HOWELLS, MORGAN (1794 - 1852), gweinidog gyda'r Methodistiaid

Enw: Morgan Howells
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1852
Priod: Ann Howells (née Morgan)
Priod: Mary Howells (née Lewis)
Rhiant: Elizabeth Howells
Rhiant: Morgan Howells
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn y ' Breach,' S. Nicholas, Morgannwg, ym Mai 1794, mab Morgan ac Elizabeth Howells, aelodau o seiat Fethodistaidd Trehyl (ac yn cymuno yn eglwys Llanddiddan Fach lle'r oedd y Parch. Howell Howells, y curad Methodistaidd, yn gweinyddu). Cafodd ychydig o addysg yn ysgolion ei ardal. Bu farw'i dad yn 1807, ac yn 1810 bu raid iddo fynd i Gasnewydd i ddysgu crefft saer. Cafodd argyhoeddiad dwys o dan weinidogaeth y Parch. John Rees, gweinidog capel Gobaith, ac ymunodd â'r eglwys yno. Dechreuodd bregethu yn 1815, ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1824. Bu'n briod ddwywaith: (1) a Mary Lewis, chwaer Richard Lewis ('Dic Penderyn'), 1827, (2) ag Ann Morgan, Glyn Ebwy, 1843. Symudodd i Dredegar adeg ei ail briodas, ac yno y bu farw 21 Mawrth 1852. Ef oedd prif addurn Methodistiaeth Mynwy yn ystod ei oes fer, a daeth yn enwog dros Gymru fel pregethwr. Yr oedd bywiogrwydd ei ddychymyg, tanbeidrwydd ei deimlad, a gwres ei ddawn yn sicr o gynnau tân ymhob oedfa. Cododd gapel yng Nghasnewydd yn 1829 a bu i ddyled hwnnw bron a'i lethu un adeg, ond casglodd arian dros y wlad i dalu amdano. Codwyd capel newydd yng Nghasnewydd yn goffa iddo yn 1903. Cyhoeddwyd Gweithiau Morgan Howells … pregethau a thraethodau dan olygyddiaeth Edward Matthews yn 1858.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.