs' fel y'u gelwid. Hwynthwy a ddilornir mewn llu o ysgrifau, traethodau, ac adolygiadau, yn Ymddiddanion Bugeiliaid Epynt (detholiad gan T. Jones , 1950) (Yr Haul, 1835-6), ac yn Wil Brydydd y Coed (ibid., Medi 1863-Rhagfyr 1865), a gyhoeddwyd hefyd ar wahân yn 1876 a 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.