STEPHEN, DAVID RHYS ('Gwyddonwyson '; 1807 - 1852), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur

Enw: David Rhys Stephen
Ffugenw: Gwyddonwyson
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1852
Priod: Mary Stephen (née Morgan)
Priod: Hannah Stephen (née Harris)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 23 Ebrill 1807. Codwyd ef yn Fethodist Calfinaidd, ond bedyddiwyd ef gan J. P. Davies yn Nhredegar, 3 Gorffennaf 1825. Dechreuodd bregethu tua'r un adeg, a derbyniwyd ef i athrofa'r Fenni yn 1828. Sefydlwyd ef yn Mount Pleasant, Abertawe, 25 Ebrill 1831. Symudodd i Gasnewydd, 1840, oddi yno i Fanceinion, 1845, ac yn ôl i Gymru, i Abercarn, yn 1849. Yno y bu hyd ei farwolaeth, yn y Sgeti, 24 Ebrill 1852. Priododd, 17 Tachwedd 1835, Hannah (3 Medi - 1814 - 2 Awst 1842), pedwerydd plentyn Joseph Harris ('Gomer'), a (2), 6 Rhagfyr 1843, Mary Wilson, merch David Morgan, Abertawe.

Yr oedd 'Gwyddonwyson' yn ŵr amlwg ym mhulpud ei enwad, ond cofir yn bennaf am ei weithiau llenyddol a diwinyddol. Cyhoeddodd (1) Dwyfoliaeth … Iesu Grist. Pregeth, 1834; (2) Ffurf Priodas Ymneillduwyr, 1838 (gyda D. Rees, Llanelli); (3) Cofiant … John Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn Nhrosnant, Pontypwl, 1841 (gyda W. Jones, 'Bleddyn,' a David D. Evans); (4) On the True Church of Jesus Christ; an essay, 1842; (5) Luther, Milton, and Pascal: Three lectures, 1845; (6) Memoirs of Christmas Evans, 1847; a (7) Pwka'r Trwyn, the celebrated Mynyddyslwyn Sprite, 1851. Y mae ar gael hysbysiad (1851) o waith arall o'i eiddo - 'A Lecture on the Amalgamation of the Welsh and English Elements in the Formation of Character in the mineral districts of South Wales,' ond nid ymddengys ei gyhoeddi. At hyn golygodd (1) Traethodau … gan John Phillip Davies … [T]redegar, 1834; (2) Gweithiau Awdurol … Joseph Harris ('Gomer'), 1839; (3) Cofiant a Gweddillion Awdurol … Ebenezer Rowland Jones … Liverpool, 1840; a (4) Joseph Harris ('Gomer'), Casgliad o Hymnau (6ed arg.), 1845. Sefydlodd gylchgrawn o'r enw Morgan Llewelyn's Journal, ac ef oedd golygydd yr ychydig rifynnau ohono a gyhoeddwyd yng Nghasnewydd-ar-Wysg o 1 Mai hyd 31 Gorffennaf 1841. Cyhoeddwyd marwnadau iddo yn (1) W. Downing Evans, The Gwyddonwyson Wreath, 1853; (2) W. Thomas ('Islwyn'), Gwaith Barddonol, 1897, 573-81; a chyda Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'), Morgan Howells, a John Jones ('Tegid'), yn (3) W. Ambrose ('Emrys'), Cymdeithas Lenyddawl Aberystwyth. Y Bryddest Fuddugol, 1853; a (4) Edward Roberts ('Iorwerth Glan Aled'), Cerdd Allwyn, 1853. Gadawodd ei lawysgrifau i'w sgutorion James Rowe a David Lloyd Isaac. Ceir llythyrau o'i eiddo at William Roberts ('Nefydd') yn NLW MS 7177D , NLW MS 7779E .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.