JONES, THOMAS (1910-1972), ysgolhaig Cymraeg

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1972
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd Thomas Jones yn yr Allt-wen, Pontardawe, Morgannwg, yr hynaf o saith plentyn William ac Elizabeth Jones, y tad yn un o frodorion Sir Gaerfyrddin a oedd wedi ymfudo i weithio yn y gweithiau tun yng nghwm Tawe. O ysgol ramadeg Ystalyfera ac wedi ennill Ysgoloriaeth y Wladwriaeth, aeth Thomas Jones i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, yn 1928 lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn Lladin yn 1931 ac anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1932. Penodwyd ef yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn adran y Gymraeg yng ngholeg Aberystwyth yn 1933 a threuliodd beth amser yn Iwerddon yn 1935 a 1936 ac yn 1938 yn L'École des Haute Études ym Mharis yn astudio gydag Edmond Faral, M.-L. Sjœstedt-Jonval a Joseph Vendreyes. Gwasanaethodd gyda'r RAMC ym Madagascar yn ystod Rhyfel Byd 2 ond dioddefodd afiechyd difrifol a bu rhaid iddo ymadael â'r fyddin yn 1941. Dychwelodd i Aberystwyth lle y bu'n Ddarlithydd (1941), Uwch-ddarlithydd (1946), ac Athro a Phennaeth adran y Gymraeg o 1952 hyd 1970 pan ymddeolodd o'r gadair yn dilyn cryn afiechyd a chael ei benodi i gadair bersonol. Er ei fod yn ymchwilydd egnïol a thra chynhyrchiol, yr oedd Thomas Jones yn athro nodedig a brwdfrydig a allai ysbrydoli ei fyfyrwyr a hefyd yn weinyddwr craff a gweithredol. Bu'n ddeon y gyfadran, yn is-brifathro, yn ysgrifennydd ac yna'n gadeirydd adran iaith a llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ac yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, o Gyngor a Llys Prifysgol Cymru ac o'r Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd ar fwrdd golygyddol Geiriadur Cymraeg Prifysgol Cymru a bu'n olygydd adran iaith a llên Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1964 hyd 1972.

Prif feysydd ymchwil Thomas Jones oedd rhyddiaith Cymraeg Canol - y chwedlau brodorol ('mabinogion') a chyfieithiadau o Ladin a Hen Ffrangeg. Enillodd radd M.A. gyda rhagoriaeth yn 1935 am ei waith ar dri chyfiethiad Cymraeg Canol o destunau (ffug) hanesyddol a'r ddisgyblaeth hon a osododd sylfeini ei olygiadau o fersiynau amrywiol Brut y Tywysogion yn bedair o gyfrolau yn 1941, 1952, 1955 (a enillodd iddo radd D.Litt) ac yn 1971 (Brenhinedd y Saesson). Mae'r golygiadau cyfewin hyn a'r dadansoddiad o gronoleg y cofnodion ac o ffynonellau Lladin coll y testunau wedi sicrhau fod ym meddiant haneswyr un o ddogfennau sylfaenol hanes Cymru'r oesoedd canol. Hyn, mae'n debyg, fydd cyfraniad mwyaf nodedig Thomas Jones i ysgolheictod Cymraeg. Câi llenyddiaeth Ladin Gymreig yr oesoedd canol le amlwg ym maes anrhydedd yr adran Gymraeg yn Aberystwyth. Cyflwynwyd gwaith Gerallt Gymro i gynulleidfa newydd yng Nghymru trwy gyfrwng cyfieithiadau Cymraeg Thomas Jones o'i ddau lyfr ar Gymru ynghyd â'i astudiaethau o agweddau ar y gweithiau hynny. Ei brif gyfraniad arall oedd ei astudiaethau o chwedlau'r 'mabinogion' mewn nifer o erthyglau ac adolygiadau ond yn bennaf yn y cyfieithiad Saesneg a baratowyd ganddo ef a'i gydweithwr Gwyn Jones yn 1948 ac a ailgyhoeddwyd droeon wedyn. Yng nghudd i raddau o dan y cyfieithiad hwn y mae llawer o waith testunol arloesol gan Thomas Jones. Arweiniodd ei astudiaeth o'r chwedlau i drafodaethau eraill ar lên gwerin a llenyddiaeth Arthuraidd. Yr oedd gan Thomas Jones lawer o ddiddordebau ysgolheigaidd eraill, megis yr Hengerdd, 'Englynion y Beddau', O.M. Edwards, 'Brutus', y dychanwr o'r 19fed ganrif, a chyfieithodd rai storiau o'r Wyddeleg. Trawyd ef yn bur wael yn 1965 a gorfu iddo ymddeol yn gynnar yn 1970 yn dilyn anhwylderau ar y galon. Er hynny, daliodd ati i weithio hyd y gallai ac yn 1971-72 llwyddodd i gwblhau ei olygiad o ran gyntaf 'Ystoryaeu Seint Greal', cyfieithiad o La queste del Saint Graal a gyhoeddwyd ar ôl ei farw yn 1992.

Priododd Thomas Jones Mary (Mair) Sivell yn 1947 a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn ysbyty Llanymddyfri 17 Awst 1972 a'i gladdu ym mynwent Aberystwyth 22 Awst.

Y mae llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau (gyda llun ohono) yn Studia Celtica, X/XI (1975/76), 5-14.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.