Ganwyd yn Cilfowyr, o lwyth pregethwrol, yn frawd i wraig Titus Lewis, Caerfyrddin. Dechreuodd bregethu tua 1763. Cymerodd ofal eglwysi'r Dolau a Roc yn 1771. Am na fedrai fawr Saesneg, ymddeolodd o'r olaf.
Bu cryn lwyddiant ar ei lafur ym Maesyfed a Maldwyn. Meddai ddawn boblogaidd ac ysbryd cenhadol. Ef oedd y cyntaf i fyned i'r Gogledd ynglyn â chenhadaeth yr enwad yn 1776, a'r cyntaf i fedyddio trwy drochiad ym Môn. Bu farw 14 Hydref 1790 yn 50 oed..
Mab iddo oedd David Evans (1773 - 1828).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.